Canllawiau

Talu ffi y llys sifil neu’r llys teulu, cael help i dalu ffioedd neu gael ad-daliad

Diweddarwyd 1 May 2024

1. Trosolwg

Efallai y bydd angen ichi dalu ffi os byddwch yn defnyddio gwasanaeth yn y llys sifil neu’r llys teulu, megis gwneud neu ymateb i gais. Mae’r ffi y bydd rhaid i chi dalu yn dibynnu ar y math o wasanaeth a maes y gyfraith y mae’ch gwasanaeth yn gysylltiedig ag ef.

Mae’r llysoedd sifil a theulu yn darparu nifer o wasanaethau a ffioedd. I weld y prif ffioedd, ewch i:

I weld y rhestr lawn, ewch i Ffioedd yn y llysoedd sifil a theulu - rhestr lawn.

2. Talu ffi’r llys

Gan amlaf bydd angen ichi dalu eich ffi llys ar ddechrau’r broses - hynny yw, pan fyddwch yn cyflwyno eich cais. Efallai y bydd cyfarwyddyd y gwasanaeth neu’r ffurflen yn dweud wrthych bod angen ichi dalu’r ffi ar ryw adeg arall.

Dulliau talu

Yn dibynnu ar y gwasanaeth, gallwch dalu ffi’r llys:

  • ar-lein
  • dros y ffôn gyda cherdyn debyd neu gerdyn credyd
  • yn bersonol gyda siec, arian parod, cerdyn debyd neu gredyd - efallai y bydd angen i chi wneud apwyntiad
  • drwy’r post gyda siec
  • gyda’ch Rhif Trosglwyddiad Cyfrif (PBA) GLlTEF, os ydych yn weithiwr proffesiynol ym maes y gyfraith

Pan fyddwch yn defnyddio gwasanaeth ar-lein yna bydd rhaid i chi dalu’r ffioedd ar-lein, er enghraifft i wneud hawliad am arian.

Os ydych yn talu yn bersonol gyda siec neu’n anfon siec drwy’r post, gwnewch y siec yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF’. Os na fydd y siec yn clirio, yna bydd y llys yn cymryd camau i adennill yr arian ac efallai y bydd eich cais yn cael ei ohirio tra gwneir hyn neu’n cael ei wrthod.

Dylai dulliau talu’r gwasanaeth fod wedi’u nodi’n glir yn y cyfarwyddyd neu yn y ffurflen. Os nad ydych yn siŵr, gofynnwch i’r llys sut y gallwch dalu, ble i anfon taliad drwy’r post neu’r rhif ffôn ar gyfer talu dros y ffôn. Gwybodaeth am gost galwadau.

Gwasanaethau ar-lein

Gallwch ddefnyddio’r naill neu’r llall o’r prosesau syml, hwylus a diogel hyn i dalu ffi ar-lein gyda cherdyn debyd neu gredyd.

Help i dalu

Efallai na fydd rhaid i chi dalu ffi, neu efallai y cewch ostyngiad:

  • os nad oes gennych fawr ddim cynilion a buddsoddiadau, neu ddim o gwbl
  • rydych yn cael budd-daliadau penodol
  • mae eich incwm yn isel

Darganfyddwch os ydych yn gymwys a sut i wneud cais am help i dalu ffioedd

3. Ad-daliadau

Efallai y byddwch yn gymwys i gael ad-daliad ar ffi’r llys os ydych angen canslo’r cais, hawliad neu weithred arall ac nid yw’r llys wedi’i phrosesu eto.

Er enghraifft, os ydych wedi gwneud hawliad am arian ac mae’r diffynnydd nawr wedi setlo’r achos, gallwch ofyn am ad-daliad o’r ffi os nad yw’r llys wedi cychwyn yr hawliad eto.

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael ad-daliad:

  • os yw’r llys wedi prosesu’r hawliad neu’r cais mewn camgymeriad ar ôl ichi wneud cais i’w ganslo
  • os ydych wedi talu am wasanaeth ar-lein ac mae’r taliad wedi’i gymryd mwy nag unwaith oherwydd gwall ar y system

Cysylltwch â’r llys ar unwaith os ydych eisiau canslo gwasanaeth llys.

I wneud cais am ad-daliad, anfonwch e-bost neu ysgrifennwch i’r ganolfan busnes neu wasanaeth berthnasol. Mae’n rhaid ichi egluro pam yr ydych chi’n credu y dylech gael ad-daliad. Mae’n rhaid ichi hefyd wneud y cais am ad-daliad mor fuan â phosibl ar ôl ichi dalu’r ffi.

Os ydych wedi talu gyda siec neu gerdyn credyd, peidiwch â chanslo’r taliad oherwydd gallai hyn olygu y gallai’r llys hawlio’r ffi oddi wrthych chi fel dyled sifil.

4. Canolfannau busnes a gwasanaeth

Achosion sifil

Y Ganolfan Fusnes Genedlaethol Sifil
St Katharine’s House
21 to 27 St Katharine’s Street
Northampton
NN1 2LH

E-bost: ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk

Achosion teulu

Mabwysiadu neu drefniadau plant

Cysylltwch â’ch canolfan teulu leol neu ranbarthol – chwilio yn ôl cod post.

Ysgariad neu bartneriaeth sifil

Gwasanaeth Ysgariadau a Diddymiadau GLlTEF Blwch Post
Harlow
CM20 9UG

E-bost: ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk

Rhwymedi ariannol

Cysylltwch â’ch canolfan rhwymedi ariannol ranbarthol.

Profiant

Profiant GLlTEF
Blwch Post 12625
Harlow
CM20 9QF

E-bost: ymholiadau@justice.gov.uk