Gwneud a derbyn taliadau

Os ydych yn defnyddio’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, byddan nhw’n cyfrifo eich swm cynhaliaeth plant yn seiliedig ar amgylchiadau’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth.

Yna gallwch naill ai:

  • trefnu taliadau gyda’r rhiant arall eich hun (Talu Uniongyrchol)
  • defnyddio’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i gasglu a phasio taliadau ymlaen (Casglu a Thalu) – mae ffioedd am y gwasanaeth yma

Rhoddir dewis i’r ddau riant. Os bydd y naill riant neu’r llall yn dewis Talu Uniongyrchol, y dull talu fydd Talu Uniongyrchol. Os bydd y rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn methu neu’n hwyr gyda thaliadau, gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant newid y dull talu i Casglu a Thalu.

Os ydych yn gwneud neu’n cael taliadau ychwanegol, mae’n rhaid i chi ddweud wrth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. Gallwch hefyd gysylltu â nhw os ydych chi’n cael trafferth talu.

Os ydych angen cymorth gydag arian fel rhiant sy’n talu neu fel rhiant sy’n cael taliadau, darganfyddwch pa gefnogaeth gallwch gael gyda chostau byw.

Trefnu taliadau eich hun (Talu Uniongyrchol)

Dylai’r ddau riant gytuno sut a phryd y bydd y swm a gyfrifwyd gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cael ei dalu. Nid ydych yn talu unrhyw ffioedd casglu pan fyddwch yn trefnu taliad eich hun.

Gallwch ddal i ofyn i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant am help gyda thaliadau a fethwyd. Cadwch gofnod o daliadau rhag ofn y bydd unrhyw broblemau.

Cael taliadau heb rannu eich lleoliad

Os nad ydych am i’r rhiant arall wybod lle rydych yn byw, gofynnwch i’ch banc sefydlu cyfrif gyda chod didoli ‘nad yw’n ddaearyddol’. Gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant roi llythyr i chi ar gyfer eich banc yn egluro pam fod angen i chi sefydlu’r math yma o gyfrif. Gallant roi eich manylion banc i’r rhiant arall os nad ydych am gysylltu â nhw.

Defnyddio’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i reoli taliadau (Casglu a Thalu)

Gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant gasglu taliadau gan y rhiant sy’n talu cynhaliaeth a’u pasio ymlaen i’r rhiant sy’n cael cynhaliaeth. Gallant gymryd y taliad yn uniongyrchol gan y rhiant sy’n talu cynhaliaeth drwy:

  • enillion (wedi’i drefnu gyda’u cyflogwr)
  • cyfrif banc (drwy Ddebyd Uniongyrchol)
  • budd-daliadau neu bensiwn

Nid oes angen i chi gael unrhyw gysylltiad â’r rhiant arall.

Ffioedd casglu

Mae’n rhaid i chi dalu ffi bob tro y byddwch yn gwneud neu’n cael taliad cynhaliaeth plant rheolaidd drwy’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. Y ffi yw:

  • 20% (sy’n cael ei ychwanegu i’r taliad) ar gyfer rhieni sy’n talu cynhaliaeth
  • 4% (sy’n cael ei dynnu oddi ar y taliad) ar gyfer rhieni sy’n cael cynhaliaeth

Os ydych yn defnyddio Casglu a Thalu, ni allwch osgoi ffioedd casglu drwy dalu’r rhiant arall yn uniongyrchol.

Pryd fyddwch chi’n talu neu’n cael yr arian

Byddwch yn cael llythyr yn dweud wrthych:

  • faint sydd angen i chi ei dalu a phryd, os mai chi yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth
  • faint fyddwch chi’n ei gael a phryd, os mai chi yw’r rhiant sy’n cael cynhaliaeth

Bydd y taliad cyntaf fel arfer yn cael ei wneud o fewn 12 wythnos o wneud cais.

Os ydych yn meddwl bod eich swm cynhaliaeth plant yn anghywir

Cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant os:

  • rydych am iddynt edrych ar y penderfyniad eto - gelwir hyn yn ‘ailystyried gorfodol’ a rhaid i chi ofyn amdano o fewn mis i’r penderfyniad
  • gan y rhiant sy’n talu cynhaliaeth incwm neu dreuliau eraill rydych am iddynt eu cymryd i ystyriaeth - gelwir hyn yn gofyn am amrywiad

Gallwch hefyd ofyn am amrywiad trwy eich cyfrif ar-lein.

Os nad yw rhiant yn talu

Os ydych yn cael taliadau gan ddefnyddio Talu Uniongyrchol, dywedwch wrth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant am daliad a fethwyd.

Os yw’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn trefnu taliadau drwy’r gwasanaeth Casglu a Thalu, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Byddant yn cymryd camau pan fydd taliad yn cael ei fethu.

Os ydych angen cymorth gydag arian wrth i chi ddisgwyl am daliadau colll, darganfyddwch pa gefnogaeth gallwch gael gyda chostau byw.

Beth gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ei wneud

Gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wneud cais am orchymyn llys (a elwir yn orchymyn atebolrwydd) a chymryd camau cyfreithiol i adennill unrhyw gynhaliaeth plant sydd heb ei thalu. Gallant godi tâl ar y rhiant sy’n talu cynhaliaeth am gost unrhyw gamau a gymerant. Mae hyn ar ben y gynhaliaeth plant sy’n ddyledus ganddynt.