Ffurflen

Cyfarwyddyd – Gorchymyn atafaelu enillion

Diweddarwyd 12 October 2023

Cyn gofyn am Orchymyn Atafaelu Enillion

Gallwch ganfod beth i’w wneud os na fydd diffynnydd yn talu arian yn dilyn dyfarniad. Bydd hyn yn eich helpu i benderfynu p’un ai gorchymyn atafaelu enillion yw eich opsiwn gorau.

Dim ond os yw’r diffynnydd (dyledwr) yn gyflogedig y bydd gorchymyn atafaelu enillion o fudd i chi.

Cyn y cewch ofyn i’r llys wneud gorchymyn atafaelu enillion:

  • mae’n rhaid i’r diffynnydd fod o leiaf un taliad ar ei hôl hi – a elwir yn ‘ôl-ddyledion’
  • mae’n rhaid i’r swm sy’n ddyledus ganddo ef neu hi fod yn £50 neu fwy

Rhaid i chi benderfynu a ydych chi’n debygol o gael yr arian sy’n ddyledus i chi a ffi’r llys gan y diffynnydd. Cofiwch na all unrhyw lys warantu y cewch eich arian yn ôl.

Gofyn am orchymyn atafaelu enillion

Bydd rhaid i chi lenwi ffurflen N337 i ofyn am orchymyn atafaelu enillion. Dylech roi cymaint o wybodaeth â phosibl.

Yn erbyn pwy y gellir gwneud gorchymyn atafaelu enillion

Cewch ofyn am orchymyn atafaelu enillion oni bai bod y diffynnydd yn:

  • ddi-waith neu’n hunan-gyflogedig
  • yn fusnes neu’n gwmni cyfyngedig
  • yn y fyddin, y llynges neu’r llu awyr
  • yn fasnachlongwr

Mae trefniadau arbennig ar gyfer cael arian gan rywun sy’n aelod o’r lluoedd arfog neu sy’n fasnachlongwr. Gall staff y llys roi rhagor o wybodaeth i chi, ond ni allant roi cyngor cyfreithiol i chi.

Os nad ydych yn siŵr a yw’r diffynnydd yn gyflogedig ai peidio

Os nad ydych yn siŵr a yw’r diffynnydd yn gyflogedig ai peidio, gallwch ofyn:

  • i’r diffynnydd gael ei gwestiynu, gelwir hyn yn ‘gorchymyn i gael gwybodaeth’ a bydd rhaid i chi dalu ffi i wneud cais – gwybodaeth am sut i wneud cais am orchymyn i gael gwybodaeth
  • i lys lleol y diffynnydd chwilio drwy’r mynegai atafaelu enillion – bydd y llys yn gwirio p’un a oes gan y diffynnydd unrhyw orchmynion atafaelu enillion eraill yn ei erbyn, gan gynnwys unrhyw orchmynion a wnaed yn y llys ynadon

Gofyn am chwiliad o’r mynegai atafaelu enillion

Cewch wneud cais am chwiliad o’r mynegai naill ai:

  • trwy lenwi rhan gyntaf ffurflen N336
  • ysgrifennu llythyr yn gofyn am yr wybodaeth - rhaid i chi gynnwys enw a chyfeiriad y diffynnydd, rhif eich hawliad a dyddiad eich dyfarniad

Bydd y llys naill ai’n llenwi gweddill y ffurflen N336 ac yn ei hanfon atoch, neu’n ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi beth oedd canlyniad y chwiliad. Ni chodir tâl am hyn.

Beth os oes gan y diffynnydd orchymyn atafaelu enillion arall

Os oes gan y diffynnydd orchymyn atafaelu enillion yn ei erbyn ef neu hi yn barod, mae’n bosib y caiff eich gorchymyn chi ei gyfuno gyda hwnnw i wneud ‘gorchymyn cyfun’.

Gall unrhyw un sy’n gysylltiedig â gorchymyn atafaelu enillion (gan gynnwys cyflogwr y diffynnydd) wneud cais am orchymyn cyfun. Gall y llys hefyd benderfynu gwneud hyn.

Dylech ysgrifennu at y llys i ofyn am orchymyn cyfun, gan nodi:

  • bod y diffynnydd ar ei hôl hi gyda’i daliadau
  • y swm sy’n ddyledus i chi

Mae gorchymyn cyfun yn golygu mai un swm y bydd y cyflogwr yn ei dynnu o gyflog y diffynnydd i dalu am yr holl orchmynion. Caiff y taliadau eu cadw yn y llys nes bydd y llys wedi cael canran benodol o gyfanswm y ddyled (10% fel arfer).

