Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Pryd mae cynhaliaeth plant yn dod i ben
Mae cynhaliaeth plant yn dod i ben ar 31 Awst ar neu ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn 16 oed os yw’n gadael addysg neu hyfforddiant.
Gall barhau nes bod eich plentyn yn troi’n 20 oed os yw’n aros mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy.
Mae cynhaliaeth plant yn gysylltiedig â Budd-dal Plant. Mae hyn yn golygu bod angen i chi ddweud wrth CThEF am newidiadau i addysg neu hyfforddiant eich plentyn, nid y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.
Mae ond angen i chi ddweud wrth wasanaeth Budd-dal Plant CThEF os yw’ch plentyn:
- yn troi’n 16 oed ac yn aros mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy - felly mae cynhaliaeth plant a Budd-dal Plant yn parhau
- yn gadael addysg neu hyfforddiant cymeradwy yn ddiweddarach, cyn iddynt fod yn 20 oed
Os ydynt yn gadael addysg neu hyfforddiant yn ddiweddarach, mae cynhaliaeth plant yn dod i ben ar ddiwrnod olaf mis Chwefror, Mai, Awst neu Dachwedd (pa bynnag un sy’n dod yn gyntaf).
Efallai y bydd angen i’r rhiant sy’n talu wneud rhai taliadau o hyd ar ôl i daliadau cynhaliaeth plant rheolaidd ddod i ben, er enghraifft oherwydd iddynt fethu taliadau yn y gorffennol.
Addysg a hyfforddiant cymeradwy
Rhaid i addysg fod yn llawn amser (mwy na chyfartaledd o 12 awr yr wythnos o astudiaeth dan oruchwyliaeth neu brofiad gwaith sy’n gysylltiedig â chwrs). Gall hyn gynnwys:
- Lefelau A neu debyg, er enghraifft Cyn-U, Bagloriaeth Ryngwladol
- Lefelau T
- Scottish Highers
- NVQs a’r rhan fwyaf o gymwysterau galwedigaethol hyd at lefel 3 - ac eithrio prentisiaethau canolradd ac uwch
- addysg gartref - os dechreuodd naill ai cyn i’ch plentyn droi’n 16 oed neu ar ôl 16 os oes ganddynt anghenion addysgol arbennig ac anableddau
- hyfforddeiaethau yn Lloegr
Rhaid derbyn eich plentyn ar y cwrs cyn iddynt droi’n 19 oed.
Mae Cynhaliaeth Plant yn dod i ben os yw’ch plentyn yn dechrau astudio cwrs ‘uwch’, fel gradd prifysgol neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch BTEC, neu os yw cyflogwr yn talu am gwrs.
Dylai hyfforddiant cymeradwy fod yn ddi-dâl a gall gynnwys:
- yng Nghymru: Prentisiaethau Sylfaenol, hyfforddeiaethau neu gynllun Twf Swyddi Cymru+
- yn yr Alban: y rhaglen No One Left Behind
- yng Ngogledd Iwerddon: PEACE IV Children and Young People 2.1, Hyfforddiant ar gyfer Llwyddiant neu Sgiliau ar gyfer Bywyd a Gwaith
Ni chymeradwyir cyrsiau sy’n rhan o gontract swydd.