Canllawiau

Ffioedd y llys sifil (EX50)

Diweddarwyd 1 May 2024

Trosolwg

Mae’r arweiniad hwn yn cynnwys detholiad o ffioedd y llys sifil. Gweler yma y rhestr lawn o’r ffioedd a godir yn y llys sifil a’r llys teulu (EX50A).

Mae’r rhestrau llawn o holl ffioedd y llysoedd ar gael mewn Offerynnau Statudol (OS) a elwir yn orchmynion ffioedd a gellir eu gweld ar-lein yn www.legislation.gov.uk

Mae’r ffioedd llys ar y dudalen hon yn berthnasol i’r Uchel Lys, y Llys Sirol a’r Llys Teulu, a’r un fath ymhob un, oni nodir fel arall. Bydd eich llys lleol yn gallu eich helpu i ganfod unrhyw ffi nad yw wedi’i chynnwys yn yr arweiniad hwn.

Cychwyn hawliadau

Hawliadau am arian (gorchymyn ffioedd sifil 1.1 i 1.2)

I gychwyn hawliad am arian, mae’r ffioedd yn seiliedig ar y swm a hawlir, gan gynnwys llog.

Gwerth eich hawliad Ffi
Hyd at £300 £35
Mwy na £300 ond dim mwy na £500 £50
Mwy na £500 ond dim mwy na £1,000 £70
Mwy na £1,000 ond dim mwy na £1,500 £80
Mwy na £1,500 ond dim mwy na £3,000 £115
Mwy na £3,000 ond dim mwy na £5,000 £205
Mwy na £5,000 ond dim mwy na £10,000 £455
Mwy na £10,000 ond dim mwy na £200,000 5% o werth yr hawliad
Mwy na £200,000 £10,000

Y swm uchaf ar gyfer Trosglwyddo Data Diogel (SDT) neu Hawlio Arian Ar-lein (MCOL) yw £99,999.99

Mae Trosglwyddo Data Diogel yn system ddiogel sy’n galluogi cwsmeriaid sy’n cychwyn hawliadau swmp i lwytho a throsglwyddo ffeiliau data yn uniongyrchol o’u systemau i systemau Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF.

Hawliadau anariannol

Cychwyn hawliad am feddiant (gorchymyn ffioedd 1.4) Ffi
Hawliadau meddiant yr Uchel Lys £528
Hawliadau meddiant y Llys Sirol £391

Gallwch gychwyn hawliad am rywbeth heblaw arian neu eiddo (gorchymyn ffioedd 1.5) - er enghraifft, gwaharddebau sifil, gwaharddebau nwy neu waharddebau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r ffioedd yn seiliedig ar ble rydych chi’n cychwyn eich hawliad.

Cychwyn hawliad am rywbeth heblaw arian neu eiddo (gorchymyn ffioedd 1.5) Ffi
Yr Uchel Lys (gan gynnwys hawliadau meddiant) £626
Llys Sirol £365

Os byddwch yn ffeilio cais am hawliad anariannol (ac eithrio hawliad am feddiannu tir neu adennill nwyddau) a hawliad am iawndal, rhaid talu’r ddwy ffi llys.

Er enghraifft: Ffi’r llys sirol neu ffi’r Uchel Lys (ffi 1.5) ynghyd â ffi hawlio am arian berthnasol (ffi cychwyn hawliad y llys 1.1).

Bydd y ffioedd gwrandawiadau a nodir yn Ffioedd cyffredinol ar gyfer achosion sifil yn berthnasol i rai hawliadau anariannol. Holwch y llys i ganfod a fydd hyn yn berthnasol yn eich achos chi.

Ffioedd eraill sy’n gysylltiedig â chychwyn hawliad

Cychwyn achos Ffi
Yn erbyn parti neu bartïon nas enwyd yn yr achos (gorchymyn ffioedd 1.6) £65
Caniatâd i gychwyn achos (gorchymyn ffioedd 1.8a) £65

Nid yw’r ffioedd a nodir yn yr adran hon yn berthnasol i geisiadau i gychwyn achos o dan y Ddeddf Cwmnïau nac achosion ansolfedd. Yn hytrach, gweler achosion o dan y Deddfau Cwmnïau ac achosion ansolfedd.

Gwrth-hawliadau a hawliadau ychwanegol

Hawliadau am arian – mae ffi’r llys sy’n daladwy (fel y dangosir yn Cychwyn hawliadau) wedi’i selio ar werth y gwrth-hawliad neu’r hawliadau ychwanegol.

