Canllawiau

Credyd Cynhwysol ar digartref: canllaw ar gyfer sefydliadau cefnogol

Diweddarwyd 20 November 2023

Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i gefnogi hawlydd i wneud a rheoli cais am Gredyd Cynhwysol. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth am y gefnogaeth y gallant ddisgwyl ei dderbyn gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a sefydliadau eraill.

Am Gredyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn disodli chwe budd-dal sydd eisoes yn bodoli (Credyd Treth Plant, Budd-dal Tai, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA) a Chredyd Treth Gwaith). Os yw’r hawlydd eisoes yn cael y budd-daliadau hyn, ni allant wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar hyn o bryd.

Fel arfer mae’n cael ei dalu bob mis - neu ddwywaith y mis i rai pobl yn yr Alban ac mae’n cynnwys lwfans safonol ac unrhyw symiau ychwanegol sy’n berthnasol iddynt, er enghraifft, os oes ganddynt:

  • plant
  • anabledd neu gyflwr iechyd
  • costau tai

Nid yw Credyd Cynhwysol yn cynnwys help i dalu am Dreth Cyngor. Pan fydd gan yr hawlydd eu tenantiaeth eu hunain bydd angen iddynt wneud cais am hyn ar wahân. Dylent gysylltu â’u cyngor lleol neu wneud cais ar-lein

Beth sydd ei angen i wneud cais

Mae yna nifer o bethau sydd eu hangen i wneud cais am Gredyd Cynhwysol:

  • cyfeiriad (gall hyn fod yn gyfeiriad dan ofal)
  • cyfeiriad e-bost
  • rhif ffôn
  • cyfrif banc
  • tystiolaeth o hunaniaeth
  • lle mae gan yr hawlydd denantiaeth, byddwn hefyd angen gweld cytundeb tenantiaeth diweddar a phrawf o gostau tai

Opsiynau cyfeiriad

Os nad oes gan yr hawlydd gyfeiriad parhaol, mae opsiynau ar gael iddynt.

Gallant ddefnyddio cyfeiriad dan ofal, fel cyfeiriad aelod o’r teulu neu ffrind dibynadwy, os ydynt yn aros mewn hostel, gallant ddefnyddio cyfeiriad yr hostel fel eu cyfeiriad neu mewn amgylchiadau eithriadol gallant ddefnyddio eu canolfan gwaith leol.

Os yw’r hawlydd yn aros mewn hostel ni fyddant yn cael yr elfen tai fel rhan o’u taliad Credyd Cynhwysol.

Bydd angen iddynt wneud cais ar wahân am Fudd-dal Tai trwy eu hawdurdod lleol i gael help gyda chostau tai.

Cyfeiriad e-bost

Os nad oes gan yr hawlydd gyfeiriad e-bost, gallant gael help i sefydlu cyfeiriad e-bost yn y ganolfan gwaith neu gan wasanaeth Help i Wneud Cais Cyngor Ar Bopeth.

Agor cyfrif banc

Yn ddelfrydol dylid talu Credyd Cynhwysol i gyfrif banc, cyfrif cymdeithas adeiladu, neu undeb credyd yn enw’r hawlydd neu eu partner. Os yw’r hawlydd yn flaenorol wedi ceisio ond wedi methu ag agor neu gael mynediad at gyfrifon banc traddodiadol, gallwn wneud taliad drwy ddefnyddio dull gwahanol:

  • Cyfrifon Cerdyn Swyddfa’r Post (dim ond mewn amgylchiadau eithriadol, mae’r rhain yn cael eu dileu’n raddol o 2020)
  • taliadau i gyfrifon trydydd parti
  • y Gwasanaeth Eithrio Taliadau (a oedd yn cael ei alw’n Taliadau Syml)

Os cânt eu talu drwy ddefnyddio un o’r dulliau uchod, dylid cynnig mynediad iddynt at gyngor ariannol.

Hunaniaeth

Er mwyn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, mae’n rhaid i hunaniaeth yr hawlydd gael ei gadarnhau. Gellir gwneud hyn ar-lein trwy Verify.

Os nad oes ganddynt brawf o hunaniaeth

Dylent siarad ag aelod o staff yn y ganolfan gwaith neu ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol, dweud wrthynt nad oes ganddynt brawf o hunaniaeth ond maent eisiau gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, mae gennym brosesau mewn lle i alluogi cais i gael ei wneud.

Cael cynrychiolydd

Gelwir rhywun sy’n delio â gwybodaeth ar ran yr hawlydd yn ‘gynrychiolydd’. Mae cynrychiolydd yn wahanol i rywun sy’n cael eu penodi i weithredu - nid yw’n benodiad cyfreithiol.

Gall cynrychiolydd fod yn unrhyw berson neu sefydliad sy’n gwneud ymholiadau ar ran yr hawlwdd os ydynt, er enghraifft, yn teimlo nad ydynt yn gallu:

  • dod o hyd i’r wybodaeth maent ei angen
  • deall pethau am eu cais

Mae’n rhaid i ni gael caniatâd yr hawlydd i ganiatáu i unigolyn neu sefydliad arall weithredu drostynt a chael mynediad at wybodaeth berthnasol amdanynt. Gelwir y caniatâd hwn yn ganiatâd penodol. Gall yr hawlydd wneud hwn yn ysgrifenedig, drwy ddefnyddio dyddlyfr yr hawlydd, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.

Nid yw caniatâd penodol yn para am byth a gall yr hawlydd ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg:

  • trwy wneud cofnod ar eu dyddlyfr ar-lein
  • trwy ffonio’r ganolfan gwasanaeth (Y rhif ffôn i’w ffonio yw 0800 328 1744. Ar gyfer siarad Saesneg ffoniwch 0800 328 5644 ac oes ydynt angen ddefnyddio ffôn testun ffoniwch 0800 328 1344)

Mae llinellau ffôn yn brysurach na’r arfer ar hyn o bryd oherwydd coronafeirws (COVID-19). Gallwch gysylltu â Chredyd Cynhwysol gan ddefnyddio’ch cyfrif ar-lein.

