Cwynion ac apeliadau

Gwneud cwyn

Dilynwch weithdrefn gwyno’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) os ydych yn anhapus â’r gwasanaeth a gawsoch.

Os ydych yn anghytuno gyda phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad am swm eich taliad. Gelwir hyn yn gofyn am ‘ailystyriaeth orfodol’.

Mae’n rhaid i chi ofyn am hyn o fewn 30 diwrnod o’r dyddiad ar eich llythyr penderfyniad.

Apêl i’r Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant

Os ydych yn anhapus gyda chanlyniad yr ailystyriaeth orfodol, gallwch apelio i’r Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant o fewn mis o gael y penderfyniad. Os cyflwynwch eich apêl ar ôl mis, bydd yn rhaid i chi esbonio pam na wnaethoch hynny yn gynt.

Dylech lawr-lwytho a llenwi ffurflen SSCS2. A’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Byddwch angen dewis os ydych am fynd i wrandawiad y tribiwnlys i esbonio eich achos. Os na fyddwch yn bresennol, penderfynir ar eich apêl gyda’ch ffurflen apêl ac unrhyw dystiolaeth ategol.

Ar ôl cyflwyno eich apêl, gallwch ddarparu tystiolaeth. Bydd eich apêl a’r dystiolaeth yn cael eu trafod mewn gwrandawiad gan farnwr ac un neu ddau arbenigwr. Yna bydd y barnwr yn gwneud penderfyniad.

Fel arfer mae’n cymryd tua 6 mis i’ch apêl gael ei chlywed gan y tribiwnlys.