Newidiadau mae angen i chi eu hysbysu

Mae yna rai newidiadau sy’n rhaid i chi ddweud wrth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant amdanynt yn ôl y gyfraith. Dylech roi gwybod am y newid cyn gynted ag y bydd yn digwydd

Gall y naill riant neu’r llall yn rhoi gwybod am newid trwy gysylltu â’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.

Gall newidiadau i’ch amgylchiadau olygu newid i faint o gynhaliaeth plant y rydych yn ei dalu neu’n ei gael. Darganfyddwch sut mae taliadau cynhaliaeth plant yn cael ei gyfrifo.

Beth sydd angen i chi rhoi gwybod amdano

Rhowch wybod i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant os:

  • ydych yn newid pwy yw prif ofalwr y plentyn
  • ydych yn newid y cytundeb ar ba mor aml y mae’r plentyn yn aros dros nos, naill ai gyda’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth neu’r awdurdod lleol, ac mae’r newid hwn i ‘ofal a rennir’ yn effeithio ar eich taliadau cynhaliaeth plant
  • ydych am newid sut rydych yn gwneud a chael taliadau trwy ddefnyddio’r gwasanaeth Talu Uniongyrchol neu’r gwasanaeth Casglu a Thalu
  • ydych yn symud tŷ (rhowch eich cyfeiriad newydd o fewn 7 diwrnod ar ôl symud)
  • ydych yn newid eich manylion banc
  • ydych yn newid eich rhif ffôn
  • ydych am i rywun arall ddelio â’ch achos ar eich rhan
  • ydych yn ychwanegu plentyn i’ch achos
  • bydd y plentyn yn gadael addysg llawn amser (hyd at a gan gynnwys Lefel A neu gyfwerth)
  • bydd y plentyn yn cael ei fabwysiadu gan rywun arall
  • ydych am gau eich achos
  • nid yw’r plentyn yn byw yn y DU bellach
  • bydd rhywun ar yr achos yn marw

Mae yna bethau ychwanegol sydd angen eu rhoi gwybod amdano am y rhiant sy’n talu cynhaliaeth. Gall y naill riant neu’r llall ddweud wrth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant os yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth:

  • yn methu taliad wrth ddefnyddio Talu Uniongyrchol
  • yn gwneud unrhyw daliadau gwirfoddol ar ben eu taliadau presennol
  • wedi cael newid yn eu hincwm o 25% neu fwy, neu nad oes ganddynt incwm bellach
  • yn gwario mwy neu lai o arian er mwyn gweld y plentyn, er enghraifft ar gostau cludiant

Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth gywir

Gallech gael eich dwyn i’r llys a chael dirwy o hyd at £1,000 os:

  • na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth y gofynnir i chi amdani
  • byddwch yn rhoi gwybodaeth y gwyddoch sy’n ffug

Mae hyn yn gymwys i unrhyw berson neu sefydliad sydd, yn ôl y gyfraith, yn gorfod rhoi gwybodaeth i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, er enghraifft:

  • cyflogwyr
  • cyfrifwyr
  • y naill riant neu’r llall

Os mai chi yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth, ni fyddwch yn cael eich dwyn i’r llys neu’ch dirwyo os ydych wedi gwneud camgymeriad pan roddwch wybod am eich incwm. Bydd rhaid i chi roi gwybod am y camgymeriad trwy gysylltu â’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant cyn gynted â phosib fel eich bod yn talu’r swm cywir o gynhaliaeth plant.