Canllawiau

Sut i sefydlu elusen (CC21a)

Beth mae'n ei olygu i fod yn elusen a beth i'w wneud os mai sefydlu elusen yw'r dewis gorau i chi.

Applies to England and Wales

Sut i sefydlu elusen (CC21a)

Cam 1: penderfynu ai elusen yw’r dewis iawn

Mae elusennau’n bodoli i roi budd i’r cyhoedd. Oherwydd hyn, mae elusennau yn:

  • talu llai o drethi busnes
  • cael rhyddhad treth
  • cael rhai mathau o grantiau a chyllid

Ond mae elusennau wedi’u cyfyngu o ran yr hyn y gallant ei wneud a sut y maen nhw’n gweithio. Er enghraifft, mae’n rhaid i elusennau:

  • ddilyn y gyfraith elusennau, sy’n cynnwys dweud wrth y Comisiwn Elusennau a’r cyhoedd am eu gwaith
  • gwneud pethau sy’n elusennol yn ôl y gyfraith yn unig
  • cael eu rhedeg gan ymddiriedolwyr nad ydynt yn cael budd personol fel arfer o’r elusen
  • bod yn annibynnol - gall elusennau weithio gyda sefydliadau eraill ond mae’n rhaid iddynt wneud penderfyniadau annibynnol sy’n dangos sut y maent yn cyflawni eu dibenion elusennol

Gofyniad cyfreithiol

Yn ôl y gyfraith, os ydych chi’n sefydlu elusen mae’n rhaid i chi wneud cais i’w chofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau os yw’n sefydliad corfforedig elusennol (SCE) neu os yw ei hincwm blynyddol yn fwy na £5,000 oni bai ei bod yn fath penodol o elusen nad oes rhaid iddi gofrestru. Bydd y comisiwn yn gweithredu i sicrhau cydymffurfiaeth os yw’n canfod elusen sydd heb gofrestru ond a ddylai fod wedi cofrestru.

Os nad yw’ch elusen yn SCE ac mae’ch incwm o dan £5,000 nid oes rhaid i chi gofrestru gyda’r comisiwn. Ond gallwch chi wneud cais i Gyllid a Thollau E M i gydnabod eich sefydliad fel un elusennol er mwyn i chi allu hawlio treth yn ôl ar bethau fel cyfraniadau Cymorth Rhodd.

Gwnewch yn siŵr y gall eich math chi o sefydliad fod yn elusen. Mae ystod eang o sefydliadau dielw a mentrau cymdeithasol: nid yw pob un o’r rhain yn elusennau.

Er enghraifft, ni all cwmni buddiannau cymunedol neu sefydliad sydd wedi cofrestru â Chyllid a Thollau EM fel clwb chwaraeon amatur cymunedol (CASC) fod yn elusen.

Gwnewch yn siŵr na fydd bod yn elusen yn eich rhwystro rhag gwneud yr hyn rydych chi am ei wneud. Er enghraifft:

Dewisiadau eraill i sefydlu elusen newydd

Mae dros 160,000 o elusennau cofrestredig yng Nghymru a Lloegr a llawer mwy o elusennau anghofrestredig. Mae’n cymryd llawer o waith i sefydlu a rhedeg elusen. Fel dewis arall, gallech chi wneud y canlynol:

Gweithio gydag elusen sydd eisoes yn bodoli

Gallech chi gysylltu ag elusen sy’n bodoli i weld a fyddai modd i chi gydweithio.

Defnyddiwch y gwasanaethau hyn i gael hyd i gyfleoedd i fod yn ymddiriedolwr a chyfleoedd i wirfoddoli yn eich ardal chi:

Sefydlu cronfa a enwir yn lle elusen

Bydd rhai elusennau yn caniatáu i chi sefydlu cronfa a enwir os ydych chi am godi arian ar gyfer digwyddiad un-tro megis trychineb.

Mae hyn yn arbed yr amser a’r ymdrech o sefydlu a rhedeg elusen ac yna ei chau ar ôl iddi fodloni’r angen gwreiddiol. Yn dibynnu ar yr elusen, gallwch ddweud i ble rydych chi am i’r arian fynd.

