Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 43: ceisiadau mewn perthynas ag achosion llys, ansolfedd a rhwymedigaeth treth

Diweddarwyd 11 October 2021

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae manylion y dogfennau sydd ar gael o Gofrestrfa Tir EF yn unol ag adran 66 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn cael eu dangos yng nghyfarwyddyd ymarfer 11: archwiliad a cheisiadau am gopïau swyddogol

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn trafod ceisiadau a wneir gan y bobl hynny sy’n gymwys o dan reol 140(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003. Mae’n disgrifio sut y dylai’r bobl hynny wneud cais am gopïau o ddogfennau a chofnodion sydd yn nwylo Cofrestrfa Tir EF, a manylion y gwasanaethau ychwanegol sydd ar gael iddynt.

Mae rheol 140 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn nodi hawl y bobl hynny sy’n gymwys o dan reol 140(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003 i archwilio a chael copïau o ddogfennau, neu i wneud chwiliad o’r Mynegai Enwau Perchnogion mewn cysylltiad â’r canlynol:

  • achos troseddol
  • adennill sifil
  • ansolfedd
  • rwymedigaeth treth
  • achosion ymchwiliad neu orfodaeth eraill a gynhelir o dan bwerau a dyletswyddau statudol

Mae Rheol 133 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn cadarnhau bod ceisiadau a wneir o dan reol 140 wedi eu heithrio o’r hawl gyffredinol i archwilio a gwneud copïau o unrhyw ddogfennau a gedwir gan y cofrestrydd mewn cysylltiad â chais.

Mae rhestr gyfredol o’r bobl/cyrff y cyfeirir atynt yn Atodlen 5 i Reolau Cofrestru Tir 2003 i’w gweld yn yr Atodiad i’r cyfarwyddyd hwn.

1.1 Ceiswyr cymwys

Os oes pwerau ymchwiliad a/neu orfodaeth statudol gan awdurdod cyhoeddus, ac mae angen iddo wneud ceisiadau o dan reol 140 o Reolau Cofrestru Tir 2003 (ac nid yw wedi ei gynnwys eisoes yn yr Atodiad), gall gysylltu â ni yn y cyfeiriad isod. Byddwn yn gofyn am wybodaeth fanwl ac yna ystyried y cais.

Angela Shaw
Cyfreithiwr/Cofrestrydd Tir Cynorthwyol
Registration Legal Services
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon CR0 2AQ

Ebost: angela.shaw@landregistry.gov.uk

2. Sut i wneud cais

Gallwch wneud ceisiadau o dan reol 140 o Reolau Cofrestru Tir 2003 trwy’r post neu o gyfeiriad ebost diogel fel y darperir gan y rhybudd a gyhoeddir gan y cofrestrydd o dan reol 132 ac Atodlen 2 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Oherwydd rhesymau diogelwch, sylwer mai dim ond ceisiadau ebost a anfonir i’r cyfeiriadau a restrir yn y rhybudd Atodlen 2 y byddwn yn eu derbyn. Os ydych yn anfon ebost gan ddefnyddio dull anniogel, rydych yn gwneud hynny ar eich risg eich hunan. Os ydych yn rhan o’r llywodraeth, mae arweiniad ar ddiogelu negeseuon ebost y llywodraeth ar gael ar GOV.UK. I siarad â ni am sefydlu rhwydwaith diogel gyda ni, cysylltwch â ni.

Os ydych am gyflwyno ceisiadau yn electronig, er enghraifft ar gyfer copi swyddogol o’r gofrestr, gallwch ddefnyddio ein gwasanaethau porthol arferol ond efallai yr hoffech ystyried gwneud cais i’ch manylion cyfrif cwsmer gyda Chofrestrfa Tir EF gael eu newid er mwyn cuddio eich hunaniaeth. Nid ceisiadau o dan reol 140 fydd y rhain. Dylai unrhyw gwsmer sydd am gael cyfrif dienw gyflwyno cais ysgrifenedig yn ei enw ei hun.

Dylid ei anfon at:

Service Access Team
PO Box 560
Southfield House
Southfield Way
Durham
DH1 9LR

2.1 Ceisiadau brys

Byddwn yn delio ag unrhyw gais a wnaed gan geisydd sy’n cael ei restru o dan reol 140(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003 fel mater o frys, a byddwn yn ymateb mor fuan ag y bo modd, fel arfer o fewn 48 awr. Oherwydd natur y gwaith a wnewch, deallwn y gall fod arnoch angen gwybodaeth ar fwy o frys.