Pan nad yw hawlydd yn gallu rheoli eu materion eu hunain, oherwydd analluogrwydd meddyliol neu analluogrwydd arall, gall yr Ysgrifennydd Gwladol, ar ôl derbyn cais ysgrifenedig, benodi person 18 oed neu drosodd i weithredu ar eu rhan. Rydym yn cyfeirio at y person hwn fel penodai.

Dyletswydd i gyfeirio (Lloegr yn unig)

Daeth y Ddeddf Lleihau Digartrefedd (HRA) i rym ym mis Ebrill 2018, mae’n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gymryd rhan yn gynharach gyda’r nod o atal digartrefedd.

Os yw’r hawlydd yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, gellir eu cyfeirio at awdurdod lleol ar gyfer cymorth tai, waeth beth fo’r flaenoriaeth, cysylltiad lleol neu os oes amheuaeth o fod yn ‘fwriadol ddigartref’.

O 1 Hydref 2018, mae’r HRA yn gosod dyletswydd ar ganolfannau gwaith yn Lloegr i gynnig cyfeirio person sy’n cyflwyno eu hunain fel yn ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd i’r awdurdod lleol o’u dewis yn Lloegr, gyda chaniatâd yr hawlydd.

Gwasanaethau cyfieithu

Os nad Cymraeg neu Saesneg yw iaith gyntaf yr hawlydd, gallant ddod â rhywun gyda nhw i’r ganolfan gwaith i gyfieithu iddynt. Os nad oes ganddynt unrhyw un a all wneud hyn ar eu cyfer, dywedwch wrthynt i roi gwybod i’r anogwr gwaith neu asiant llinell gymorth oherwydd gallwn drefnu i gyfieithydd i’w cefnogi.

Mynd ar-lein

Yn gyffredinol, gwneir ceisiadau am Gredyd Cynhwysol ar-lein.

Gallwn hefyd eu cyfeirio i’r gwasanaeth Helpu i Wneud Cais Cyngor Ar Bopeth os na all yr hawlydd ddefnyddio cyfrifiadur i wneud eu cais.

Gwneud y cais am Gredyd Cynhwysol

Fel arfer, gwneir ceisiadau am Gredyd Cynhwysol ar-lein, fodd bynnag, os yw’r hawlydd yn methu defnyddio’r gwasanaeth Credyd Cynhwysol ar-lein, gallwn gynnig ffyrdd eraill o wneud eu cais.

Gall Credyd Cynhwysol roi help dros y ffôn i gwblhau’r cais. Bydd angen i’r hawlydd ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol a bydd yr asiant yn trefnu apwyntiad iddynt gwblhau’r cais. Byddant angen cael mynediad at gyfrifiadur am gyfnod llawn yr alwad. Gall yr alwad hon gymryd tua 40 munud a bydd angen iddynt roi’r data i mewn eu hunain.

Os na allant ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, gall asiant gwblhau’r ffurflen ar-lein dros y ffôn ar eu rhan. Cyfrifoldeb yr hawlydd yw’r wybodaeth a roddir i mewn a’i chywirdeb.

Unwaith y bydd y cais wedi’i anfon, mae angen i’r hawlydd ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol i wneud apwyntiad gydag anogwr gwaith yn y ganolfan gwaith. Gallant ddefnyddio’r ffonau yn y ganolfan gwaith i drefnu apwyntiadau.

Taliadau Ymlaen Llaw

Gall yr hawlydd ofyn am daliad ymlaen llaw o’u Credyd Cynhwysol os ydynt mewn angen ariannol tra maent yn aros am eu taliad cyntaf. Er enghraifft, os na allant fforddio treuliau byw cyffredinol.

I wneud cais am daliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol gallant naill ai:

  • gwneud cais drwy’r cyfrif ar-lein
  • siarad ag anogwr gwaith
  • ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Os ydynt eisiau gwneud cais am daliad ymlaen llaw ar-lein trwy eu cyfrif ar-lein, dylent glicio ar y botwm ‘gwneud cais am daliad ymlaen llaw’.

Os yw’r hawlydd yn rhan o gwpl, gofynnir iddynt hefyd a yw eu partner yn cytuno i gymryd y taliad ymlaen llaw.

Os ydynt am wneud cais am daliad ymlaen llaw bydd angen iddynt:

  • egluro pam eu bod angen taliad ymlaen llaw
  • rhoi manylion y cyfrif lle dylid talu’r taliad ymlaen llaw
  • cael eu hunaniaeth wedi’i gadarnhau mewn cyfweliad canolfan gwaith

Gallant wneud cais am hyd at 100% o swm y Credyd Cynhwysol rydym yn disgwyl iddynt fod yn gymwys i’w gael. Yna, gwneir didyniadau o’u taliadau Credyd Cynhwysol i ad-dalu’r taliad ymlaen llaw.

Pan fydd hawlydd yn cael taliad ymlaen llaw am gais newydd fel arfer mae rhaid iddynt ei dalu’n ôl o fewn:

  • 24 mis os gwnânt gais ar neu ar ôl 12 Ebrill 2021
  • 12 mis os gwnaethant gais cyn 12 Ebrill 2021

Unwaith y byddant wedi dechrau ei ad-dalu, os bydd rhywbeth yn digwydd i’r hawlydd sy’n golygu y byddant mewn caledi ariannol os byddant yn parhau â’u ad-daliadau, gall yr hawlydd ofyn iddynt gael eu rhoi ar un ochr am gyfnod o hyd at 3 mis. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caniateir hyn.

Help i Wneud Cais

O Ebrill 2019 Cyngor Ar Bopeth (Cymru a Lloegr) a ‘Citizens Advice Scotland’ fydd yn cyflenwi ‘Helpi i Wneud Cais’ i hawlwyr sy’n gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol neu’n symud o fudd-dal presennol i Gredyd Cynhwysol oherwydd newid mewn amgylchiadau.