Os oes arnoch angen diwygio eich hawliad bydd rhaid i chi wneud cais. Ar gyfer ffioedd ceisiadau cyffredinol, gweler Ceisiadau cyffredinol (gorchymyn ffioedd 2.4 i 2.8)). Bydd y ffi yn dibynnu ar p’un a yw’r hawliad wedi’i gyflwyno ar y parti arall (mae’r hawliad ‘ar rybudd’). Os byddwch yn diwygio’r swm a hawlir, bydd angen i chi dalu’r gwahaniaeth am ffi’r llys sy’n daladwy fel y nodir yn Cychwyn hawliadau.

Hawliadau anariannol - mae ffi’r llys yn seiliedig ar ble y cafodd yr hawliad gwreiddiol ei wneud, naill ai yn yr Uchel Lys neu’r Llys Sirol. Mae’r ffioedd wedi’u nodi uchod.

Achosion costau

Ar gyfer ffioedd llys sy’n gysylltiedig â mater costau yn unig neu achos asesu costau, ewch i Ffioedd eraill y llys sifil.

Ffioedd cyffredinol ar gyfer achosion sifil

Mae’r ffioedd ar gyfer cychwyn hawliad yn daladwy gan yr hawlydd. Mae’r ffioedd gwrandawiadau isod yn daladwy gan yr hawlydd, oni bai bod yr achos yn parhau ar y gwrth-hawliad yn unig, ac os felly mae ffioedd y gwrandawiad yn daladwy gan y diffynnydd.

Ffioedd gwrandawiadau (gorchymyn ffioedd 2.1)

Math a gwerth yr hawliad Ffi
Y trac hawliadau bychan ar gyfer hawliadau hyd at £300 £27
Y trac hawliadau bychan ar gyfer hawliadau rhwng £300.01 a £500 £59
Y trac hawliadau bychan ar gyfer hawliadau rhwng £500.01 a £1,000 £85
Y trac hawliadau bychan ar gyfer hawliadau rhwng £1,000.01 a £1,500 £123
Y trac hawliadau bychan ar gyfer hawliadau rhwng £1,500.01 a £3,000 £181
Y trac hawliadau bychan ar gyfer hawliadau sy’n fwy na £3,000 £346
Hawliadau trac cyflym £545
Hawliadau amldrac £1,175

Am ragor o wybodaeth gweler:

Mae’n rhaid i chi dalu ffi’r gwrandawiad i’r llys neu ffeilio cais am Help i Dalu Ffioedd erbyn y dyddiad a nodir yn y gorchymyn.

Bydd methu â thalu’r ffi neu wneud cais priodol am Help i Dalu Ffioedd yn golygu y bydd yr hawliad neu’r gwrth-hawliad yn cael ei ddileu ar unwaith heb orchymyn arall a bydd y gwrandawiad yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr.

Os yw eich hawliad wedi cael ei ddileu, ni fydd yn bodoli mwyach. Gallwch, os ydych yn dymuno, ffeilio cais i adfer yr hawliad. Fodd bynnag, bydd rhaid talu ffi am y cais ei hun ac os bydd y llys yn cymeradwyo’r cais i adfer y cais, bydd y caniatâd hwnnw yn amodol ar dalu’r ffi gwrandawiad briodol neu wneud cais llwyddiannus am help i dalu ffioedd.

Bydd y gwrandawiad yn cael ei ddad-restru, ac mae ffi’r gwrth-hawliad ond yn daladwy gan y diffynnydd (os yw’r gwrth-hawliad yn sefyll ar ei ben ei hun).

Ni ellir ad-dalu ffi’r gwrandawiad. Os bydd y partïon yn setlo cyn amser talu’r ffi, ni fydd rhaid talu ffi’r gwrandawiad.

Ceisiadau cyffredinol (gorchymyn ffioedd 2.4 i 2.8)

Mae ‘ar rybudd’ neu ‘gyda rhybudd’ yn golygu bod y parti arall wedi’i hysbysu am y cais, waeth os oes gwrandawiad neu beidio.

Mae ‘heb rybudd’ yn golygu nad yw’r parti arall wedi’i hysbysu am y cais, waeth os oes gwrandawiad neu beidio.