Gall fod cymaint o frys fel y dymunwch i ni roi gwybodaeth i chi dros y ffôn. Os ydych yn teimlo bod hyn yn angenrheidiol, cysylltwch â Chofrestrfa Tir EF a byddwn yn falch o drafod eich amgylchiadau a sut y gallwn gynorthwyo. Mae’n anodd rhagweld sefyllfa lle byddem yn darparu gwybodaeth tu hwnt i enw a chyfeiriad perchennog cofrestredig dros y ffôn.

Ar ba bynnag ffurf y bydd eich cais, rhaid i chi wneud y canlynol o hyd:

  • llenwi a chyflwyno’r ffurflenni cais priodol
  • talu’r ffi angenrheidiol.

2.2 Defnyddio’r ffurflen gywir

Os ydych am i’ch cais am gopïau o ddogfennau gael ei eithrio o’r hawl gyhoeddus i archwilio a gwneud copïau ohono, rhaid ichi ddefnyddio ffurflen CIT i wneud eich cais.

Wrth wneud cais trwy’r post, styffylwch ffurflen CIT, neu gosodwch hi’n barhaol fel arall, ar y ffurflenni cais ychwanegol y byddwch yn eu llenwi fel rhan o’ch ymholiad (gweler Gwybodaeth sydd ar gael o Gofrestrfa Tir EF).

2.3 Archwiliad cyhoeddus o ffurflenni cais

Mae ffurflenni cais am gopïau swyddogol o gofnodion neu ddogfennau sydd yn nwylo Cofrestrfa Tir EF yn agored i’w harchwilio oni bai eu bod wedi eu heithrio o’r hawl o dan reol 133 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Nid yw ffurflen CIT nac unrhyw ffurflen arall a atodwch i ffurflen CIT fel rhan o’ch cais yn agored i archwiliad cyhoeddus fel hyn.

Mae hyn yn golygu, os na ddefnyddiwch ffurflen CIT i wneud eich cais, bod Cofrestrfa Tir EF o dan rwymedigaeth statudol i gyhoeddi copïau o unrhyw ffurflen gais a gyflwynwyd gennych, neu ohebiaeth sy’n gysylltiedig â hi, mewn ymateb i gais unrhyw un (adran 66 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Hefyd, o dan reol 140(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003, mae’r pwerau archwiliad ychwanegol sy’n agored i chi o dan reol 140(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003 dim ond ar gael pan fyddwch yn defnyddio ffurflen CIT. Gweler Cyffredinol i gael rhagor o wybodaeth am hyn.

Ni all ceisiadau rheol 140 sy’n atodi ffurflen CIT gael eu gwneud trwy ddefnyddio trwy borthol Cofrestrfa Tir EF. Nid yw’r porthol yn caniatáu i geisiadau gael eu gwneud ar gyfer copïau o ddogfennau sydd yn nwylo’r cofrestrydd neu gopïau swyddogol o gofrestr, ond ni fydd y rhain yn geisiadau rheol 140. Cedwir cofnod o’r cais y gallem, mae’n bosibl, orfod ei ddatgelu pe bai cais yn cael ei wneud am wybodaeth ynghylch ceisiadau a wnaed yn erbyn teitl cofrestredig arbennig.

2.4 Cyhoeddi canlyniadau

Cyhoeddir canlyniadau chwiliad o’r Mynegai Enwau Perchnogion trwy ebost wedi ei amgryptio pan ddarperir cyfeiriad ebost ym mhanel 3 ffurflen PN1 oni ofynnir yn wahanol. Gweler ein cyfarwyddyd ar amgryptio negeseuon ebost Cofrestrfa Tir EF ar gyfer sut i agor ac ateb ebost wedi ei amgryptio gan Gofrestrfa Tir EF.

Cyhoeddir canlyniadau’r holl geisiadau eraill y gofynnir amdanynt gan ddefnyddio ffurflen CIT trwy’r post.