Yna, bydd y llys yn rhannu’r swm, gan ystyried swm pob dyled, rhyngoch chi a phobl eraill y mae arian yn ddyledus iddynt. Yna bydd yn anfon eich cyfran chi o’r arian atoch. ‘Datgan difidend’ yw’r enw am hyn.

Os gwneir gorchymyn cyfun, fel arfer bydd yn golygu y byddwch yn cael swm llai o arian nag y byddech chi o dan orchymyn atafaelu enillion arferol.

Os nad ydych eisiau i’ch dyled gael ei chyfuno

Os gofynnir i’r llys wneud gorchymyn cyfun, bydd yn rhoi gwybod i chi. Os oes gennych wrthwynebiad i orchymyn cyfun, rhaid i chi anfon llythyr i’r llys cyn pen 16 diwrnod o ddyddiad y marc post a welir ar yr amlen y cyrhaeddodd yr hysbysiad ynddi.

Bydd y llys yn trefnu apwyntiad a chewch wybod pryd i ddod i’r llys. Os na fyddwch yn mynychu, mae’n bosib y gwnaiff y barnwr rhanbarth orchymyn yn eich absenoldeb.

Ffioedd

Mae ffi llys sydd raid ei thalu pan fyddwch yn gwneud cais am orchymyn atafaelu enillion. Bydd y llys yn ychwanegu’r ffi i’r swm sydd eisoes yn ddyledus gan y diffynnydd, fodd bynnag, ni all ad-dalu’r ffi os bydd eich cais yn aflwyddiannus.

Gallwch dalu’r ffi un ai trwy:

  • daliad cerdyn debyd neu gerdyn credyd – rhaid i chi ddarparu eich rhif ffôn i’r llys a gofyn iddynt eich ffonio i gymryd y taliad
  • siec neu archeb bost – rhaid i hwn fod yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF’

Os na allwch fforddio’r ffi, efallai na fydd rhaid i chi dalu’r ffi lawn.  Mwy o wybodaeth am sut i wneud cais am help i dalu ffioedd.

Mwy o wybodaeth am ffioedd y Llysoedd Sifil a Theulu.

Ble i anfon eich ffurflen a’r ffi

Dylech anfon y ffurflen wedi’i llenwi a’r ffi i:

Y Ganolfan Fusnes Sifil Genedlaethol/Civil National Business Centre
St. Katherine’s House
21 to 27 St. Katherine’s Street
Northampton
NN1 2LH

Rhaid i chi nodi rhif yr hawliad ar eich llythyr – hebddo, ni fydd y llys yn gallu dod o hyd i’ch hawliad.

Os byddwch chi’n cael taliadau gan y diffynnydd ar ôl i chi anfon eich cais i’r llys, rhaid i chi roi gwybod i’r llys ar unwaith.

Ar ôl i chi gyflwyno eich cais

Bydd y llys yn dweud wrth y diffynnydd i naill ai:

  • dalu’r cyfan o’r arian sy’n ddyledus
  • llenwi ffurflen sy’n nodi manylion cyflogaeth, incwm a gwariant y diffynnydd – gelwir hwn yn ‘datganiad o fodd’

Beth os nad yw’r diffynnydd yn ymateb

Os nad yw’r diffynnydd yn anfon y ffurflen yn ei hôl, fe wnaiff y llys geisio cysylltu â’r diffynnydd er mwyn cael datganiad o fodd.

Bydd asiant gorfodi yn cyflwyno gorchymyn yn dweud wrth y diffynnydd am lenwi datganiad o fodd. Os yw’r diffynnydd yn parhau i beidio â dychwelyd y ffurflen, ond bod y barnwr o’r farn bod y diffynnydd yn gwybod am y cais i atafaelu enillion, mae’n bosib y gwnaiff y barnwr godi gwarant i arestio’r diffynnydd.

Bydd yr asiant gorfodi yn arestio’r diffynnydd ac efallai y bydd yn dod ag ef neu hi i’r llys i lenwi datganiad o fodd.

Os nad ydych wedi clywed unrhyw beth gan y llys ar ôl 6 i 8 wythnos, dylech gysylltu â’r llys lleol a enwir ar yr hysbysiad olaf a gawsoch ynghylch eich cais.

