Canllawiau

Darparu gwasanaeth cyhoeddus: rheolau i elusennau

Sut y gall eich elusen ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar ran sefydliadau fel awdurdodau lleol, y GIG neu adrannau'r llywodraeth.

Applies to England and Wales

Sut mae elusennau yn darparu gwasanaethau cyhoeddus

Gall adrannau’r llywodraeth neu eu hasiantaethau dalu elusennau i ddarparu gwasanaethau ar eu rhan. Er enghraifft, bydd rhai elusennau’n darparu:

  • lloches i’r rhai bobl sy’n cael eu cam-drin yn y cartref
  • tai gwarchod a gofal i’r henoed
  • gweithgareddau chwaraeon i blant difreintiedig
  • cymorth a chyngor i bobl sy’n chwilio am waith
  • gwasanaethau pryd ar glud, gan ddarparu bwyd i bobl sy’n gaeth i’r tŷ

Os ydych yn ystyried darparu gwasanaeth ar ran corff cyhoeddus, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn:

  • ymgymryd â gweithgareddau sydd wedi’u cynnwys o fewn dibenion eich elusen yn unig, fel y’u nodir yn eich dogfen lywodraethol
  • gallu parhau i fod yn annibynnol ar y llywodraeth
  • gwneud penderfyniadau yn unol â’ch dyletswyddau fel ymddiriedolwyr
  • gallu fforddio darparu’r gwasanaeth

Sut i reoli trefniadau cyllido

Gall eich elusen ddarparu gwasanaethau o dan gytundeb cyllido gydag awdurdod cyhoeddus. Dylech gadw golwg ar gostau darparu’r gwasanaeth a cheisio adennill yr holl gostau.

Os na fydd y cyllid a gynigir yn talu am gost lawn y gwasanaeth, gall eich elusen:

  • gynnal trafodaethau i gael rhagor o gyllid
  • cynnig lefel gwasanaeth is priodol
  • gwneud iawn am y diffyg gydag arian arall yr elusen
  • gwrthod y cytundeb cyllido a pheidio â darparu’r gwasanaeth

Nid oes rhaid i chi adennill y costau llawn ar yr amod eich bod chi’n fodlon bod hyn er lles gorau eich elusen. Mae elusennau yn gallu gwneud arian hefyd ar gytundebau cyllido. Mae’n rhaid i’ch penderfyniad gael ei seilio ar les eich elusen ac anghenion eich buddiolwyr.

Canllawiau adennill costau llawn - Funding Central

Gweithio gydag elusennau eraill i ddarparu contractau mwy

Gall elusennau hefyd ddod at ei gilydd i gystadlu am gontractau mwy. Gall hyn fod yn ffordd effeithlon iawn o weithiau, oherwydd gall elusennau rannu’r tasgau gweinyddol.

Sut i ganfod ac ennill contractau gwasanaeth cyhoeddus

Chwiliwch ar-lein am gontractau sector cyhoeddus gyda’r llywodraeth a’i hasiantaethau.

Os yw’ch elusen wedi’i lleoli yn Lloegr, gall Locality helpu gyda cheisiadau cyllid.

Parhau’n annibynnol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus

Dylech chi a’r ymddiriedolwyr eraill allu penderfynu eich hunain sut i ddarparu’r gwasanaeth. Ni ddylech gael eich dylanwadu’n afresymol neu eich cyfarwyddo gan yr awdurdodau cyhoeddus rydych yn gweithio gyda nhw. Mae’n rhaid i elusennau fod yn annibynnol, hyd yn oed os ydynt yn derbyn y cyfan neu’r rhan fwyaf o’r cyllid gan y llywodraeth, a gall hyn olygu ystyried gwrthdaro buddiannau.

Mae sefydliadau sy’n gallu helpu gyda chanllawiau ar ddarparu gwasanaeth cyhoeddus ac annibyniaeth yn cynnwys Panel on the Independence of the Voluntary Sector a Compact Voice.

Rheoli unrhyw risgiau sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau cyhoeddus

Os yw’ch elusen yn mynd i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus dylech feddwl am y risgiau posibl a gwneud penderfyniadau gwybodus cyn symud ymlaen.

Mae risgiau posibl yn gysylltiedig â darparu gwasanaethau cyhoeddus yn cynnwys:

  • ariannol - fel heb dderbyn digon o arian i ddarparu’r gwasanaeth neu golli’r contract yn y dyfodol
  • cytundebol - lle rydych efallai wedi cytuno i ddarparu gwasanaeth ond nid ydych yn gallu ei ddarparu
  • enw da - efallai y bydd eraill yn ystyried eich bod yn rhy agos i’r corff cyhoeddus sy’n eich ariannu chi
  • gwyro o’ch nodau - darparu gwasanaethau nad ydynt yn hyrwyddo amcanion eich elusen

Gallai rhai risgiau gael eu rheoli drwy fod yn gwmni cyfyngedig neu’n sefydliad corfforedig elusennol (SCE). Mae statws cyfreithiol eu hunain gan y strwythurau hyn, sy’n golygu bod y cwmni yn llunio contractau yn hytrach na’r ymddiriedolwyr. Mewn amgylchiadau arferol mae hyn yn golygu y byddai atebolrwydd personol ymddiriedolwyr yn cael ei osgoi.

Defnyddio cwmni masnachu i leihau risg

Dewis arall i leihau risg yw darparu gwasanaethau drwy is-gwmni masnachu. Mae is-gwmni masnachu yn gwmni anelusennol y mae eich elusen yn ei reoli, ac mae ganddo ei statws cyfreithiol ei hun. Mae’n sefydliad ar wahân i’r elusen yn llygaid y gyfraith a gall fasnachu y tu allan i derfynau amcanion eich elusen.

Cyn llunio unrhyw gytundeb ffurfio, dylech sicrhau eich bod chi wedi meddwl am risgiau a sut i’w rheoli. Efallai yr hoffech geisio cyngor cyfreithiol cyn arwyddo’r contract.

Cyhoeddwyd ar 23 May 2013