Mae Helpu i Wneud Cais Cyngor Ar Bopeth yn cynnig cymorth personol ac ymarferol i helpu pobl i wneid cais am Gredyd Cynhwysol hyd at gael eu taliad llawn cywir cyntaf ar amser.

Mae ar gael ar-lein, dros y ffôn a wyneb i wyneb drwy wasanaethau lleol Cyngor Ar Bopeth.

Gall sefydliadau partner gyfeirio hawlwyr i Help i Hawlio unrhyw bryd os ydynt yn cael trafferth wrth drefnu cael ei taliad cywir.

Cymorth arall sydd ar gael

Mae 3 newid ariannol sylweddol y mae Credyd Cynhwysol yn dod ag ef:

  • taliad sengl i’r cartref
  • talu’n fisol
  • costau tai, yn y rhan fwyaf o achosion yn cael eu talu’n uniongyrchol i’r hawlydd, yna mae’r hawlydd yn talu eu rhent i’w landlord yn uniongyrchol

Gall DWP helpu gyda’r newidiadau hyn mewn dwy ffordd wahanol:

  • trwy drefnu cyngor ar arian
  • trwy newid sut maent yn cael eu talu

Cyngor ar arian

Gellir cynnig cyngor ar arian ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb fel rheol gan sefydliadau sydd ag arbenigedd yn yr maes hwn fel y Cyngor ar Bopeth, y Gwasanaeth Cynghori Ariannol neu awdurdodau lleol. Os yw’r hawlydd yn alluog yn ddigidol, gallant ddefnyddio’r offeryn ar-lein. Os nad oes ganddynt allu digidol, bydd eu hanogwr gwaith yn eu cyfeirio am gyngor ar arian gan eu hawdurdod lleol.

Newid sut y caiff pobl eu talu

Os na all yr hawlydd reoli’r taliad misol sengl, gall DWP ystyried:

  • trefnu taliadau wedi’u rheoli i landlord
  • newid pa mor aml y telir yr hawlydd os ydynt yn ei chael yn anodd i gyllidebu bob mis, gallant ofyn i gael eu taliad Credyd Cynhwysol wedi’i rannu dros y mis fel ei fod yn cael ei dalu’n amlach, er enghraifft, ddwywaith y mis neu, yn eithriadol, bedair gwaith y mis
  • rhannu’r taliad o’r dyfarniad rhwng partneriaid

Gelwir y rhain yn Drefniadau Taliadau Amgen (APA). Gellir gofyn am APA ar unrhyw adeg yn ystod cais gan gynnwys cyn gynted ag y gwnaethant y cais. Siaradwch ag anogwr gwaith neu asiant llinell gymorth Credyd Cynhwysol am ragor o wybodaeth.

Budd-daliadau eraill

Mae nifer o fudd-daliadau eraill y gall yr hawlydd wneud cais amdanynt yn dibynnu ar eu hamgylchiadau unigol. Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr felly defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i sicrhau bod yr hawlydd yn gwneud cais am y budd-daliadau cywir.

Y budd-daliadau eraill y gall rhywun wneud cais amdanynt yw:

*Darpariaeth Lles Lleol (cysylltwch â’r cyngor lleol perthnasol am wybodaeth)

Cynnal y cais Credyd Cynhwysol

Datgelu materion i’r anogwr gwaith

Rydym yn deall ei fod weithiau’n anodd i’r hawlydd i fod yn agored am faterion neu heriau y maent yn eu profi ond mae’r anogwr gwaith yno i’w helpu. Gan fod angen cytuno ar Ymrwymiad Hawlydd er mwyn cael Credyd Cynhwysol, mae’n bwysig iawn bod yr hawlydd yn dweud wrth yr anogwr gwaith am unrhyw faterion sydd ganddynt, fel bod yn ddigartref, mewn perygl o fod yn ddigartref, yn gaeth i gyffuriau/alcohol neu iechyd meddwl gwael. Cyn gynted y bydd yr anogwr gwaith yn gwybod, cyn gynted y gallant ddechrau rhoi gefnogaeth mae’r hawlydd ei angen. Mae’r Ymrwymiad Hawlydd yn nodi’r hyn y mae’r hawlydd wedi cytuno i’w wneud i baratoi neu chwilio am waith yn gyfnewid am gael Credyd Cynhwysol ac felly bydd yn cael ei deilwra i ystyried amgylchiadau’r hawlwydd.

Dylai’r Ymrwymiad Hawlydd gael ei adolygu’n rheolaidd. Dywedwch wrth yr hawlydd i siarad â’u hanogwr gwaith os ydynt ar unrhyw adeg yn cael trafferth gyda’r tasgau yn Ymrwymiad Hawlydd neu os yw eu sefyllfa’n newid.

Ffyrdd o reoli’r cais

Oherwydd bod Credyd Cynhwysol yn system ar-lein fel arfer bydd angen i’r hawlydd wirio eu cyfrif i weld a yw eu hanogwr gwaith wedi gosod camau gweithredu iddynt i’w cwblhau, gelwir y rhain yn ‘pethau i’w gwneud’. Os nad oes ganddynt fynediad rheolaidd at gyfrifiadur gall yr hawlydd ffonio ei ganolfan gwaith leol.

Hawddfreintiau

Os yw’r hawlydd yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, bydd eu hanogwr gwaith yn sefydlu a allant wneud cais am hawddfraint dros dro er mwyn caniatáu i’r hawlydd sicrhau llety sefydlog. Fel arfer, caiff yr hawddfraint ei wneud am hyd at fis, ond gellir ei ymestyn yn dibynnu ar amgylchiadau’r hawlydd. Bydd yr hawddfraint yn cael ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau bod yr hawlydd yn datrys eu problemau llety. Bydd angen i’r hawlydd i fod wrthi’n weithredol yn chwilio am lety sefydlog a bydd y camau hyn yn cael eu nodi ar eu Hymrwymiad Hawlydd.

