Sut mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo cynhaliaeth plant

Neidio i gynnwys y canllaw

Sut mae cynhaliaeth plant yn cael ei gyfrifo

Mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant fel arfer yn dilyn 6 cham i gyfrifo’r swm wythnosol o gynhaliaeth plant.

Mae’r canllaw yma hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae’r cyfrifydd cynhaliaeth plant yn dangos i chi beth mae’r Llywodraeth yn debygol o’i gyfrifo i chi.

Cam 1 - cyfrifo incwm

Bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn darganfod incwm blynyddol gros y rhiant sy’n talu cynhaliaeth o’r wybodaeth a ddarparwyd gan Gyllid a Thollau EM (HMRC).

Byddant hefyd yn gwirio os yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn cael budd-daliadau (nid yw credydau treth, grantiau myfyrwyr a benthyciadau yn cyfrif fel incwm).

Nid oes gan y ‘rhiant sy’n talu cynhaliaeth’ brif ofal o ddydd i ddydd o’r plentyn. Y ‘rhiant sy’n cael cynhaliaeth sydd gyda phrif ofal o ddydd i ddydd o’r plentyn.

Cam 2 - edrych ar bethau sy’n effeithio ar incwm

Bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn gwirio am bethau a allai newid swm yr incwm gros (er enghraifft, taliadau pensiwn neu blant eraill y maent yn eu cefnogi).

Gallwch hefyd ofyn bod incwm, asedau neu dreuliau ychwanegol yn cael eu hystyried.

Yna byddant yn trosi’r incwm blynyddol gros i ffigwr wythnosol.

Cam 3 - cyfraddau cynhaliaeth plant

Bydd un o 5 cyfradd yn cael ei chymhwyso, yn seiliedig ar incwm wythnosol gros y rhiant sy’n talu cynhaliaeth:

Incwm wythnosol gros Cyfradd Swm wythnosol
Anhysbys neu heb ei ddarparu Diffyg £38 ar gyfer 1 plentyn, £51 ar gyfer 2 blentyn, £64 ar gyfer 3 neu fwy o blant
O dan £7 Sero £0
£7 i £100, neu os yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn cael budd-daliadau Unffurf £7
£100.01 i £199.99 Is Cyfrifwyd gan ddefnyddio fformiwla
£200 i £3,000 Sylfaenol Cyfrifwyd gan ddefnyddio fformiwla

Os yw incwm wythnosol gros y rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn fwy na £3,000, gall y rhiant sy’n cael cynhaliaeth wneud cais i’r llys am gynhaliaeth plant ychwanegol.

Cam 4 - plant eraill

Bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn ystyried y nifer o blant y mae’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn gorfod talu cynhaliaeth plant ar eu cyfer. Mae hyn yn cynnwys unrhyw blant eraill sy’n byw gyda nhw ac unrhyw drefniadau sydd wedi’u gwneud yn uniongyrchol ar gyfer plant eraill.

Cam 5 - swm wythnosol o gynhaliaeth plant

Gan ddefnyddio gwybodaeth o’r 4 cam cyntaf, mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn penderfynu’r swm cynhaliaeth plant wythnosol

Cam 6 - rhannu gofal

Gofal a rennir yw pan fydd plentyn rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn aros dros nos gyda nhw.

Mae nifer y nosweithiau gofal a rennir yn seiliedig ar orchymyn llys neu unrhyw gytundeb rhwng y rhieni.

Gallai’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ostwng y swm wythnosol o gynhaliaeth plant os:

  • mae’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn talu’r gyfradd unffurf, is neu sylfaenol o gynhaliaeth plant

  • mae’r rhieni’n cytuno y bydd y plentyn yn aros dros nos am 52 noson y flwyddyn neu fwy

Gall gofal a rennir hefyd gynnwys nosweithiau a dreulir mewn gofal dros nos awdurdod lleol. Darllenwch y daflen ffeithiau cynhaliaeth plant am ragor o fanylion.

Ar gyfer cyfraddau sefydlog o gynhaliaeth plant

Os yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn cael budd-daliadau a chytunir bod y plentyn yn aros dros nos am 52 noson neu fwy y flwyddyn, nid yw’n talu cynhaliaeth plant am:

  • y plentyn sy’n aros dros nos
  • unrhyw blant eraill sy’n byw yn yr un cartref â’r plentyn hwnnw

Os nad yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn cael budd-daliadau, ni fydd aros dros nos yn effeithio ar faint o gynhaliaeth plant a delir.

Am gyfraddau is a sylfaenol o gynhaliaeth plant

Mae nifer yr arosiadau dros nos y cytunwyd arnynt yn effeithio ar faint y bydd taliadau cynhaliaeth plant yn cael eu gostwng.

Os yw’r rhieni’n cytuno i o leiaf 52 noson y flwyddyn ond yn methu cytuno ar union nifer y nosweithiau uwchben hyn, bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cymryd mai am 52 noson y flwyddyn yn unig y mae gofal a rennir yn digwydd.

Ni all y taliadau cynhaliaeth plant fynd o dan £7 yr wythnos.

Nifer yr arosiadau dros nos y cytunwyd arnynt bob blwyddyn Gostyngiad i gynhaliaeth plant ar gyfer pob plentyn
52 i 103 noson 14.29%
104 i 155 noson 28.57%
156 i 174 nos 42.86%
175 noson neu fwy 50%, ynghyd â gostyngiad ychwanegol o £7 yr wythnos