Ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr
Trosolwg
Dyma sydd angen i chi ei dalu’n ôl:
- Benthyciadau Ffioedd Dysgu
- Benthyciadau Cynhaliaeth ar gyfer costau byw
- benthyciadau ôl-raddedig - er enghraifft, Benthyciad Gradd Meistr neu Fenthyciad Gradd Ddoethurol
Nid oes angen i chi dalu cyllid myfyrwyr arall yn ôl, er enghraifft grantiau a bwrsariaethau. Bydd rhaid i chi ad-dalu unrhyw ordaliadau os byddwch yn derbyn swm mwy o unrhyw fath o gyllid myfyrwyr nag y mae gennych yr hawl iddo.
Mae’n rhaid i chi ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr hyd yn oed os ydych yn gadael eich cwrs yn gynnar.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae pryd y byddwch yn dechrau ad-dalu eich benthyciad a faint y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar pa gynllun ad-dalu rydych arno.
Cadwch eich manylion cyswllt yn gyfredol ar eich cyfrif ar-lein er mwyn i chi gael negeseuon ynghylch eich benthyciad.
Sut i ad-dalu
Sut i ad-dalu mae eich benthyciad yn dibynnu ar p’un a ydych:
- yn gyflogedig
- yn hunangyflogedig neu angen cwblhau ffurflen dreth Hunanasesu am reswm arall
Gallwch wneud ad-daliadau ychwanegol ar eich cyfrif ar-lein a thrwy gerdyn, trosglwyddiad banc neu siec.
Cadwch eich slipiau cyflog a’ch P60 ar gyfer eich cofndion - byddwch eu hangen os ydych am gael arian yn ôl.
Os ydych yn gadael y DU am fwy na 3 mis
Mae’n rhaid i chi ddweud wrth y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) os ydych yn gadael y DU am fwy na 3 mis - er enghraifft, os byddwch yn mynd i deithio neu’n symud dramor.
Dywedwch wrth SLC drwy ddiweddaru eich manylion cyflogaeth.
Bydd disgwyl i chi barhau i ad-dalu eich benthyciad oni bai eich bod yn gallu rhoi tystiolaeth (er enghraifft, datganiad banc diweddar) bod eich incwm tramor yn is na’r trothwy.
Os nad ydych yn dweud wrth SLC, gallech adeiladu dyled (’cronni ôl-ddyledion) ar eich cyfrif. Bydd angen i chi dalu ôl-ddyledion yn ôl yn ogystal â’ch ad-daliadau rheolaidd.
Os byddwch yn dychwelyd i’r DU ar ôl mwy na 3 mis i ffwrdd
Mae’n rhaid i chi ddiweddaru eich manylion cyflogaeth pan fyddwch yn dychwelyd i’r DU ar ôl mwy na 3 mis i ffwrdd.
Os nad ydych chi’n gwneud hynny, byddwch yn parhau i ad-dalu eich benthyciad ar gyfradd y wlad rydych wedi bod yn byw ynddi. Gallai hyn olygu:
- talu mwy nag sydd ei angen arnoch
- mae cyfradd llog uwch yn cael ei chodi arnoch
Mewngofnodi
Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein os oes gennych chi un eisoes.