3. Gwybodaeth sydd ar gael o Gofrestrfa Tir EF

3.1 Cyffredinol

Mae rheol 133 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn eithrio rhai dogfennau sydd yn nwylo’r cofrestrydd rhag yr hawl gyffredinol i archwilio a gwneud copïau, a roddir gan adran 66 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Mae dogfennau eithriedig yn cynnwys ceisiadau ffurflen CIT, dogfennau hunaniaeth, dogfennau ymchwilio troseddau, a dogfennau gwybodaeth eithriedig. (Mae rheol 136 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn caniatáu i geiswyr ofyn i Gofrestrfa Tir EF ddynodi dogfennau yn ddogfennau ‘gwybodaeth eithriedig’ ar sail eu bod yn cynnwys gwybodaeth niweidiol o natur fasnachol neu bersonol. Os dynodwyd dogfen felly, dim ond copi golygedig o’r ddogfen, heb gynnwys y wybodaeth niweidiol, sydd ar gael i’w harchwilio neu gopïo fel arfer.)

Nid yw’r eithriadau hyn yn berthnasol lle’r ydych yn gwneud cais am naill ai archwiliad neu gopïau swyddogol o ddogfennau yn ôl darpariaethau rheol 140 o Reolau Cofrestru Tir 2003, ar yr amod eich bod yn gwneud eich cais ar ffurflen CIT. Yna byddwn yn gallu rhoi copi cyflawn o’r ddogfen sydd yn ein meddiant i chi, os gofynnir amdanynt.

3.2 Archwiliad o’r gofrestr, cynllun teitl a dogfennau

Os dymunwch archwilio’r gofrestr, cynllun teitl neu ddogfennau sydd yn nwylo Cofrestrfa Tir EF, dylech nodi hynny yn y blwch cyntaf yn Rhan 1 ffurflen CIT a llenwi ffurflen PIC.

Dylech wneud trefniant ar gyfer eich ymweliad i sicrhau bod y ffeiliau yr ydych am eu harchwilio ar gael pan fyddwch yn ymweld.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddefnyddio a llenwi ffurflen PIC yng nghyfarwyddyd ymarfer 11: archwiliad a cheisiadau am gopïau swyddogol.

3.3 Copïau swyddogol o’r gofrestr a chynllun teitl

Os ydych am gael copïau swyddogol o’r gofrestr neu gynllun teitl, dylech nodi hynny yn yr ail flwch yn Rhan 1 ffurflen CIT a llenwi ffurflen OC1.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddefnyddio a llenwi ffurflen OC1 yng nghyfarwyddyd ymarfer 11: archwiliad a cheisiadau am gopïau swyddogol.

3.4 Copïau swyddogol o ddogfennau

Os ydych am gael copïau swyddogol o ddogfennau sydd yn nwylo Cofrestrfa Tir EF, dylech nodi hynny yn y trydydd blwch yn Rhan 1 ffurflen CIT a llenwi ffurflen OC2.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddefnyddio a llenwi ffurflen OC2 yng nghyfarwyddyd ymarfer 11: archwiliad a cheisiadau am gopïau swyddogol.

3.5 Copïau o argraffiadau hanesyddol o’r gofrestr a chynllun teitl

Os ydych am gael copïau o argraffiadau hanesyddol o’r gofrestr neu gynllun teitl, dylech nodi hynny yn y pedwerydd blwch yn Rhan 1 ffurflen CIT a llenwi ffurflen HC1.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddefnyddio a llenwi ffurflen HC1 yng nghyfarwyddyd ymarfer 11: archwiliad a cheisiadau am gopïau swyddogol.

3.6 Chwiliad o’r map mynegai

Os ydych am wneud chwiliad o’r map mynegai, dylech nodi hynny yn y pumed blwch yn Rhan 1 ffurflen CIT a llenwi ffurflen SIM.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddefnyddio a llenwi ffurflen SIM yng nghyfarwyddyd ymarfer 10: chwiliadau swyddogol o’r map mynegai.

Os nad oes angen darpariaethau indemniad arnoch o ran chwiliad o’r map mynegai, gallech ystyried defnyddio MapSearch. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i gwsmeriaid e-wasanaethau Busnes sydd â mynediad i’r porthol.

3.7 Chwiliad o’r mynegai rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau

Os ydych am wneud chwiliad o’r mynegai rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau, dylech nodi hynny yn y chweched blwch yn Rhan 1 ffurflen CIT a llenwi ffurflen SIF.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddefnyddio a llenwi ffurflen SIF yng nghyfarwyddyd ymarfer 13: chwiliadau swyddogol o’r mynegai rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau.

