Canllawiau

Ffioedd yn y llysoedd sifil a theulu – prif ffioedd (EX50)

Gwybodaeth am y prif ffioedd sydd angen ichi eu talu i wneud hawliad am arian, i gael ysgariad neu os ydych yn gysylltiedig â math arall o achos yn y llysoedd sifil a theulu.

Dogfennau

Manylion

Efallai y bydd angen ichi dalu ffi os byddwch yn defnyddio gwasanaeth yn y llysoedd sifil neu deulu. Mae’r ffi y bydd rhaid i chi dalu yn dibynnu ar y math o wasanaeth a maes y gyfraith y mae’ch gwasanaeth yn gysylltiedig ag ef.

Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys:

  • ffioedd y llys sifil - rhestr o’r prif ffioedd
  • ffioedd y llys teulu - rhestr o’r prif ffioedd
  • sut i dalu ffioedd llys, gael help i dalu ffioedd a chael ad-daliad

Mae’r llysoedd sifil a theulu yn darparu nifer o wasanaethau a ffioedd. I weld y rhestr lawn, ewch i Ffioedd yn y llysoedd sifil a theulu - rhestr lawn.

I gael arweiniad ar ddefnyddio gwasanaeth llys, chwiliwch am y mater yr hoffech gael cyfarwyddyd arno ar GOV.UK. Gallwch hefyd ddod o hyd i gasgliad o ffurflenni’r llys a thribiwnlys.

Os na allwch ddod o hyd i ffi neu ffurflen, cysylltwch â’ch llys sirol neu deulu lleol.

Cael cyngor

Os oes arnoch angen help i ddefnyddio gwasanaeth llys, efallai yr hoffech geisio cyngor gan weithiwr proffesiynol ym maes y gyfraith neu gan Canolfan ar Bopeth.

Mae Cyngor ar Bopeth yn elusen genedlaethol ac yn rhwydwaith o elusennau lleol sy’n cynnig cyngor cyfrinachol ar-lein, dros y ffôn, ac wyneb yn wyneb yn rhad ac am ddim.

Gwefan: www.citizensadvice.org.uk
Ffôn: 0800 702 2020 (Cymru) neu 0800 144 8848 (Lloegr)
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Wedi cau ar wyliau banc

Cyhoeddwyd ar 1 April 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 January 2024 + show all updates
  1. Added Welsh translations of the English guidance

  2. Converted the PDF guide to be HTML documents.

  3. Uploaded new Welsh language version of EX50

  4. Uploaded a new version of EX50

  5. New versions of EX50 added.

  6. Uploaded new version of ex50

  7. Revised fees come into force on 18 May 2021.

  8. Welsh version updated.

  9. New fees payable from 3 August 2020

  10. Replaced with EX50 fees from March 2019.

  11. Added a Welsh EX50 document.

  12. Added revised EX50 with text changes throughout.

  13. First published.