Math o gais Ffi
Cais ar rybudd, lle nad oes unrhyw ffi arall wedi’i phennu – gan gynnwys ceisiadau credydwyr yn y llys sirol sy’n ymwneud â rheoliadau’r Cynllun Seibiant Dyled (Lle i anadlu) £303
Cais i roi dyfarniad llys sirol o’r naill du £303
Cais drwy gydsyniad neu heb rybudd pan nad oes ffi arall wedi’i phennu £119
Ceisiadau i amrywio (diwygio neu newid) neu ymestyn gwaharddeb i ddiogelu rhag aflonyddwch neu drais £59
Ceisiadau i wneud taliad o gronfeydd sydd wedi eu talu yn y llys £59

Os yw cais drwy gydsyniad neu heb rybudd yn cael ei wrthod ac yn cael ei roi ar rybudd, dylid talu gweddill y ffi i’r llys i brosesu’r cais ar rybudd.

Nid oes ffi i’w thalu ar gyfer gwneud cais drwy gydsyniad i ohirio gwrandawiad os yw’n cyrraedd y llys o leiaf 14 diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad.

Math o gais Ffi
Cais i amrywio (diwygio neu newid) dyfarniad (neu orchymyn), gohirio camau gorfodi neu ohirio gwarant i feddiannu neu atal gwrit yr Uchel Lys £15
Cais am wŷs neu orchymyn i dyst fynychu’r llys £21
Cais am dystysgrif diwallu neu ganslo dyled y dyfarniad £15

Nid oes ffi am gais i atal croesholi dan Ddeddf Cam-drin Domestig 2021.

Ceisiadau swmp – codir ffi am gais heb rybudd ar gyfer pob achos i amnewid neu newid enw parti.

Yr unig eithriad yw achosion canolfan fusnes y llys sirol (CCBC), lle mae nifer o geisiadau swmp wedi’u hawtomeiddio, ac felly dim ond un ffi sy’n daladwy fesul cais gydag achosion lluosog.

Nid yw’r ceisiadau hyn yn daladwy mewn perthynas â cheisiadau cyffredinol i’r llys o dan y Ddeddf Cwmnïau ac achosion ansolfedd.

Apeliadau (gorchymyn ffioedd 2.2 i 2.3)

Cyfeiriwch at Apelio yn erbyn penderfyniad y llys: apeliadau sifil a theulu (EX340).

Ffeilio rhybudd apelydd neu rybudd atebydd Ffi
Yr Uchel Lys £285
Y Llys Sirol, trac hawliadau bychain £142
Y Llys Sirol, pob hawliad arall £166

Mae ffioedd eraill yn daladwy mewn achosion apêl lle gwneir ceisiadau. Nid yw’r ffioedd hyn yn berthnasol i apeliadau yn erbyn penderfyniad a wneir mewn achos asesu costau’n fanwl (gweler Ffioedd eraill y llys sifil).

Deddfau Cwmnïau ac achosion ansolfedd

Deddf Cwmnïau 1985, Deddf Cwmnïau 2006 a Deddf Ansolfedd 1986, Yr Uchel Lys a’r Llys Sirol (gorchymyn ffioedd 3.1 i 3.12).

Deisebau methdaliad a dirwyn cwmni i ben

Math o gais Ffi
Cofnodi deiseb i wneud rhywun y mae arno arian i chi yn fethdalwr (deiseb credydwr) £332
Cofnodi deiseb dirwyn i ben (cwmnïau’n unig) £332
Cofnodi deiseb am orchymyn gweinyddu £332
Unrhyw fath arall o ddeiseb £332

Dim ond y ffioedd llys yw’r rhain. Mae swm ychwanegol, sef blaendal y derbynnydd swyddogol, yn daladwy yr un pryd â ffi’r llys. Bydd y llys sy’n prosesu’ch cais yn dweud wrthych chi faint fydd y blaendal.

Mae rhai achosion ansolfedd yn cael eu dyrannu i’r amldrac a bydd rhaid talu’r ffioedd gwrandawiad amldrac. Holwch y llys i weld a fydd hyn yn berthnasol yn eich achos.

Ceisiadau eraill

Math o gais Ffi
Cais o dan y Deddfau Cwmnïau neu Ddeddf Ansolfedd 1986 ac eithrio un a ddygir drwy ddeiseb a lle na bennir ffi arall (nid yw’n daladwy pan gaiff ei wneud mewn achos sy’n mynd rhagddo) gorchymyn ffioedd 3.5 £308
Cais i newid trefniant gwirfoddol yn drefniant methdalu neu ddirwyn i ben (gorchymyn ffioedd 3.6) £160
Cais ar rybudd mewn achos ansolfedd neu achos Deddf Cwmnïau sy’n mynd rhagddo lle nad oes ffi arall wedi’i phennu (gorchymyn ffioedd 3.12) £109
Cais drwy gydsyniad neu heb rybudd mewn achos ansolfedd neu achos Deddf Cwmnïau sy’n mynd rhagddo lle nad oes ffi arall wedi’i phennu (gorchymyn ffioedd 3.11) £29
Cais am dystysgrif rhyddhau o fethdaliad (gorchymyn ffioedd 3.4a) £75
Cais am gopi o dystysgrif rhyddhau o fethdaliad (gorchymyn ffioedd 3.4b) £11
Cais i herio penderfyniad cynghorydd dyled (peidio â datgelu cyfeiriad preswyl) o dan reoliad 38(9) Rheoliadau’r Cynllun Seibiant Dyledion (Lle i Anadlu) Cymru a Lloegr 2020 (gorchymyn ffioedd 1.10) £5