3.8 Chwiliad o’r Mynegai Enwau Perchnogion

Os ydych yn gwybod dim ond enw’r sawl sy’n berthnasol i’r ymholiad, gallwch wneud chwiliad o’r Mynegai Enwau Perchnogion i weld pa eiddo cofrestredig sydd yn eu perchnogaeth.

Os ydych am wneud chwiliad o’r Mynegai Enwau Perchnogion dylech nodi hynny yn y seithfed blwch yn Rhan 1 ffurflen CIT a llenwi ffurflen PN1.

Os byddwch am wneud chwiliad o’r Mynegai Enwau Perchnogion ac am i ni gyflenwi copïau swyddogol o gofrestr yr holl rifau teitl a ddaw i’r amlwg, dylech nodi hynny yn yr wythfed blwch yn Rhan 1 ffurflen CIT a llenwi ffurflen PN1.

4. Cwblhau tystysgrifau

Mae’r tystysgrifau yn Rhan 2 ffurflen CIT yn nodi’r amrywiol awdurdodau y gallwch wneud eich cais oddi tanynt.

Rhaid i chi gwblhau’r dystysgrif briodol o’r rhai yn Rhan 2 neu ni fyddwn yn gallu prosesu eich cais.

Rhaid ichi dicio’r holl flychau angenrheidiol a llenwi pob adran o’r dystysgrif sydd ei hangen cyn cyflwyno eich cais.

Os na wnewch hynny, byddwn yn methu rhoi’r wybodaeth y gofynnwyd amdani i chi.

Mae ffurflen CIT yn rhoi rhestr o’r holl dystysgrifau y gallwch wneud cais oddi danynt. Os ydych yn ansicr o dan ba dystysgrif i wneud cais, gweler y cyfarwyddyd yn yr Atodiad. Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach ynghylch pa dystysgrif sy’n gymwys i chi, cysylltwch â’r swyddog sy’n delio ag ymholiadau ymchwiliad neu orfodaeth yn swyddfa Cofrestrfa Tir EF lle byddwch yn gwneud eich cais.

Rhaid i chi gwblhau panel 4 ar dudalen 2 y ffurflen gais hefyd. Rhaid i bwy bynnag sy’n rhoi’r dystysgrif lofnodi’r adran hon.

5. Derbynioldeb copïau a gyflwynwyd fel tystiolaeth

Deallwn y gall fod yn angenrheidiol cyflwyno copïau o gofrestri, cynlluniau teitl neu ddogfennau a gawsoch o Gofrestrfa Tir EF yn y llys.

5.1 Copïau swyddogol

Mae adran 67 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn darllen fel a ganlyn:

‘67 Copïau swyddogol o’r cofrestri ac ati

(1) Mae copi swyddogol o, neu o ran o:

(a) cofrestr teitl,

(b) unrhyw ddogfen y cyfeirir ati yn y gofrestr teitl ac a gadwyd gan y cofrestrydd,

(c) unrhyw ddogfen arall a gadwyd gan y cofrestrydd sy’n berthnasol i gais iddo, neu

(d) cofrestr rhybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf, yn dderbyniol fel tystiolaeth i’r un graddau â’r gwreiddiol.

(2) Nid yw person sy’n dibynnu ar gopi swyddogol sydd â chamgymeriad ynddo yn atebol am golled sy’n cael ei dioddef gan rywun arall oherwydd y camgymeriad’.

Effaith yr adran hon yw bod copi swyddogol o unrhyw gofrestr, cynllun teitl neu ddogfen y bydd Cofrestrfa Tir EF yn ei ddarparu i gael ei drin fel tystiolaeth dderbyniol fel pe bai hon oedd y ddogfen wreiddiol.

Os ydych yn ystyried y bydd cyflwyno’r copi swyddogol yn y llys yn galw am gefnogaeth datganiad tyst neu, mewn achosion eithriadol, presenoldeb personol aelod o’n staff, cysylltwch yn gyntaf â’r Cofrestrydd Tir yn swyddfa berthnasol Cofrestrfa Tir EF.