Rhoi gwybod am newid

Cynghorwch yr hawlydd i roi gwybod am unrhyw newidiadau yn eu hamgylchiadau, gallai hyn gynnwys:

  • cael eu tenantiaeth eu hunain
  • unrhyw gyflyrau meddygol sydd ganddynt
  • os ydynt mewn perygl o fod yn ddigartref
  • dod o hyd i swydd neu wedi gorffen swydd

Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr, am fwy o wybodaeth gweler.

Gellir rhoi gwybod am newidiadau mewn amgylchiadau drwy naill ai:

Sancsiynau

Os na fydd yr hawlydd yn bodloni eu cyfrifoldebau heb reswm da neu wneud yr hyn sydd wedi ei gytuno yn eu Hymrwymiad Hawlydd, gallai eu Credyd Cynhwysol gael ei atal neu ei leihau. Gelwir hyn yn sancsiwn.

I leihau’r risg o sancsiwn gael ei osod:

  • sicrhewch fod yr hawlydd yn mynd i unrhyw apwyntiad y mae eu hanogwr gwaith wedi gofyn iddynt fynychu ac os na allant fynychu, sicrhewch eu bod yn ail-drefnu eu hapwyntiad trwy ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol
  • sicrhewch fod yr hawlydd yn dweud wrth eu hanogwr gwaith am eu hamgylchiadau gan y gall yr anogwr gwaith deilwra’r Ymrwymiad Hawlydd i ystyried eu sefyllfa bersonol

Ailystyriaethau Gorfodol

Os yw’r hawlydd yn anghytuno â phenderfyniad am fudd-daliadau gallant ofyn i’r penderfyniad gael ei edrych arno eto - gelwir hyn yn ‘ailystyriaeth orfodol’. Gallant wneud hyn os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • maent yn meddwl bod y swyddfa sy’n delio â’u cais wedi gwneud camgymeriad neu wedi methu tystiolaeth bwysig
  • maent yn anghytuno â’r rhesymau dros y penderfyniad
  • maent am i’r penderfyniad gael ei edrych arno eto

Mae’n rhaid i’r hawlydd ofyn am ailystyriaeth orfodol o fewn mis i ddyddiad y penderfyniad gwreiddiol. Gallant ofyn am ailystyriaeth orfodol trwy roi nodyn yn eu dyddlyfr, dros y ffôn, yn ysgrifenedig (trwy lythyr neu drwy lenwi a dychwelyd ffurflen) neu mewn cyfweliad.

Os nad ydynt yn siŵr a ddylent ofyn am ailystyriaeth orfodol na pha dystiolaeth i’w rhoi, dylent ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol. Byddant yn gallu egluro’r rheswm dros eu penderfyniad ac ateb unrhyw gwestiynau.

Pan fydd yr hawlydd yn gwneud yr ailystyriaeth orfodol mae angen iddynt roi:

  • dyddiad y penderfyniad budd-dal gwreiddiol
  • eu henw a’u cyfeiriad
  • eu dyddiad geni
  • eu rhif Yswiriant Gwladol
  • esbonio pa ran o’r penderfyniad sy’n anghywir a pham

Am fwy o wybodaeth, dywedwch wrthynt am siarad â’u anogwr gwaith, sefydliad fel Cyngor ar Bopeth neu ddarllen y canllaw ailystyriaeth orfodol.

Help os yw’r taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei stopio neu ei leihau

Os caiff yr hawlydd sancsiwn, gallant ofyn am daliad caledi os na allant dalu rhent, anghenion gwres, bwyd neu hylendid. Mae’n rhaid i’r taliad caledi gael ei dalu’n ôl fel y bydd eu taliadau Credyd Cynhwysol yn is nes eu bod yn ei dalu’n ôl.

I gael taliad caledi y gellir ei adennill, mae’n rhaid i’r hawlydd neu bob aelod o gwpl ddangos eu bod bellach yn bodloni eu gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith. Mae’n rhaid iddynt fod yn 18 oed neu drosodd a bydd yn rhaid iddynt ddangos eu bod wedi ceisio:

  • dod o hyd i’r arian o rywle arall
  • ond gwario arian ar bethau hanfodol

Ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol i ofyn am daliad caledi.

Cronfa Cymorth Hyblyg

Efallai y bydd yr hawlydd yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol gan y Gronfa Cymorth Hyblyg (FSF). Mae hwn yn gyllideb a reolir yn lleol y gall anogwyr gwaith gael mynediad iddo. Gellir ei defnyddio i ddarparu hyfforddiant ac addysg sy’n eu symud ymhellach tuag at gael swydd. Gellir ei ystyried hefyd i ddileu rhwystrau sy’n eu hatal rhag:

  • chwilio am waith
  • derbyn cynnig swydd gadarn neu symud i hunangyflogaeth

Enghreifftiau yw:

  • dillad taclus ar gyfer cyfweliadau neu i ddechrau gweithio
  • gwisg gwaith hanfodol (ond nid gwisg diogelwch oherwydd bod gan y cyflogwr ddyletswydd i ddarparu hyn)
  • offer hanfodol
  • costau teithio

Dywedwch wrthynt i siarad â’u hanogwr gwaith i gael mwy o wybodaeth am y Gronfa Cymorth Hyblyg.

  ##Cymorth arall

Budd-daliadau pasbort

Os yw’r hawlydd yn cael Credyd Cynhwysol efallai y bydd cymorth ychwanegol y gallant ei gael, er enghraifft, prydau ysgol am ddim a help gyda chostau iechyd, ac yn y blaen.

Os ydynt yn byw yng Nghymru, defnyddiwch y canllaw Yr Amodau ar gyfer Derbyn Sgil-fudd-daliadau a Sgil-gynlluniau Eraill i gyfeirio ato.

Os ydynt yn byw yn Lloegr, defnyddiwch y canllaw Credyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill i gyfeirio ato.