Sefydlu menter gymdeithasol anelusennol

Mae ‘menter gymdeithasol’ yn fusnes sydd ag amcanion cymdeithasol, amgylcheddol neu gymunedol a gall gael dibenion anelusennol.

Cam 2: penderfynu ar ddiben eich elusen

Os ydych chi’n dewis sefydlu elusen, dechreuwch drwy benderfynu beth fydd ei diben. ‘Diben’ eich elusen yw’r hyn y cafodd yr elusen ei sefydlu i’w gyflawni - y rheswm pam y mae’n bodoli.

Gall eich elusen gael mwy nag un diben ond ni all gael unrhyw ddibenion sydd heb fod yn elusennol.

Mae dibenion eich elusen yn bwysig oherwydd:

  • maen nhw’n helpu’r Comisiwn Elusennau i benderfynu a yw’ch sefydliad yn elusen Cyllid a Thollau EM i benderfynu a yw’n gymwys i gael rhyddhad treth
  • maen nhw’n esbonio i’r bobl sy’n rhedeg, cefnogi neu’n cael budd o’ch elusen beth mae’r elusen yn ei wneud a phwy y mae’n ei helpu
  • gall eich elusen wneud pethau sy’n cyflawni ei dibenion yn unig

Gofyniad cyfreithiol

Mae’n rhaid i chi redeg eich elusen mewn ffordd sy’n gyson â’i dibenion ac sy’n cefnogi ei dibenion.

Dibenion elusennol: y gyfraith

I fod yn elusen yng Nghymru a Lloegr, mae’n rhaid i bopeth y mae wedi’i sefydlu i’w gyflawni fod yn elusennol. Mae hyn yn golygu bod rhaid i bob un o’i dibenion:

Dylech fod yn ymwybodol nad yw popeth sy’n rhoi budd i’r gymuned neu sy’n achos da yn elusennol.

Rhoi diben eich elusen mewn geiriau

Dylai diben eich elusen ddweud:

  • beth fydd canlyniadau ei gwaith
  • ble fydd y canlyniadau hyn yn digwydd
  • sut y bydd yn cyflawni’r canlyniadau hyn
  • pwy fydd yn cael budd o’r canlyniadau hyn

Er enghraifft:

“Er budd y cyhoedd, lleddfu effeithiau a chynorthwyo pobl mewn angen (beth) mewn unrhyw ran o’r byd (ble) sy’n dioddef rhyfel neu drychineb naturiol neu anffawd (pwy) yn arbennig drwy roi cymorth meddygol iddynt (sut)”

Rhestrwch y pethau y gall ymddiriedolwyr eu gwneud i helpu’r elusen i gyflawni ei dibenion (‘pwerau’) ar wahân - casgliadau codi arian, er enghraifft.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Sut i ysgrifennu dibenion elusennol.

Cam 3: dewis strwythur elusen

Pan fyddwch wedi penderfynu ar ddiben eich elusen, mae’n rhaid i chi benderfynu beth fydd strwythur sefydliadol eich elusen.

Mae pedwar prif fath o strwythur elusen:

  • sefydliad corfforedig elusennol (SCE)
  • cwmni cyfyngedig drwy warant
  • cymdeithas anghorfforedig
  • ymddiriedolaeth

Mae’n bwysig eich bod yn dewis y strwythur iawn ar gyfer eich elusen sy’n cyd-fynd â’r ffordd y bydd eich elusen yn gweithredu. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Mathau o elusennau: sut i ddewis strwythur (CC22a).

