Trosolwg

Ni allwch wneud cais newydd i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant os yw’r plentyn a’r rhiant sydd gyda’r prif ofal o ddydd i ddydd yn byw dramor.

Mae yna amgylchiadau lle gall y gwasanaeth helpu os yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn byw dramor.

Gallwch wneud trefniant cynhaliaeth plant preifat eich hun – os yw un neu’r ddau riant yn byw dramor.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gorfodi penderfyniad cynhaliaeth plant

Gallwch ofyn i lys am help os na fydd y rhiant arall yn talu’r gynhaliaeth plant sy’n ddyledus i chi ganddynt. Gelwir hyn yn cymryd ‘camau gorfodi’.

Ni allwch orfodi trefniant cynhaliaeth plant preifat a wnaethoch eich hun – rydych angen ei wneud yn gyfreithiol rwymol yn gyntaf.

Gallwch hefyd ofyn i’r llys newid penderfyniad cynhaliaeth plant presennol neu wneud un newydd.

Mae sut y gallwch orfodi, newid neu wneud penderfyniad yn dibynnu ar:

  • ble mae’r rhiant arall yn byw
  • lle y gwnaed eich penderfyniad gwreiddiol

Mae gan y DU gytundeb Cydorfodi Gorchmynion Cynhaliaeth (REMO) gyda nifer o wledydd eraill. Gall llysoedd mewn ‘gwledydd REMO’ orfodi penderfyniadau cynhaliaeth plant a wnaed gan lysoedd y DU.

Penderfyniadau cynhaliaeth plant a wnaed yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon

Mae’r broses yn wahanol os ydych eisiau gorfodi penderfyniad cynhaliaeth plant a wnaed yn wreiddiol yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon.

Os gwnaed y penderfyniad yn yr Alban

Cysylltwch â Llywodraeth yr Alban am gyngor.

maintenanceenforcement@gov.scot
Rhif ffôn: 0131 244 3570 neu 0131 244 4829
Ffacs: 0131 244 4848
Gwybodaeth am gost galwadau

The Scottish Government Justice Directorate
Central Authority and International Law Team
St Andrew’s House
Regent Road
Edinburgh
EH1 3DG

Os gwnaed y penderfyniad yng Ngogledd Iwerddon

Cysylltwch â Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Gogledd Iwerddon am gyngor.

Northern Ireland Courts and Tribunals Service
Laganside House
23 - 27 Oxford Street
Belfast
BT1 3LA