5.2 Cyflwyno dogfennau gwreiddiol

Am y rhesymau uchod, ni fydd angen cyflwyno’r dogfennau gwreiddiol i chi yn y rhan fwyaf o achosion, gan fod copi swyddogol ohonynt yn dderbyniol i’r un graddau â’r gwreiddiol.

Fodd bynnag, os ydych yn teimlo bod arnoch angen y ddogfen wreiddiol sydd yn ein meddiant (er enghraifft ar gyfer ymchwiliad fforensig), mae rheol 205 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn caniatáu i Gofrestrfa Tir EF ryddhau dogfen wreiddiol, lle mae yn ein ffeiliau, ar delerau y teimlwn eu bod yn briodol. Sylwer bod posibilrwydd y bydd nifer o ddogfennau gwreiddiol wedi cael eu dinistrio ar ôl eu sganio neu eu dychwelyd at y ceisydd. Yn wir, yn anaml y bydd Cofrestrfa Tir EF yn derbyn dogfennau gwreiddiol erbyn hyn, gan fod y rhan fwyaf o geisiadau yn cael eu gwneud ar-lein trwy anfon copïau ardystiedig wedi eu sganio o’r dogfennau.

Lle bo angen, dylech wneud cais ar ffurf llythyr ar bapur ysgrifennu swyddogol, yn dangos:

  • manylion y ddogfen sydd arnoch ei hangen
  • at ba ddiben sydd arnoch ei hangen
  • pam na fyddai copi swyddogol o’r ddogfen yn ddigonol
  • am ba hyd y byddwch yn disgwyl dal y ddogfen cyn ei dychwelyd

5.3 Adran 14 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984

Mae’r cofrestrydd yn ystyried y bydd y wybodaeth sydd yn nwylo Cofrestrfa Tir EF yn ‘ddeunydd trefn arbennig’ o fewn ystyr adran 14 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984.

Fodd bynnag, mae’r cofrestrydd o’r farn hefyd, oherwydd darpariaethau adrannau 66 a 67 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ar y wybodaeth sy’n cael ei dal neu ddogfennau sy’n gallu cael eu cyflwyno, ei fod yn gallu darparu’r wybodaeth heb droi at y pwerau a roddir o dan adran 9 ac Atodlen 1, Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984.

6. Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

Yn gyffredinol, bydd ceisiadau a wnaed o dan reol 140 o Reolau Cofrestru Tir 2003 gan ddefnyddio ffurflen CIT, ynghyd â holl ddogfennau a grëwyd gan Gofrestrfa Tir EF wrth ddelio â cheisiadau o’r fath, yn cael eu heithrio o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhinwedd adran 31 y Ddeddf honno. Er ei bod yn eithriedig, mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth yn dal i roi dewis rhyddhau gwybodaeth neu beidio, ond mae hyn yn debygol o gael ei ddefnyddio o blaid y ceisydd yn anaml.

7. Ffïoedd

Mae taliad i’w wneud am ddarparu’r gwasanaethau sy’n cael eu rhestru yn Gwybodaeth sydd ar gael o Gofrestrfa Tir EF. Mae manylion ein ffioedd yn cael eu dangos yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

