Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Mewngofnodi i’ch cyfrif
Mewngofnodi i’ch cyfrif Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i:
- rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau
- rhoi gwybod am daliad a fethwyd, os byddwch yn trefnu taliadau gyda’r rhiant arall eich hun (Talu Uniongyrchol)
- rhoi gwybod am daliad ychwanegol ar ben eich taliadau presennol
- rhoi gwybod am unrhyw dreuliau neu incwm yr ydych am i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) eu hystyried, os mai chi yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth
- gweld eich amserlen talu
Bydd angen eich:
- rhif cyfeirnod 12 digid - fe welwch hwn ar lythyrau gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
- Rhif Yswiriant Gwladol - fe welwch hwn ar lythyrau budd-dal neu slipiau cyflog
- Rhif PIN 7-digid a ddewisoch wrth sefydlu’ch achos
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth yma i sefydlu trefniant newydd. Cysylltwch ag Opsiynau Cynhaliaeth Plant i wneud hyn.
Beth sydd angen i chi ei wybod
Cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant os oes angen help arnoch i ddefnyddio’ch cyfrif ar-lein.