Chwiliadau methdaliadau

Math o chwiliad Ffi
Chwiliad cyffredinol yng nghofnodion yr Uchel Lys am bob 15 munud neu ran o 15 munud (gorchymyn ffioedd 10.3) £12
Chwiliad personol, gan gynnwys lle bydd un o swyddogion y llys yn chwilio cofnodion cwmnïau a methdaliadau yn y Llys Sirol (gorchymyn ffioedd 3.13) £45

Ffioedd eraill y llysoedd sifil

Copi o ddogfennau (gorchymyn ffioedd 4.1 i 4.2)

Os byddwch yn gofyn i’r llys wneud copïau o ddogfennau, derbyn neu anfon ffacs ar eich rhan, neu ddarparu copi o ddogfen sydd eisoes wedi’i darparu.

Rhif neu fformat Ffi
Hyd at 10 tudalen o unrhyw ddogfen £11
Am bob tudalen ychwanegol ar ôl y 10 cyntaf 50c
Dogfennau ar ddisg cyfrifiadur neu fformat electronig arall £11

Achosion costau yn unig (gorchymyn costau 1.8b)

Os yw’r partïon wedi cytuno ynghylch anghydfod heb gychwyn hawliad neu ddeiseb, ond bod y mater costau heb ei ddatrys, caiff unrhyw barti gychwyn hawliad am achos costau yn unig.

Math o hawliad Ffi
Hawliad am gychwyn achos costau yn unig £65

Achosion asesu costau (gorchymyn ffioedd 1.8b)

Pan fo gan gleient gynrychiolydd cyfreithiol a bod anghydfod ynghylch swm y costau sy’n daladwy i’r cyfreithiwr, gall y cleient wneud cais bod y costau’n cael eu hasesu gan y llys (dan rhan 3 Deddf Cyfreithwyr 1974 ar gyfer asesu costau).

Math o gais Ffi
Gwneud cais am achos asesu costau £65

Penderfynu ar gostau (gorchymyn ffioedd 5.1)

Math o gais neu apêl Ffi
Ffeilio cais am asesiad manwl pan fo’r parti sy’n ffeilio’r cais yn cael cymorth cyfreithiol neu’n cael ei noddi gan yr Asiantaeth Cyngor Cyfreithiol (LAA) £237
Apêl yn erbyn penderfyniad a wnaed mewn achos asesu manwl (gorchymyn ffioedd 5.4) £274
Cais i gyflwyno tystysgrif costau diffygdalu (gorchymyn ffioedd 5.3) £78
Cais i roi tystysgrif costau diffygdalu o’r naill du (gorchymyn ffioedd 5.5) £143
Cais i gymeradwyo tystysgrif costau sy’n daladwy o’r Gronfa Cymorth Cyfreithiol Sifil (os cafodd y cais gwreiddiol am asesiad manwl ei ffeilio cyn 1 Gorffennaf 2013) (gorchymyn ffioedd 2.5b) £59

Pan wneir y ceisiadau canlynol, mae’r ffi sy’n daladwy yn dibynnu ar y costau sy’n cael eu hawlio:

  • Cais am asesiad manwl pan nad yw’r parti sy’n ffeilio’r cais yn cael cymorth cyfreithiol nac yn cael ei noddi gan yr Asiantaeth Cyngor Cyfreithiol
  • Cais am ddyddiad gwrandawiad ar gyfer asesu costau yn dilyn gorchymyn dan Ran 3 Deddf Cyfreithwyr 1974
Cost a hawliwyd (gorchymyn ffioedd 5.2) Ffi
Hyd at £15,000 £398
£15,000.01 i £50,000 £801
£50,000.01 i £100,000 £1,192
£100,000.01 i £150,000 £1,595
£150,000.01 i £200,000 £1,992
£200,000.01 i £300,000 £2,988
£300,000.01 i £500,000 £4,980
Mwy na £500,000 £6,640

Achosion gorfodi sifil

Os yw’r llys wedi gorchymyn i rywun dalu swm o arian i chi neu i ddychwelyd eich nwyddau, eiddo neu dir, a hwythau heb wneud hynny, cewch gychwyn achos gorfodi.