Os ydynt yn byw yn yr Alban, defnyddiwch y canllaw Universal Credit (Scottish choices) i gyfeirio ato.

Tai, taliadau gwasanaeth a Threth Cyngor

Pan fydd hawlydd Credyd Cynhwysol yn cymryd drosodd tenantiaeth, fel arfer mae’n rhaid iddynt dalu rhent yn uniongyrchol i’w landlord. Os ydynt yn rhentu gan landlord preifat, bydd angen i’r hawlydd ddarparu cytundeb tenantiaeth a dweud wrthym faint yw eu rhent er mwyn i’r DWP gynnwys arian ar gyfer costau tai (rhent) yn eu taliad Credyd Cynhwysol.

Ar gyfer landlordiaid cymdeithasol, rydym yn gwirio’r rhent gyda’r landlord ac nid oes angen i ni weld cytundeb tenantiaeth. Gall y landlord gadarnhau pa daliadau gwasanaeth sy’n yn cael eu cynnwys yn y Credyd Cynhwysol a faint efallai y bydd angen i’r hawlydd dalu.

Mewn rhai amgylchiadau efallai na fydd y costau tai a ddyfarnwyd fel rhan o ddyfarniad Credyd Cynhwysol yr hawlydd yn cwmpasu eu holl rent. Mae Taliadau Tai Dewisol yn ateb dros dro i broblemau ariannol. Os yw’r hawlydd yn cael problemau ariannol, dywedwch wrthynt i gysylltu â’u hawdurdod lleol oherwydd gallent gael Taliad Tai Dewisol neu gallent ddarllen mwy o wybodaeth am y Taliad Tai Dewisol.

Os yw’r hawlydd yn atebol am Dreth Cyngor, efallai y byddant yn gallu cael gostyngiad. Mae’r cymorth a gânt yn dibynnu ar ble maent yn byw a’u hamgylchiadau, er enghraifft eu hincwm ac os oes unrhyw blant neu oedolion yn byw gyda nhw. Dywedwch wrthynt i siarad â’u cyngor lleol am wneud cais am Ostyngiad Treth Cyngor neu wneud cais am Ostyngiad Treth Cyngor ar-lein.

Os bydd yr hawlydd yn symud i dai â chymorth neu lety dros dro bydd angen iddynt wneud cais am Fudd-dal Tai am gymorth tuag at eu costau tai. Dywedwch wrthynt i gysylltu â’u cyngor lleol i wneud cais am Fudd-dal Tai.

Gwneud cais yn yr Alban (Scottish Choices)

Os yw’r hawlydd yn gwneud cais newydd yn yr Alban, gofynnir iddynt a ydynt am gael eu talu unwaith neu ddwywaith y mis.

Pan fydd yr hawlydd yn symud i lety, gofynnir iddynt a ydynt am i’r swm tai gael ei dalu’n syth i’w landlord. Bydd y landlord yn cael gwybod os byddant yn dewis hyn.

Gwneud cais yng Ngogledd Iwerddon

Fel arfer, telir Credyd Cynhwysol ddwywaith y mis i gartref, fodd bynnag, gall yr hawlydd wneud cais am daliad misol.

Efallai y byddant hefyd yn cael arian i helpu i dalu eu costau tai. Mae eu cymhwyster a faint maent yn ei gael yn dibynnu ar eu hoedran a’u hamgylchiadau. Gall y taliad gynnwys:

  • rhent
  • llog morgais (Cymorth ar gyfer Llog Morgais)
  • ambell daliad gwasaneth
  • llog ar fenthyciad a sicrhawyd yn erbyn eu cartref

Telir y taliadau hyn yn uniongyrchol i landlord yr hawlydd neu’r benthyciwr morgeisi. Gallant ofyn iddo gael ei dalu iddynt, gan ganiatáu iddynt dalu eu rhent eu hunain.

Dolenni Defnyddiol

Cyfeiriwch yr hawlydd at y gwefannau canlynol os ydynt angen mwy o help gyda’u cais:

Cysylltiadau Defnyddiol

Cyfeiriwch hawlwyr at y sefydliadau canlynol os ydynt angen mwy o gymorth:

  • Shelter Mae Shelter yn elusen tai a digartrefedd. Ar gyfer materion nad ydynt yn rhai brys, gellir cysylltu â nhw ar 0808 800 4444. Os yw’r mater yn fater brys, ffoniwch 0808 164 4660
  • Samaritans Os yw’r hawlydd angen siarad am rywbeth sy’n eu tynnu i lawr, ffoniwch 116 123
  • Crisis yw’r elusen genedlaethol ar gyfer pobl ddigartref. Edrychwch ar eu gwefan i gael gwybodaeth am sut y gallant helpu. Os oes gan yr hawlydd fater tai, gallwch gysylltu â’r tîm tai ar 020 7426 5685 neu drwy E-bost housing@crisis.org.uk
  • St Mungo’s yn darparu cymorth uniongyrchol i atal ac ymateb i ddigartrefedd a galluogi pobl i ailadeiladu eu bywydau
  • The Big Issue sy’n bodoli i gynnig pobl ddigartref neu bobl sy’n cael eu heffeithio gan dlodi, y cyfle i ennill incwm cyfreithlon trwy werthu cylchgrawn sydd wedi ennill gwobrau i’r cyhoedd. Mae’r gwerthwyr yn prynu cylchgronau am £1.25 a’u gwerthu am £2.50, gan gadw’r gwahaniaeth. Y Big Issue Foundation yw cangen elusennol y sefydliad, sy’n bodoli i gysylltu gwerthwyr gyda’r gefnogaeth hanfodol a fydd yn eu helpu i fynd i’r afael â’r materion sydd wedi arwain neu gyfrannu at eu hamgylchiadau. Mae’r Sefydliad yn gweithio’n gyfan gwbl gyda gwerthwyr, gan gynnig cymorth, cyngor ac atgyfeiriadau.
  • Addaction yn cefnogi pobl i wneud newidiadau ymddygiadol cadarnhaol, yn fwyaf arbennig gyda chamddefnyddio alcohol a chyffuriau, ac iechyd meddwl
  • Centrepoint yn cefnogi pobl ifanc yr effeithir arnynt gan neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Os ydynt o dan 26 oed ac yn poeni am eu sefyllfa tai, gallant ffonio Llinell Gymorth am ddim a chyfrinachol Centerpoint ar 0808 800 0661 am wybodaeth, cyngor a chymorth
  • Gwasnaeth Cynghori Ariannol 0800 138 0555 - Wedi’i sefydlu gan y Llywodraeth mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn rhoi cyngor diduedd am ddim i helpu pobl i reoli eu harian
  • StreetLink - mae StreetLink yn bodoli i helpu i ddod a chysgu ar y stryd i ben trwy alluogi aelodau’r cyhoedd i gysylltu pobl sy’n cysgu ar y stryd gyda’r gwasanaethau lleol a all eu cefnogi
  • Homeless Link yw’r elusen aelodaeth genedlaethol ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio’n uniongyrchol â phobl sy’n dod yn ddigartref yn Lloegr. Edrychwch ar eu gwefan i gael gwybodaeth am wasanaethau yn eich ardal chi
  • Mind - Mae Mind yn elusen iechyd meddwl sy’n cynnig cefnogaeth a chyngor i unrhyw un sy’n dioddef problem iechyd meddwl. Edrychwch ar eu gwefan i gael gwybodaeth am wasanaethau yn eich ardal chi

