Sut mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo cynhaliaeth plant

Neidio i gynnwys y canllaw

Pryd y gall taliadau newid

Gall y swm rydych chi’n ei dalu neu’n ei dderbyn mewn cynhaliaeth plant newid pan:

  • adolygir eich achos bob blwyddyn
  • rydych chi neu’r rhiant arall yn gwneud cais am amrywiad
  • mae gan y rhiant sy’n talu cynhaliaeth newid mewn amgylchiadau sy’n effeithio ar ei incwm neu ei dreuliau
  • mae’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn talu’r gyfradd unffurf, is neu sylfaenol ac mae newid i’r cytundeb ar ba mor aml y mae’r plentyn yn aros dros nos gyda nhw neu yng ngofal yr awdurdod lleol

Ar gyfer y ddau bwynt olaf, efallai y bydd angen i chi roi gwybod am newid cyn gynted ag y byddant yn digwydd.