Canllawiau

Ffioedd y llys teulu (EX50)

Diweddarwyd 1 May 2024

Trosolwg

Mae’r arweiniad hwn yn cynnwys detholiad o ffioedd y llys teulu. Gweler yma y rhestr lawn o’r ffioedd a godir yn y llys sifil a’r llys teulu (EX50A).

Mae’r rhestrau llawn o holl ffioedd y llysoedd ar gael mewn Offerynnau Statudol (OS) a elwir yn orchmynion ffioedd a gellir eu gweld ar-lein yn www.legislation.gov.uk

Mae’r ffioedd llys ar y dudalen hon yn berthnasol i’r Uchel Lys, y llys sirol a’r llys teulu, a’r un fath ymhob un, oni nodir fel arall. Bydd eich llys lleol yn gallu eich helpu i ganfod unrhyw ffi nad yw wedi’i chynnwys yn yr arweiniad hwn.

Achosion priodas a phartneriaeth sifil

Math o gais Ffi
Ffeilio cais am ysgariad, dirymiad neu ddiddymu partneriaeth sifil (gorchymyn ffioedd 1.2) £593
Ffeilio cais am ymwahaniad cyfreithiol (gorchymyn ffioedd 1.3) £402
Ffeilio cais am ail orchymyn, gorchymyn priodasol dilynol neu orchymyn partneriaeth sifil gyda chaniatâd (gorchymyn ffioedd 1.5) £95
Ffeilio ymateb i gais am orchymyn priodasol neu orchymyn partneriaeth sifil (gorchymyn ffioedd 1.6) £245
Ffeilio cais diwygiedig am orchymyn priodasol neu orchymyn partneriaeth sifil (gorchymyn ffioedd 1.5) £95
Ffeilio cais i gychwyn achos pan nad oes unrhyw ffi arall wedi’i nodi (gorchymyn ffioedd 1.1) £270
Ffeilio datganiad ynghylch statws priodasol, pwy yw’r rhieni, cyfreithlondeb neu fabwysiadau a ddigwyddodd dramor (gorchymyn ffioedd 1.3) £402

Gorchmynion ariannol

Math o gais Ffi
Cais am orchymyn ariannol, ac eithrio drwy gydsyniad (gorchymyn ffioedd 5.4) £303
Cais am orchymyn ariannol drwy gydsyniad (gorchymyn ffioedd 5.1) £58

Ceisiadau am waharddebau – cartrefi teuluol a thrais domestig

Math o gais Ffi
Cais am orchymyn rhag molestu Dim ffi
Cais am orchymyn anheddu Dim ffi

Ceisiadau am orchymyn amddiffyn rhag priodas dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod

Math o gais Ffi
Gwneud cais i gychwyn achos am orchymyn amddiffyn rhag priodas dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod Dim ffi
Gwneud cais i ddiwygio, amrywio neu ymestyn gorchymyn amddiffyn rhag priodas dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod Dim ffi

Plant

Mae’r arweiniad ar geisiadau yn y llys teulu sy’n ymwneud â phlant (CB1) yn cynnwys mwy o wybodaeth am y math o geisiadau y gellir eu gwneud dan y Ddeddf Plant a phwy sy’n gallu eu gwneud. Mae detholiad o’r ceisiadau mwyaf cyffredin i’w gweld yn yr adran hon:

Ceisiadau dan Ddeddf Plant 1989 (gorchymyn ffioedd 2.1)

Math o gais Ffi
Unrhyw geisiadau newydd o dan Ddeddf Plant 1989 i ofyn am ganiatâd i gychwyn achos neu i orchymyn neu gyfarwyddiadau gael eu gwneud ynghylch y plentyn neu’r plant, er enghraifft gorchymyn trefniadau plant, gorchymyn camau gwaharddedig, gorchymyn mater penodol neu orchymyn gwarcheidiaeth arbennig (ac eithrio ceisiadau am orchmynion gofal a goruchwylio a gyhoeddir gan awdurdodau lleol) £255
Cais am orchymyn gorfodi o dan Ddeddf Plant 1989 neu orchymyn am iawndal am golled ariannol, oherwydd methiant gorchymyn trefniadau plant £255
Cais i ddirymu, diwygio, ymestyn neu gymryd camau gweithredu yn dilyn torri amodau gorchymyn gorfodi Deddf Plant 1989 cyfredol £112

Dim ond 2 enghraifft sydd yn y gorchymyn ffioedd teulu lle bo £245 yn daladwy (nid yw achosion o dan Ddeddf Plant 1989 yn un ohonynt):

Math o gais Ffi
Ffeilio cais i gychwyn achos pan nad oes unrhyw ffi arall wedi’i nodi (ffi 1.1 gorchymyn ffioedd teulu) £270
Ffeilio ymateb i gais am orchymyn priodasol neu orchymyn partneriaeth sifil (ffi 1.6 gorchymyn ffioedd teulu) £245

Mae ceisiadau i gychwyn achos newydd o dan Ddeddf Plant 1989 yn cael eu diffinio fel unrhyw gais am orchymyn lle nad oes achos yng nghyswllt y plentyn neu’r plant yn cael ei ystyried ar y pryd gan y llys.