Beth fydd y llys yn ei wneud gyda’r datganiad o fodd

Bydd swyddog o’r llys yn edrych ar yr wybodaeth a roddwyd yn natganiad o fodd y diffynnydd, ac yn penderfynu faint all y diffynnydd fforddio ei dalu.

Bydd y swyddog yn ystyried faint sydd ei angen ar y diffynnydd ar gyfer bwyd, rhent neu forgais, hanfodion a biliau rheolaidd megis trydan. Gelwir hyn yn ‘cyfradd enillion a warchodir’. Os yw’r diffynnydd yn ennill mwy na’r gyfradd enillion a warchodir, bydd y llys yn gwneud gorchymyn.

Anfonir y gorchymyn at gyflogwr y diffynnydd gan nodi faint i’w gymryd a phryd y dylid gwneud hynny. System Ganolog Talu trwy Atafaelu Enillion (CAPS) yn Northampton fydd yn anfon y gorchymyn, a’r system hon fydd hefyd yn gyfrifol am gasglu’r taliadau. Anfonir copi o’r gorchymyn atoch.

Caiff y diffynnydd ofyn i’r gorchymyn gael ei atal os nad yw ef neu hi am i’r llys gysylltu â’u cyflogwr. Os yw’r llys yn cytuno i hyn, bydd yn dweud wrth y diffynnydd am wneud taliadau rheolaidd yn uniongyrchol i chi.

Os yw’r diffynnydd wedi cael gorchymyn wedi ei atal ac nad yw’n eich talu, neu os yw’n dechrau eich talu ac yna’n rhoi’r gorau iddi, gallwch lenwi ffurflen N446 i ofyn i’r llys anfon y gorchymyn i’r cyflogwr. Ni chodir tâl am hyn.

Ymateb i benderfyniad swyddog y llys

Nid oes raid i chi dderbyn penderfyniad swyddog y llys. Gallwch ofyn i farnwr rhanbarth benderfynu ffordd deg i’r diffynnydd dalu’r arian.

Bydd arnoch angen llenwi ffurflen N244 i wneud hyn. Mae’n bosibl y bydd rhaid i chi dalu ffi.

Cewch hefyd ysgrifennu llythyr i gyflwyno’r wybodaeth hon, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi’r rhesymau am eich gwrthwynebiad.

Rhaid i chi anfon y ffurflen neu’r llythyr i ganolfan wrandawiadau y Llys Sirol cyn pen 16 diwrnod o ddyddiad y marc post a welir ar yr amlen y cyrhaeddodd y gorchymyn atafaelu enillion ynddi.

Bydd y llys yn trefnu apwyntiad a chewch wybod pryd i ddod i’r llys. Os na fyddwch yn mynychu’r apwyntiad hwn, efallai y bydd y barnwr rhanbarth yn gwneud gorchymyn yn eich absenoldeb.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i’r gorchymyn atafaelu enillion gael ei wneud

Ar ôl i’r gorchymyn gael ei wneud, bydd CAPS yn anfon yr arian a fyddant yn ei gael gan y cyflogwr atoch chi. Byddant yn anfon yr arian fesul wythnos neu fis, gan ddibynnu sut mae’r diffynnydd yn cael ei dalu a phryd y mae’r cyflogwr yn cymryd yr arian o enillion y diffynnydd.

Bydd CAPS yn gwneud yn siŵr fod y cyflogwr yn gwneud y taliadau. Os na fydd y taliadau’n cyrraedd CAPS, byddant yn canfod pam gan y cyflogwr.

Y rhesymau mwyaf cyffredin dros beidio â chael taliadau yw:

  • bod y diffynnydd wedi gadael neu wedi newid swydd
  • bod y diffynnydd ddim yn ennill digon i wneud y taliadau

Os nad yw’r cyflogwr yn ateb, bydd CAPS yn gofyn i’r llys a wnaeth y gorchymyn i ddwyn achos yn erbyn y cyflogwr. Cewch wybod os digwydd hynny.

Os bydd y diffynnydd yn ddi-waith rhywdro ar ôl i orchymyn gael ei wneud, ni fydd y gorchymyn hwnnw’n parhau.

Os ydych yn meddwl fod y diffynnydd wedi dod o hyd i waith newydd, gallwch lenwi ffurflen N446 i ofyn i’r llys anfon y gorchymyn atafaelu enillion i’r cyflogwr newydd. Ni chodir tâl am hyn.