Enghreifftiau

Rydym wedi darparu 2 senario i ddangos teithiau gwahanol i hawlwyr sy’n dod yn ddigartref neu sy’n cysgu ar y stryd. Mae cynnwys yr enghreifftiau yn y canllaw hwn at ddibenion enghreifftiol yn unig.

Enghraifft 1: Hawlydd 1

Roedd rhiant sengl a ddaeth yn ddigartref ar ôl chwaliad ei pherthynas, yn byw yng nghartref ei ffrind gyda’i merch. Roedd y trefniant hwn dros dro gan fod yr eiddo 2 ystafell wely eisoes yn gartref i’w ffrind a’i dau blentyn ei hun.

Pan aeth i’r ganolfan gwaith, fel rhan o’i chais newydd am Gredyd Cynhwysol, dywedodd wrthynt am ei hamgylchiadau presennol ac nad oedd ganddi ddogfen ID gan fod hyn wedi ei golli wrth symud. Defnyddiodd dŷ ei ffrind fel cyfeiriad dan ofal a gofynnodd yr anogwr gwaith ychydig o gwestiynau iddi a oedd yn cadarnhau ei hunaniaeth.

Trefnodd yr anogwr gwaith daliad ymlaen llaw o’i Chredyd Cynhwysol gael ei wneud gan nad oedd ganddi unrhyw arian ar gyfer bwyd cyn ei dyddiad taliad cyntaf. Trafododd hi a’i hanogwr gwaith yr Ymrwymiad Hawlydd a chytunwyd y byddai hawddfraint domestig yn briodol am 4 wythnos, ac felly ni fyddai gofyn iddi chwilio am waith a gallai ganolbwyntio ar ddod o hyd i lety iddi hi a’i merch. Cytunodd i’r cynnig o atgyfeiriad i’r Awdurdod Tai Lleol a chafodd hyn ei anfon yn syth gan amlinellu ei sefyllfa.

Yn ei hapwyntiad nesaf yn y ganolfan gwaith, adolygwyd ei hamgylchiadau gyda’i hanogwr gwaith. Gyda chymorth yr Awdurdod Tai Lleol, roedd wedi canfod eiddo i’w rentu. Fe wnaeth yr anogwr gwaith ei helpu i roi gwybod am ei newid mewn amgylchiadau ac esboniodd y byddai ei thaliad Credyd Cynhwysol bellach yn cynnwys arian tuag at ei rhent. Ni fyddai swm yr arian yn ei ddyfarniad am gostau tai yn cwmpasu’r holl rent, felly fe’i cynghorwyd i wneud cais am Daliad Tai Dewisol gan ei chyngor lleol. Fe wnaeth yr anogwr gwaith hefyd gynghori iddi wneud cais am ostyngiad Treth Cyngor lleol gan y cyngor.

Eglurodd ei bod wedi cael trafferth yn y gorffennol o ran cadw ar y trywydd iawn gyda’i biliau, felly i’w helpu i reoli ei harian fe’i cyfeiriwyd am gefnogaeth cyllidebu personol. Cytunwyd hefyd y byddai’r costau tai yn cael eu talu’n uniongyrchol i’w landlord i’w hatal rhag syrthio i ôl-ddyledion rhent.

Unwaith iddi symud i mewn i’w chartref newydd, roedd hi’n gallu canolbwyntio ar chwilio am waith ac addaswyd ei Hymrwymiad Hawlydd i adlewyrchu’r newid yn ei sefyllfa.

Enghraifft 2: Hawlydd 2

Daeth hawlydd 18 oed, yn ddigartref ar ôl gadael gofal, roedd yn mynd o soffa i soffa, yn aml yn aros gyda gwahanol ffrindiau. Cynghorodd ei weithiwr cymorth iddo wneud cais am Gredyd Cynhwysol ond ni allai ddefnyddio cyfrifiadur. Cyfeiriodd ei weithiwr cymorth ef at wasanaeth Helpu i Wneud Cais Cyngor Ar Bopeth a fyddai yn ei helpu i wneud ei gais am Gredyd Cynhwysol. Gan na allai ddefnyddio cyfeiriad ei deulu neu ffrindiau fel cyfeiriad dan ofal, cynghorodd yr aelod o staff oedd yn ei helpu gyda’i gais i ddefnyddio’r ganolfan gwaith fel ei gyfeiriad dan ofal.

