Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Rhoi gwybod am dwyll neu wybodaeth anghywir
Os ydych chi’n credu bod y rhiant arall yn darparu gwybodaeth anghywir am ei incwm neu ei amgylchiadau, gallwch chi roi gwybod i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.
Pryd y gallwch roi gwybod am riant sy’n talu
Gallwch roi gwybod os ydych yn meddwl bod y canlynol yn wir am y rhiant sy’n talu, er enghraifft:
- nid ydynt yn datgan eu holl incwm i Gyllid a Thollau EF (CthEF)
- nid ydynt yn datgan incwm tramor neu eiddo tramor maent yn berchen arno
- maent yn cuddio incwm, er enghraifft trwy roi rhywfaint i aelodau o’r teulu neu bartner newydd
- nid ydynt yn talu digon trwy eu henillion
- maent yn honni ar gam fod ganddynt gyfrifoldeb ariannol dros blentyn arall
Pryd y gallwch roi gwybod am riant sy’n derbyn taliad
Gallwch roi gwybod am y rhiant sy’n derbyn taliad, er enghraifft, os ydych yn meddwl:
- eu bod yn hawlio dros blentyn nad ydynt bellach yn gymwys ar gyfer cynhaliaeth plant
- nid ydynt yn byw gyda phlentyn sy’n gymwys ar gyfer cynhaliaeth plant
Sut i adrodd
I adrodd am rywun, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.
Bydd angen i chi ddweud wrthynt:
- eich enw
- eich rhif Yswiriant Gwladol neu rif cyfeirnod cynhaliaeth plant
- enw’r person rydych yn rhoi gwybod amdanynt
- manylion y twyll neu wybodaeth anghywir
Ni allwch adrodd yn ddienw. Fodd bynnag, gallwch ofyn i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant peidio â rhannu eich lleoliad neu wybodaeth bersonol â’r rhiant arall.
Ar ôl i chi adrodd
Ar ôl i chi adrodd, bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn archwilio.
Os ydy’r rhiant arall wedi twyllo neu ddarparu gwybodaeth anghywir, bydd eich cynhaliaeth plant yn cael eu hail-gyfrifo. Gall y swm hefyd cael ei ôl-ddyddio felly bydd y rhiant arall yn ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus i chi.