Os oes achos dan Ddeddf Plant 1989 eisoes yn cael ei ystyried yng nghyswllt y plentyn neu’r plant, codir y ffi gwneud cais am geisiadau o fewn achos.

Dylid gwneud cais am orfodaeth yn gyntaf gyda ffi o £255 a dim ond wedi hynny y gellir gwneud cais am dorri amodau gyda ffi o £102.

Am ragor o wybodaeth gweler Ceisiadau o fewn achosion.

Gorchmynion cynhaliaeth

Gweler yr adran Achosion gorfodi teulu ) i gael manylion am y ffioedd sy’n berthnasol wrth wneud cais am orchymyn i orfodi gorchymyn talu arian.

Os ydych yn dymuno amrywio gorchymyn cynhaliaeth cyfredol, gweler Ceisiadau o fewn achosion.

Mabwysiadu

(Gorchymyn ffioedd 3.1 i 3.3)

Math o gais Ffi
Cais am ganiatâd, neu orchymyn £201

Bydd un ffi o £201 yn daladwy am un plentyn neu sawl brawd/chwaer wedi’u ffeilio gyda’i gilydd. Os byddant yn cael eu ffeilio ar wahân, ac ar wahanol adegau, yna mae ffi o £201 yn daladwy bob tro.

Math o gais Ffi
Cais am orchymyn lleoli (adran 22) £539

Bydd un ffi o £490 yn daladwy am un plentyn neu sawl brawd/chwaer wedi’u ffeilio gyda’i gilydd. Os byddant yn cael eu ffeilio ar wahân, ac ar wahanol adegau, yna mae ffi o £490 yn daladwy bob tro.

Math o gais Ffi
Dirymu lleoli £201

Os byddwch yn cychwyn ceisiadau ar gyfer brodyr a chwiorydd ar yr un pryd, dim ond un ffi sy’n daladwy.

Ceisiadau o dan y Ddeddf Plant a mabwysiadu

Dim ond un ffi sy’n daladwy pan wneir cais neu phan geisir caniatâd dan 2 ddarpariaeth neu fwy o:

  • Ddeddf Plant 1989
  • Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002
  • Deddf Plant a Mabwysiadu 2006

Os yw’r ffioedd yn wahanol, yna dylid talu’r ffi uchaf.

Ceisiadau mewn achosion

Mae ‘ar rybudd’ neu ‘gyda rhybudd’ yn golygu bod y parti arall wedi’i hysbysu am y cais, waeth os oes gwrandawiad neu beidio.

Mae ‘heb rybudd’ yn golygu nad yw’r parti arall wedi’i hysbysu am y cais, waeth os oes gwrandawiad neu beidio.

Math o gais Ffi
Cais ar rybudd pan nad oes ffi arall wedi’i phennu (gorchymyn ffioedd 5.3) £184
Cais drwy gydsyniad neu heb rybudd pan na bennir ffi arall, er enghraifft cais i ddad-restru neu ohirio gwrandawiad (gorchymyn ffioedd 5.1) £58

Nid oes rhaid ichi dalu ffi os ydych yn gwneud cais i atal y person:

Apeliadau

Math o apêl Ffi
Wrth ffeilio hysbysiad o apêl gan farnwr rhanbarth, un neu fwy o ynadon lleyg (ynadon), clerc ynadon neu gynorthwyydd i glerc ynadon, ac eithrio apêl yn erbyn penderfyniadau a wneir o dan Ddeddf Plant 1989 (gorchymyn ffioedd 6.1) £138
Ynghylch unrhyw ddarpariaeth yn Neddf Plant 1989, ac eithrio yng nghyswllt apeliadau am dorri neu ddiddymu gorchymyn gorfodi (gorchymyn ffioedd 2.3 i 2.4) £237

Os byddwch yn ffeilio hysbysiad o apêl ar gyfer brodyr a chwiorydd ar yr un pryd, dim ond un ffi sy’n daladwy.

Cais teulu am wasanaeth (gorchymyn ffioedd 15.1)

Math o gais Ffi
Cais i unrhyw ddogfen gael ei chyflwyno gan feili £45
Cais i feili gyflwyno, ar ran y ceisydd neu geisydd trydydd parti, ceisiadau am orchymyn rhag molestu, gorchymyn anheddu, gorchymyn amddiffyn rhag priodas dan orfod neu orchymyn amddiffyn rhag anffurfio organau cenhedlu benywod Dim ffi

Ffioedd teulu eraill, gan gynnwys copïau o ddogfennau a chostau

Copi o ddogfennau (gorchymyn ffioedd 8.1 i 8.2)

Os byddwch yn gofyn i’r llys wneud copïau o ddogfennau neu ddarparu copi o ddogfen sydd eisoes wedi’i darparu:

Rhif neu fformat Ffi
Hyd at 10 tudalen o unrhyw ddogfen £11
Am bob tudalen ychwanegol ar ôl y 10 cyntaf 50c
Dogfennau ar ddisg cyfrifiadur neu fformat electronig arall £11

Penderfynu ar gostau teulu (gorchymyn ffioedd 9.1 i 9.5)