Gorchymyn i gael gwybodaeth gan ddyledwr

Math o orchymyn Ffi
Cyflwyno cais am orchymyn i ddyledwr neu unigolyn arall fynychu’r llys i ddarparu gwybodaeth (gorchymyn ffioedd 8.3) £65
Gwneud cais i feili gyflwyno gorchymyn i ddyledwr fynychu’r llys i ateb cwestiynau (gorchymyn ffioedd 8A.1) £131

Gwarantau (gorchymyn ffioedd 8.1 i 8.2 ac 8.6)

Math o warant Ffi
Codi gwarant rheolaeth (adfer swm o arian) £91
Codi gwarant i drosglwyddo (ar gyfer nwyddau) £143
Codi gwarant i feddiannu (adfer eiddo neu dir) £143
Cais am ymgais pellach i weithredu gwarant mewn cyfeiriad newydd, ac eithrio lle mae’r warant wedi’i hatal £36

Gwritiau (Yr Uchel Lys yn unig) (gorchymyn ffioedd 7.1)

Math o writ Ffi
Selio gwrit rheolaeth (adfer swm o arian) £78
Selio gwrit trosglwyddo (ar gyfer nwyddau) £78
Selio gwrit meddiannu (adfer eiddo neu dir) £78

Pan fydd gwarant neu writ i drosglwyddo neu feddiannu hefyd yn cynnwys hawliad am arian, nid oes ffi ychwanegol yn daladwy.

Atafaelu enillion (gorchymyn ffioedd 8.7)

Math o gais Ffi
Gwneud cais am orchymyn atafaelu enillion £131

(Mae ffi i’w thalu am bob diffynnydd y gofynnir i’r gorchymyn gael ei wneud yn ei erbyn).

Yn achos gorchymyn atafaelu enillion cyfun, tynnir ffi o 10c am bob £1, neu ran o £1, o’r arian sy’n cael ei dalu i’r llys cyn ei dalu i’r credydwyr.

Am ragor o wybodaeth gweler Atafaelu enillion.

Gorfodi dyfarniad yn y llys sirol (gorchymyn ffioedd 8.9)

Math o gais Ffi
Gwneud cais i orfodi dyfarniad yn y llys sirol £52

Gallwch wneud cais i orfodi dyfarniad am:

  • swm o arian neu unrhyw benderfyniad arall a wnaed gan unrhyw lys, tribiwnlys, corff neu unigolyn heblaw’r Uchel Lys neu’r llys sirol
  • swm o arian a wnaed gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf, yr Uwch Dribiwnlys, y Tribiwnlys Cyflogaeth neu’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth.

Gorfodi dyfarniad yn yr Uchel Lys (gorchymyn ffioedd 7.5)

Math o gais Ffi
Gwneud cais i orfodi dyfarniad yn yr Uchel Lys £78

Gallwch wneud cais:

  • i gofrestru dyfarniad neu orchymyn
  • am ganiatâd i orfodi dyfarniad cyflafareddu
  • am dystysgrif neu gopi ardystiedig o ddyfarniad neu orchymyn i’w ddefnyddio dramor

Gorchymyn arwystlo (gorchymyn ffioedd 8.4(b))

Math o gais Ffi
Gwneud cais am orchymyn arwystlo £131

Mae’r ffi yn daladwy am bob gorchymyn arwystlo y gwneir cais amdano.

Am ragor o wybodaeth, gweler Gorchmynion dyled trydydd parti a gorchmynion arwystlo (EX325).

Gorchymyn dyled trydydd parti – gorchymyn ffioedd 8.4(a)

Math o gais Ffi
Gwneud cais am orchymyn dyled trydydd parti £131

Mae’r ffi yn daladwy am bob parti y gofynnir i’r gorchymyn gael ei wneud yn ei erbyn.

Am ragor o wybodaeth, gweler Gorchmynion dyled trydydd parti a gorchmynion arwystlo (EX325).

Gwŷs dyfarniad (gorchymyn ffioedd 8.5)

Math o gais Ffi
Gwneud cais am wŷs dyfarniad £131

Cais asiant gorfodi ardystiedig (gorchymyn ffioedd 1.5)

Math o gais Ffi
Ffioedd anariannol eraill yn y llys sirol £365

I gael gwybodaeth am ffioedd sifil y llys ynadon, gweler gorchymyn ffioedd y llys ynadon yn www.legislation.gov.uk.