Yn ei Gyfweliad Tystiolaeth Cychwynnol, gofynnodd yr anogwr gwaith gyfres o gwestiynau iddo i gadarnhau ei hunaniaeth gan nad oedd ganddo unrhyw brawf ID. Mynychodd ei Gyfweliad Cais Newydd lle bu’n rhannu gyda’i anogwr gwaith ei fod yn cysgu ar soffa ei ffrindiau. Dywedodd wrth ei anogwr gwaith bod ei weithiwr cymorth yn ceisio ei gael i mewn i lety â chymorth. Argymhellodd yr anogwr gwaith hawddfraint dros dro o’i ofynion chwilio am waith am 4 wythnos i’w alluogi i ganolbwyntio ar sicrhau llety. Gofynnodd iddo ddychwelyd ymhen 2 wythnos i weld sut roedd pethau’n mynd.

Yna eglurodd yr anogwr gwaith fod Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu bob mis a byddai’n 5 wythnos nes iddo gael ei dalu. Roedd yn poeni’n fawr am aros mor hir felly dywedodd yr anogwr gwaith wrtho y gallai gael taliad ymlaen llaw ac esbonio y byddai’n rhaid iddo ei ad-dalu. Buont hefyd yn trafod Trefniadau Talu Amgen a rheoli arian gan ei fod yn bryderus na fyddai’n rheoli taliadau misol. Cytunodd yr anogwr gwaith, o dan yr amgylchiadau, y byddai’n rheoli’n well pe bai yn cael ei Gredyd Cynhwysol yn amlach na bob mis.

Yn ei apwyntiad nesaf yn y ganolfan gwaith, dywedodd wrth ei anogwr gwaith fod ganddo le mewn llety â chymorth ac roedd yn symud ymhen wythnos. Cynghorodd yr anogwr gwaith iddo wneud cais am Fudd-dal Tai i dalu am gostau ei dai â chymorth, a gwnaeth gyda chymorth ei weithiwr cymorth.

Dywedodd wrth ei anogwr gwaith y byddai’n gallu dechrau meddwl am waith pan oedd yn symud i mewn i’w lety â chymorth. Trefnodd yr anogwr gwaith apwyntiad ar gyfer bythefnos o amser i adolygu ei Ymrwymiad Hawlydd a nodi cyfleoedd i’w helpu i baratoi ar gyfer gwaith.

Atodiad 1 – Rhestr o ddogfennau ID derbyniol

ID Sylfaenol

Prif dystiolaeth - Y ffynhonnell gyhoeddi yw’r Llywodraeth ac mae ganddi weithdrefnau cofrestru cryf gyda phrosesau gwirio cadarn wedi’u cynnwys o fewn y cais wyneb yn wyneb. Mae dogfennau’n cynnwys llawer o nodweddion diogelwch datblygedig, sy’n eu gwneud yn anoddach eu ffugio. Rhaid i’r dogfennau Prif Dystiolaeth a restrir isod fod yn gyfredol lle bo angen. Fel eithriad i’r Safonau Cyffredin ar gyfer Dilysu Hunaniaeth gall hawlwyr Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol ddefnyddio dogfennau sydd wedi dod i ben ond mae’n rhaid i’r ddogfen ddangos gwir debygrwydd yr hawlydd.

  • Pasbort sy’n dangos bod y deilydd, neu berson a enwir yn y pasbort fel plentyn y deilydd

  • Trwydded yrru cerdyn â llun llawn neu dros dro

  • Cerdyn hunaniaeth cenedlaethol, ac eithrio’r rhai a gyhoeddir o dan Gynllun Cerdyn ID y DU

  • Trwydded breswylio, tystysgrif gofrestru neu ddogfen sy’n ardystio neu’n nodi preswyliad parhaol a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref neu Asiantaeth Ffiniau’r Deyrnas Unedig i ddinesydd o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir.

  • Cerdyn preswylio parhaol a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref neu’r Asiantaeth Ffiniau a Mewnfudo i aelod o deulu ddinesydd o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir.

  • Trwydded Preswylio Biometreg wedi’i gyhoeddi gan Asiantaeth Ffiniau’r Deyrnas Unedig i’r deilydd sy’n nodi bod y person a enwir ynddo yn cael aros yn amhenodol yn y Deyrnas Unedig, neu nad oes ganddynt unrhyw derfyn amser ar eu harhosiad yn y Deyrnas Unedig. (Dylech nodi yn achos ffoadur sydd heb unrhyw ffurf arall o ID, gellir derbyn y Drwydded Preswylio Biometreg fel yr unig dystiolaeth o hunaniaeth).

  • Pasbort neu ddogfen deithio arall wedi’i nodi i ddangos bod y deiliad wedi’i eithrio o reolaeth mewnfudo, yn cael aros yn amhenodol yn y Deyrnas Unedig, sydd â hawl i fyw yn y Deyrnas Unedig, neu nad oes unrhyw derfyn amser ar eu harhosiad yn y Deyrnas Unedig.

  • Cerdyn ‘Young Scot’ gyda hologram PASS

  • Cerdyn dinesydd

  • Dogfen Statws Mewnfudo wedi’i gyhoeddi gan y Swyddfa Gartref neu Asiantaeth Ffiniau’r Deyrnas Unedig i’r deiliad gyda chymeradwyaeth sy’n nodi bod y person a enwir ynddo yn cael aros yn amhenodol yn y Deyrnas Unedig neu nad oes unrhyw derfyn amser ar eu harhosiad yn y Deyrnas Unedig.

  • Tystysgrif cofrestru neu frodori fel dinesydd Prydeinig sy’n nodi bod hawl gan y deiliad i gymryd cyflogaeth yn y Deyrnas Unedig.

