Canllawiau

Cael cyllid i ddechrau elusen

Gallwch ddechrau codi arian ar gyfer eich elusen pan fydd eich dogfen lywodraethol a'r ymddiriedolwyr yn eu lle.

Applies to England and Wales

Cyn i chi ddechrau codi arian

Bydd rhaid i chi brofi y bydd incwm eich elusen dros £5,000 bob blwyddyn os ydych am ei chofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau, oni bai ei bod yn sefydliad corfforedig elusennol (SCE) sy’n rhaid cofrestru beth bynnag fo’i incwm.

Gallwch godi arian hyd yn oed cyn eich bod yn elusen gofrestredig, ar yr amod eich bod yn egluro nad ydych wedi cofrestru eto. Er enghraifft, gallech godi arian gan y cyhoedd drwy gynnal digwyddiadau neu weithgareddau noddedig.

Darllenwch ganllawiau’r comisiwn am godi arian mewn modd cyfreithiol a chyfrifol cyn dechrau arni.

Ffynonellau cyllid

Ar wahân i gasgliadau a digwyddiadau cyhoeddus, mae ffynonellau eraill o gyllid i elusennau, o weithio gyda chyrff cyhoeddus i godi arian drwy gymynroddion.

Cyllid gan y llywodraeth

Nid yw’r comisiwn yn cyllido elusennau. Fodd bynnag, mae rhai elusennau’n cael eu cyllido gan lywodraeth ganol neu lywodraeth leol. Gall y cyllid hwn gael ei roi yn uniongyrchol neu drwy gorff cyllido megis Cyngor y Celfyddydau. Gall elusennau hefyd wneud cais am gontractau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus (gwasanaethau y bydd awdurdodau cyhoeddus yn eu darparu fel rheol neu’n eu comisiynu eu hunain).

Darllenwch ganllawiau’r comisiwn i elusennau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus.

Grantiau gan elusennau a sefydliadau preifat eraill

Mae nifer o sefydliadau, fel y Gronfa Loteri Fawr Genedlaethol, yn darparu cyllid neu grantiau i elusennau. Chwiliwch am grantiau drwy ddefnyddio’r dolenni hyn:

Gallwch ddefnyddio offer chwilio’r comisiwn hefyd i chwilio am elusennau sy’n darparu cyllid i elusennau eraill (dewiswch chwiliad manwl am ragor o ddewisiadau).

Ewyllysiau a chymynroddion

Bydd rhai pobl yn sefydlu elusen ar ôl cael swm sylweddol neu annisgwyl o arian, a gall elusennau gael rhoddion mewn ewyllysiau. Gall arian o ewyllysiau a chymynroddion gyfrif tuag at yr incwm £5,000 y mae ei angen arnoch i gofrestru elusen nad yw’n SCE.

Rheoleiddiwr Codi Arian

Os ydych yn bwriadu codi arian o’r cyhoedd efallai yr hoffech ystyried cofrestru gyda’r Rheoleiddiwr Codi Arian i ddangos eich ymrwymiad i arferion codi arian da .

Cymorth Rhodd

Gall eich elusen ddefnyddio Cymorth Rhodd i gynyddu gwerth rhoddion gan drethdalwyr y DU. Pan fydd pobl yn rhoi drwy ddefnyddio Cymorth Rhodd, gallwch adennill treth gan Gyllid a Thollau EM. Ar gyfer pob £1 a roddir, gallwch hawlio 25 ceiniog ychwanegol. Yn ogystal, o dan gynllun rhodion bach Cymorth Rhodd, mae rhai elusennau’n gymwys i hawlio taliad ychwanegol ar eu rhoddion arian parod bach. Mae Cyllid a Thollau EM yn rhoi cyngor ar Gymorth Rhodd, y cynllun rhoddion bach Cymorth Rhodd a materion treth eraill.

Os nad yw’ch elusen yn SCE ac mae’ch incwm o dan £5,000 nid oes rhaid i chi gofrestru gyda’r comisiwn. Ond gallwch chi wneud cais i Gyllid a Thollau E M i gydnabod eich sefydliad fel un elusennol er mwyn i chi allu hawlio treth yn ôl ar bethau fel cyfraniadau Cymorth Rhodd.

Cyhoeddwyd ar 23 May 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 July 2016 + show all updates
  1. Added translation

  2. Added translation

  3. First published.