Math o gais neu apêl Ffi
Cais am asesiad manwl pan fo’r parti sy’n ffeilio’r cais yn cael cymorth cyfreithiol neu’n cael ei noddi gan yr Asiantaeth Cyngor Cyfreithiol (LAA) £94
Apêl yn erbyn penderfyniad a wnaed mewn achos asesu manwl £231
Cais i gyflwyno tystysgrif costau diffygdalu £65
Cais i roi tystysgrif costau diffygdalu o’r naill du £121

Pan wneir y ceisiadau canlynol, mae’r ffi sy’n daladwy yn dibynnu ar y costau sy’n cael eu hawlio:

  • Cais am asesiad manwl pan nad yw’r parti sy’n ffeilio’r cais yn cael cymorth cyfreithiol neu’n cael ei noddi gan yr Asiantaeth Cyngor Cyfreithiol (LAA)
  • Cais am ddyddiad gwrandawiad ar gyfer asesu costau yn dilyn gorchymyn dan Ran 3 Deddf Cyfreithwyr 1974
Gwerth y costau a hawliwyd Ffi
Hyd at £15,000 £335
£15,000.01 i £50,000 £675
£50,000.01 i £100,000 £1,005
£100,000.01 i £150,000 £1,345
£150,000.01 i £200,000 £1,680
£200,000.01 i £300,000 £2,520
£300,000.01 i £500,000 £4,200
Mwy na £500,000 £5,600

Achosion gorfodi teulu

Gallwch gychwyn achos gorfodi os yw’r llys wedi gorchymyn i rywun dalu swm o arian i chi neu i ddychwelyd eich nwyddau, eiddo neu dir, a hwythau heb wneud hynny.

Math o orfodaeth y gall y llys ystyried yn briodol (gorchymyn ffioedd 5.1)

Math o gais Ffi
Cais yn y llys teulu ar gyfer gorchymyn am y math o orfodaeth gall y llys ei ystyried yn briodol £58

Gorchymyn i gael gwybodaeth gan ddyledwr (gorchymyn ffioedd 12.1)

Math o gais Ffi
Cais am orchymyn i ddyledwr neu unigolyn arall fynychu llys i ddarparu gwybodaeth £59
Gwneud cais i feili gyflwyno gorchymyn i ddyledwr fynychu’r llys i ateb cwestiynau £100

Atafaelu enillion (gorchymyn ffioedd 12.5)

Math o gais Ffi
Cais am orchymyn atafaelu enillion £37

(Mae ffi i’w thalu am bob diffynnydd y gofynnir i’r gorchymyn gael ei wneud yn ei erbyn).

Gorchymyn arwystlo (gorchymyn ffioedd 12.3)

Math o gais Ffi
Gwneud cais am orchymyn arwystlo £42

Mae’r ffi yn daladwy am bob gorchymyn arwystlo y gwneir cais amdano.

Gwŷs dyfarniad (gorchymyn ffioedd 12.4)

Math o gais Ffi
Gwneud cais am wŷs dyfarniad £80

Gorchymyn dyled trydydd parti

Math o gais Ffi
Gwneud cais am orchymyn dyled trydydd parti neu orchymyn garnisio/penodi derbynnydd (gorchymyn ffioedd 12.2) £85
Gwneud cais i orfodi dyfarniad neu orchymyn (gorchymyn ffioedd 13.1) £110

O safbwynt gorchymyn dyled trydydd parti neu orchymyn garnisio/penodi derbynnydd mae ffi yn daladwy ar gyfer pob parti y gofynnir am y gorchymyn yn ei erbyn.

Ffioedd gwarantau rheolaeth

Math o warant Ffi
Gwneud cais i orfodi gwarant mewn cyfeiriad newydd (gorchymyn ffioedd 13.2) £30
Codi gwarant i feddiannu neu gwarant i drosglwyddo (gorchymyn ffioedd 13.3) £131
Codi gwarant rheolaeth i adfer swm o arian (gorchymyn ffioedd 13.1) £110

Gorfodi yn yr Uchel Lys (gorchymyn ffioedd 14.1 i 14.2)

Math o orfodi Ffi
Selio gwrit rheolaeth, meddiannu neu trosglwyddo £66
Cais i gofrestru dyfarniad neu orchymyn £66

Chwiliadau

(Gorchymyn ffioedd 7.1 i 7.3)

Mynegai dyfarniadau absoliwt neu orchmynion terfynol

Chwilio’r mynegai ar gyfer unrhyw gyfnod penodol o 10 mlynedd calendr neu’r 10 mlynedd mwyaf diweddar.

Math o chwiliad Ffi
Chwilio’r mynegai canolog cenedlaethol o ddyfarniadau absoliwt a gorchmynion terfynol £65
Chwilio’r mynegai canolog cenedlaethol o gytundebau cyfrifoldeb rhiant £45
Chwilio mynegai dyfarniadau absoliwt a gorchmynion terfynol unrhyw lys teulu penodol neu gofrestrfa ddosbarth £45

Mae’r ffi yn cynnwys copi o’r cytundeb, os yw’n briodol.