  • Gall hawlwyr Gogledd Iwerddon sydd yng Ngogledd Iwerddon ond defnyddio eu cerdyn ID etholiadol

Yn ogystal, yn absenoldeb y wybodaeth uchod, gall hawlydd ddefnyddio’u cerdyn banc fel tystiolaeth Prif dystiolaeth o hunaniaeth. Rhaid i’r cerdyn banc hwn ddangos enw, cod didoli a rhif cyfrif yr hawlydd neu gael ei gefnogi gan fantolen banc diweddar. Dylai hyn gyd-fynd â’r manylion y mae’r hawlydd wedi’u datgan ar eu cais.

ID Eilaidd

Dogfennau Eilaidd all gefnogi hunaniaeth person

Eilaidd – Gall dogfennau gael eu cyhoeddi gan y Llywodraeth neu heb fod o’r Llywodraeth a gallant gynnwys rhai nodweddion diogelwch (er na chawsant eu datblygu’n sylweddol) i gynorthwyo dilysu’r ddogfen. Fodd bynnag gellir ffugio’r dogfennau yn eithaf hawdd. Fel arfer yn cael ei gyhoeddi drwy sianeli cais anghysbell ond gellir eu cyhoeddi wyneb yn wyneb mewn rhai achosion.

Sicrhewch fod dogfennau lle bo angen yn gyfredol ac yn wreiddiol neu eu bod yn gopi ardystiedig. Fel eithriad i’r Safonau Cyffredin ar gyfer Dilysu Hunaniaeth gall hawlwyr Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol ddefnyddio dogfennau sydd wedi dod i ben ond mae’n rhaid i’r ddogfen ddangos gwir debygrwydd yr hawlydd.

  • Unrhyw ffurf o Brif dystiolaeth (sydd heb ei ddefnyddio’n barod fel Prif dystiolaeth)

  • Tystysgrif cofrestru neu frodori fel dinesydd Prydeinig;

  • Tystysgrif geni wreiddiol a gyhoeddwyd ar Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Iwerddon (neu gopi wedi’i ardystio gan y Cofrestrydd);

  • Tystysgrif geni dramor;

  • Tystysgrifau geni/mabwysiadu gwreiddiol (neu gopi ardystiedig gan y Cofrestrydd);

  • Cerdyn Young Scot

  • Cerdyn dinesydd;

  • Paslyfr cymdeithas adeiladu

  • Cerdyn rhent awdurdod lleol;

  • Dogfennau treth cyngor;

  • Polisïau sicrwydd/yswiriant bywyd;

  • Polisïau ad-dalu morgais;

  • Biliau tanwydd/ffôn a dalwyd yn ddiweddar yn enw’r cwsmer;

  • Tystysgrif briodas wreiddiol;

  • Tystysgrif partneriaeth sifil wreiddiol;

  • Papurau ysgariad neu ddiddymiad;

  • Papurau diddymu partneriaeth sifil;

  • Tystysgrif/contract cyflogaeth lluoedd Ei Fawrhydi;

  • Tystysgrif/contract cyflogaeth o dan y Goron;

  • Tystysgrif/contract cyflogaeth yn y Llynges Fasnachol;

  • Tystysgrif gofrestru bresennol yr heddlu;

  • Tystysgrif gwn gyfredol;

  • Slip cyflog/pensiwn cyfredol/diweddar sy’n cynnwys enw a rhif Yswiriant Gwladol y talai;

  • Llythyr gan gyflogwr/contract cyflogaeth;

  • Tystysgrif Newid Enw;

  • Mantolenni cyfrif banc/cymdeithas adeiladu/cyfrif cerdyn Swyddfa’r Post cyfredol (6 mis oed neu lai Os yw’r hawlydd wedi defnyddio eu cerdyn banc fel prif ID yna bydd yn rhaid i unrhyw fantolenni fod ar gyfer cyfrif gwahanol)

  • Llyfr cyfrifon cynilo agored/cyfredol;

  • Llyfr siec personol;

  • Cerdyn debyd/switch cyfredol (oni bai bod yr hawlydd wedi defnyddio hwn fel Prif ID);

  • Cerdyn tâl cyfredol;

  • Cerdyn aelodaeth Undeb Llafur;

  • Pas teithio gyda llun wedi’i osod;

  • Cytundebau prentisiaeth;

  • Dogfennau cofrestru cerbyd/yswiriant modur;

  • Pasbort sydd wedi dod i ben;

  • Ffurflen B79, ffurflen a ddefnyddir i hysbysu staff yr Adran Gwaith a Phensiynau bod person wedi cael ei ryddhau o’r carchar ac fe’i cynghorwyd i wneud cais am fudd-dal;

  • Taflen Fechnïaeth;

  • Gohebiaeth gan CThEF;

  • Cytundeb tenantiaeth ar gyfer eiddo presennol;

  • Anfonebau (hunangyflogedig);

  • Llythyr gan gyfrifydd sy’n cynnwys gwybodaeth sy’n helpu i sefydlu hunaniaeth;

  • Llythyr gan gyfreithiwr sy’n cynnwys gwybodaeth sy’n helpu i sefydlu hunaniaeth;

  • Penodi o offeryn llys cyfredol/diweddar er enghraifft Profiant neu Bŵer Atwrnai wedi cofrestru gan y llys;

  • Tystysgrif trosglwyddo stoc (Cyfarwyddwr);

  • Tystysgrif ymgorffori (Cyfarwyddwr);

  • Memorandwm cymdeithasiad (Cyfarwyddwr);

  • Cerdyn meddygol GIG;

  • Cerdyn ID myfyrwyr (myfyriwr);

  • Llythyr gan sefydliad addysgol (myfyriwr);

  • Dogfennaeth benthyciad myfyrwyr;

  • Trwydded yrru heb fod o’r DU

Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr.

Sut mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth

Byddwn yn trin eich gwybodaeth bersonol yn ofalus. Efallai y byddwn yn ei ddefnyddio at unrhyw un o’n dibenion. I ddysgu am eich hawliau gwybodaeth a sut rydym yn defnyddio gwybodaeth, gweler ein Siarter Gwybodaeth Bersonol yn Gov.uk/cymraeg