Skip to main content

Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant

Sgipio cynnwys

Anghytundebau ynghylch bod yn rhiant

Os ydych chi neu’r rhiant arall yn eich achos cynhaliaeth plant yn gwadu eu bod yn rhiant i blentyn, gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant:

  • ofyn am dystiolaeth sy’n profi nad yw un ohonoch yw’r rhiant
  • dweud wrth y rhiant arall beth sydd wedi digwydd a gofyn am dystiolaeth i brofi pwy yw’r rhiant

Os nad oes tystiolaeth i brofi nad chi yw’r rhiant, gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant:

  • ofyn i chi a’r rhiant arall gymryd prawf DNA
  • gofyn i’r llys wneud penderfyniad

Pan fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn tybio pwy yw’r rhiant

Byddwn yn tybio mai chi yw rhiant y plentyn os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • roeddech yn briod, neu’n bartner sifil i fam y plentyn ar unrhyw adeg rhwng beichiogi a genedigaeth y plentyn (oni bai bod y plentyn wedi cael ei fabwysiadu)
  • rydych wedi eich enwi ar dystysgrif geni’r plentyn (oni bai bod y plentyn wedi cael ei fabwysiadu)
  • mae prawf DNA yn dangos mai chi yw’r rhiant
  • rydych chi wedi mabwysiadu’r plentyn yn gyfreithiol
  • rydych chi’n cael eich enwi mewn gorchymyn llys fel rhiant pan aned y plentyn i fam fenthyg

Talu cynhaliaeth plant yn ystod anghytundeb

Os byddwn yn tybio mai chi yw’r rhiant

Bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo swm cynhaliaeth plant. Bydd yn rhaid i chi dalu hwn os nad oes gennych brif ofal o ddydd i ddydd am y plentyn. Os profwch nad chi yw’r rhiant ni fydd yn rhaid i chi dalu mwyach.

Os na fyddwn yn tybio mai chi yw’r rhiant

Nid oes angen i chi dalu cynhaliaeth plant nes bod yr anghytundeb wedi’i ddatrys. Os canfyddir mai chi yw’r rhiant, bydd y swm o gynhaliaeth plant y mae’n rhaid i chi ei dalu yn cael ei ôl-ddyddio i’r adeg pan agorwyd yr achos.

Os profwch nad chi yw’r rhiant

Pan fydd hyn yn digwydd, gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant:

  • ad-dalu’r taliadau rydych a wnaed ar ôl y dyddiad y gwnaethoch wadu mai chi oedd y rhiant
  • gwrthbwyso’r swm rydych wedi’i dalu mewn cynhaliaeth plant yn erbyn cynhaliaeth ar gyfer plentyn arall rydych yn talu amdanynt
  • ad-dalu cost unrhyw brofion DNA a drefnir drwy’r gwasanaeth
  • gofyn i’r rhiant arall dalu unrhyw gynhaliaeth plant yn ôl i chi