Cymhwyster

Mae angen i’ch plentyn fod o dan 16 - neu o dan 20 oed os yw mewn addysg llawn amser, hyd at ac yn cynnwys lefel A neu gyfwerth.

Mae angen i chi fyw yn y DU fel eich prif gartref a bod gennych yr hawl i fyw yma.

Gallwch wneud cais os ydych yn:

  • naill riant (nid oes angen i chi fyw gyda’r plentyn)
  • nain neu daid sy’n gofalu’n bennaf am y plentyn o ddydd i ddydd
  • gwarcheidwad y plentyn
  • plentyn dros 12 oed yn byw yn yr Alban

Os ydych yn y carchar neu’n fyfyriwr llawn amser heb unrhyw incwm, nid oes yn rhaid i chi dalu cynhaliaeth plant - nid oes angen gwneud cais.

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth yma os oes gennych orchymyn cydsynio presennol wedi’i gymeradwyo gan lys sydd naill ai:

  • llai na blwydd oed
  • wedi’i wneud cyn 3 Mawrth 2003

Os yw un o’r rhieni yn byw y tu allan i’r DU

Ni allwch wneud cais os yw’r plentyn a’r rhiant sydd gyda phrif ofal o ddydd i ddydd yn byw y tu allan i’r DU.

Gall y gwasanaeth ond fod o help os yw’r rhiant sydd heb brif ofal o ddydd i ddydd yn gweithio y tu allan i’r DU i sefydliad Prydeinig.