Canllawiau

Cael tystysgrif gofrestru elusen

Sut i gael tystysgrif i brofi bod eich elusen wedi cofrestru.

Applies to England and Wales

Beth mae tystysgrif gofrestru yn ei wneud

I brofi eich bod yn elusen gofrestredig, er enghraifft pan fyddwch yn agor cyfrif banc neu’n gwneud cais am grant, gallech chi argraffu (neu e-bostio’r cyfeiriad gwe ar gyfer) manylion eich elusen ar y gofrestr elusennau.

Mae rhai cyllidwyr, yn arbennig partneriaid dramor, yn gofyn am dystysgrif gofrestru. Mae’n ffordd gyflym o brofi eich bod yn elusen gofrestredig.

Sut i gael tystysgrif gofrestru

Mewngofnodwch i Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau i gael eich tystysgrif cofrestru.

Gallwch argraffu neu lawrlwytho copi o’ch tystysgrif yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Cyhoeddwyd ar 12 September 2014