Gwneud trefniant preifat

Gallwch wneud trefniant preifat gyda rhiant arall eich plentyn ynglyn â sut i dalu costau byw eich plentyn os yw’r ddau riant yn cytuno. Nid oes yn rhaid i unrhyw un arall gymryd rhan. Mae’n hyblyg a gellir ei newid os bydd eich amgylchiadau’n newid. Er enghraifft, gallai’r ddau ohonoch gytuno bod un rhiant yn:

  • talu cyfran o’u hincwm i’r rhiant sydd gyda gofal ddydd i ddydd
  • talu am bethau fel costau tai, gwisg ysgol, tripiau neu glybiau ar ôl ysgol

Os na allwch gytuno, neu os ydych yn teimlo eich bod mewn perygl wrth siarad â’r rhiant arall, efallai y byddwch yn gallu defnyddio’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.

Cyfrifo taliadau

Eich penderfyniad chi yw faint ddylai taliadau fod. Gallwch ddefnyddio’r cyfrifydd cynhaliaeth plant i helpu.

Cael help i wneud trefniant

Gallwch ddarllen canllawiau ar:

Gallwch hefyd chwilio am gyfryngwr lleol i’ch helpu i ddod i gytundeb ynglŷn â threfniant.

Os ydych angen cymorth gydag arian fel rhiant sy’n talu neu fel rhiant sy’n cael taliadau, darganfyddwch pa gefnogaeth gallwch gael gyda chostau byw.