Cam 4: ysgrifennu dogfen lywodraethol

Dogfen lywodraethol eich elusen yw’r ddogfen gyfreithiol sy’n creu’r elusen ac mae’n dweud sut y dylid ei rhedeg drwy nodi:

  • ei henw
  • ei dibenion elusennol (‘amcanion’)
  • beth y gall ei wneud i gyflawni ei dibenion (‘pwerau’), megis benthyca arian
  • pwy sy’n ei rhedeg (‘ymddiriedolwyr’) a phwy all fod yn aelod ohoni (os yw’n briodol)
  • sut y caiff cyfarfodydd eu cynnal
  • faint o ymddiriedolwyr i’w penodi a sut
  • unrhyw reolau ynghylch talu ymddiriedolwyr, buddsoddiadau a dal tir
  • a all yr ymddiriedolwyr newid y ddogfen lywodraethol, gan gynnwys ei hamcanion elusennol (‘darpariaethau diwygio’)
  • sut i gau’r elusen (‘darpariaethau diddymu’)

I gael rhagor o wybodaeth am ysgrifennu, defnyddio a newid dogfennau llywodraethol, darllenwch: Sut i ysgrifennu eich dogfen lywodraethol (CC22b).

Cam 5: dewis enw

Mae enw eich elusen yn bwysig. Dyma’ch brand, yr hyn y bydd pobl yn ei gofio pan fyddant yn penderfynu gwneud rhodd neu’n ystyried gwirfoddoli.

Fel ymddiriedolwyr, rydych chi’n gyfrifol am ddewis enw eich elusen chi. Os ydych chi’n cofrestru’ch elusen gydag enw sy’n gamarweiniol neu enw sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio gan elusen arall, gall y Comisiwn Elusennau eich gorfodi i’w newid. Bydd eich elusen yn gyfrifol am unrhyw gostau sy’n codi.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch: Sut i ddewis enw elusen.

Cam 6: cael hyd i ymddiriedolwyr

Ymddiriedolwyr elusen yw’r bobl sy’n gwasanaethu ar gorff llywodraethu elusen. Gallant gael eu galw’n ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, aelodau bwrdd, llywodraethwyr neu’n aelodau pwyllgor.

Eich ymddiriedolwyr elusen yw’r bobl fydd yn gwneud penderfyniadau ynghylch sut i redeg yr elusen pan gaiff ei sefydlu. Maen nhw’n gyfrifol am reoli gweinyddiad yr elusen yn gyffredinol.

Fel ymddiriedolwr, mae’n rhaid i chi redeg eich elusen gyda chymaint o ofal ag y byddech yn ei ddefnyddio i reoli eich busnes eich hun. Mae hynny’n golygu sicrhau ei bod yn ddiddyled, yn cael ei rhedeg yn dda ac yn bodloni’r anghenion y cafodd ei sefydlu i’w bodloni.

Dylech recriwtio digon o ymddiriedolwyr i gael y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnoch. Dylai dogfen lywodraethol eich elusen ddweud faint o ymddiriedolwyr i’w penodi. Mae’r Comisiwn Elusennau yn argymell fod gennych o leiaf dri ymddiriedolwr heb gysylltiad na pherthynas â’i gilydd gydag amrywiaeth dda o sgiliau.

Er enghraifft, pobl sydd:

  • â sgiliau arbenigol megis codi arian neu gyllid
  • â chysylltiadau cymunedol a allai helpu i ddenu gwirfoddolwyr
  • yn deall neu’n adlewyrchu anghenion y bobl y mae’ch elusen yn eu helpu

I gael rhagor o wybodaeth am recriwtio ymddiriedolwyr, darllenwch Ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr.

Cam 7: cyllido gwaith eich elusen

Dechreuwch godi arian ar gyfer eich elusen pan fydd wedi’i sefydlu.

Mae’n rhaid i’r arian rydych yn ei godi i’ch elusen gael ei ddal yn ddiogel a chael ei gyfrif amdano yn briodol.

Oni bai bod eich elusen yn fath penodol o elusen nad oes rhaid iddi gofrestru, mae’n rhaid i chi wneud cais i gofrestru eich elusen gyda’r Comisiwn Elusennau pan fydd ganddi incwm o fwy na £5,000. Os yw’ch elusen yn sefydliad corfforedig elusennol (SCE) mae’n rhaid i chi wneud cais i’w chofrestru beth bynnag fo’i hincwm.

Canllawiau ar sut i godi arian ar gyfer eich elusen.

Cyhoeddwyd ar 20 May 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 November 2014 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.