8. Atodiad: rhestr gyfredol y bobl/cyrff cymwys o dan adran 140(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003

Ceisydd Tystysgrif(au) priodol
Ymchwiliwr ariannol achrededig yn dod o fewn adran 378(1)(b) o Ddeddf Elw Troseddau 2002 H
Ymchwiliwr ariannol achrededig yn dod o fewn adran 378(4)(a) o Ddeddf Elw Troseddau 2002 N
Gweinyddwr a benodwyd at ddibenion Deddf Ansolfedd 1986 K
Gweinyddwr a benodwyd o dan adran 13 Deddf Cyfiawnder Troseddol (Yr Alban) 1987 J
Person awdurdodedig o fewn ystyr adran 108(15) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 P
Person wedi ei awdurdodi i wneud cais ar ran Banc Lloegr (yn gweithredu heblaw yn rhinwedd ei swydd fel yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus) Q
Swyddog i’r Comisiwn Elusennau neu berson a benodwyd gan y Comisiwn i gynnal ymchwiliad o dan Ran 5 o Ddeddf Elusennau 2011 S
Prif Swyddog yr Heddlu neu swyddog heddlu gydag awdurdod i wneud cais ar ran Prif Swyddog A, B, C, D, E, G
Person wedi ei awdurdodi gan y Comisiynwyr dros Gyllid a Thollau EF i wneud cais a chyda chydsyniad y Tribiwnlys Haen Gyntaf neu, lle caiff ei bennu gan neu o dan Reolau Gweithdrefn Tribiwnlys, yr Uwch Dribiwnlys i wneud y cais L
Cwnstabl H, N
Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neu aelod o Wasanaeth Erlyn y Goron gydag awdurdod i wneud cais ar ran y Cyfarwyddwr A, B, C, D, E, H, I
Pennaeth Adran yn Is-adran Gorfodi a Throseddau Ariannol yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol neu aelod o staff yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol gydag awdurdod i wneud cais ar ran Pennaeth Adran B, I, Q
Arolygydd tân neu berson arall wedi ei awdurdodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu swyddog awdurdod tân ac achub wedi ei awdurdodi gan arolygydd o’r fath i wneud cais o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddiol (Diogelwch Tân) 2005 R
Swyddog neu swyddog heb gomisiwn o fewn Uned Cudd-wybodaeth ac Ymchwilio’r Heddlu, Catrawd Gweithrediadau Arbenigol yr Heddlu Milwrol Brenhinol A
Pennaeth Gweithredu Rheoleiddio yn yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus neu aelod o staff yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus gydag awdurdod i wneud cais ar ran y Pennaeth Gweithredu Rheoleiddio Q
Arolygydd a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 15 o Ddeddf Cynnal Plant 1991 V
Datodwr a benodwyd at ddibenion Deddf Ansolfedd 1986 K
Swyddog awdurdod tai lleol fel y’i diffinnir yn adran 261 o Ddeddf Tai 2004 wedi ei awdurdodi i wneud cais ar ran yr awdurdod tai lleol U
Prif Weithredwr awdurdod lleol fel y’i diffinnir yn adran 62 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 neu aelod o staff yr awdurdod lleol wedi ei awdurdodi i wneud cais ar ran y Prif Weithredwr mewn perthynas â Deddf Lles Anifeiliaid 2006 T
Yr Arglwydd Adfocad neu berson yn cynnal erlyniad yn Yr Alban ar ran yr Arglwydd Adfocad C, D, H, N
Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol neu swyddog o’r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol gydag awdurdod i wneud cais ar ran y Cyfarwyddwr Cyffredinol H, I, M, O
Swyddog awdurdodedig o Awdurdod Gwrth-dwyll y Gwasanaeth Iechyd Gwladol A
Swyddog Cyllid a Thollau EF A, B, C, D, E H, I, N
Yr Aseinai Swyddogol ar gyfer methdaliad yng Ngogledd Iwerddon neu’r Aseinai Swyddogol ar gyfer datodiad cwmnïau yng Ngogledd Iwerddon K
Derbynnydd Swyddogol at ddibenion Deddf Ansolfedd 1986 K
Derbynnydd a benodwyd o dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988, Deddf Masnachu Cyffuriau 1994 neu Ddeddf Elw Troseddau 2002 J
Gweinidogion yr Alban neu berson a enwir ganddynt I
Person wedi ei awdurdodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol A, B, E
Person wedi ei awdurdodi i wneud cais gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol A
Person wedi ei awdurdodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau A, B
Cyfarwyddwr Cyffredinol y Gwasanaethau Diogeledd neu aelod o’r Gwasanaethau Diogeledd gydag awdurdod i wneud cais ar ran y Cyfarwyddwr Cyffredinol F
Cyfarwyddwr y Swyddfa Twyll Difrifol neu aelod o’r Swyddfa Twyll Difrifol gydag awdurdod i wneud cais ar ran y Cyfarwyddwr A, B, E, H, I, N
Ymddiriedolwr mewn methdaliad sydd naill ai’n ymddiriedolwr mewn methdaliad person a ddyfarnwyd yn fethdalwr yng Nghymru a Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon neu ymddiriedolwr parhaol neu dros dro yn secwestraeth ystad dyledwr yn yr Alban K
Cyfarwyddwr Cyffredinol Fisâu a Mewnfudo y DU neu swyddog mewnfudo gydag awdurdod i wneud cais ar ran y Cyfarwyddwr Cyffredinol H, N

9. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.