Canllawiau

Mathau o elusennau: sut i ddewis strwythur (CC22a)

Pa fath o strwythur elusen i'w ddewis, yn dibynnu a oes angen strwythur corfforaethol neu aelodaeth ehangach arnoch.

Applies to England and Wales

Mathau o strwythur elusen

I sefydlu elusen newydd, mae’n rhaid i chi benderfynu pa fath o strwythur cyfreithiol fydd ganddi.

Mae strwythur eich elusen wedi’i ddiffinio gan ei ‘dogfen lywodraethol’ (y ddogfen gyfreithiol sy’n creu’r elusen ac sy’n dweud sut y dylid ei rhedeg).

Mae’r math o strwythur rydych chi’n ei ddewis yn effeithio ar sut y bydd eich elusen yn gweithredu, e.e.:

  • pwy fydd yn ei rhedeg a fydd aelodaeth ehangach ganddi
  • a oes modd iddi lunio contractau neu gyflogi staff yn ei henw ei hun
  • a fydd yr ymddiriedolwyr yn atebol yn bersonol am yr hyn y mae’r elusen yn ei wneud

Mae pedwar prif fath o strwythur elusen:

  • sefydliad corfforedig elusennol (SCE)
  • cwmni elusennol (cyfyngedig drwy warant)
  • cymdeithas anghorfforedig
  • ymddiriedolaeth

Mae’n rhaid i chi ddewis y strwythur iawn ar gyfer eich elusen, yn dibynnu a oes angen iddi gael strwythur corfforaethol ac a ydych chi am gael aelodaeth ehangach.

Am strwythurau corfforaethol

Mae rhai strwythurau elusen yn gyrff corfforaethol. Os ydych chi’n dewis strwythur sy’n ffurfio corff corfforaethol, mae’r gyfraith yn cymryd bod eich elusen yn berson yn yr un ffordd ag unigolyn.

Mae hyn yn rhoi’r gallu cyfreithiol i’ch elusen wneud nifer o bethau yn ei henw ei hun y gall person ei wneud, fel:

  • cyflogi staff cyflogedig
  • darparu gwasanaethau elusennol o dan gytundebau
  • llunio contractau masnachol yn ei henw ei hun
  • bod yn berchen ar dir rhydd-ddaliol neu brydlesol neu eiddo arall

Os yw strwythur elusen yn gorff corfforaethol, nid yw ei hymddiriedolwyr yn atebol yn bersonol fel arfer am yr hyn y mae’n ei wneud.

Os nad yw’ch elusen yn gorff corfforaethol (‘anghorfforedig’):

  • mae’r ymddiriedolwyr yn atebol yn bersonol am yr hyn y mae’n ei wneud
  • ni fydd yn gallu llunio contractau neu reoli rhai buddsoddiadau yn ei henw ei hun
  • bydd rhaid i ddau ymddiriedolwr neu ragor, ymddiriedolwr gwarchod corfforaethol neu’r gwasanaeth dal tir elusennau ‘ddal’ unrhyw dir ar ran eich elusen

Am elusennau gydag aelodaeth ehangach

Mae aelodaeth ehangach gan rhai strwythurau elusen. Os ydych chi’n sefydlu elusen gydag aelodaeth ehangach, gall gael aelodau sy’n pleidleisio ar benderfyniadau pwysig (mewn Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol fel arfer). Er enghraifft:

  • penodi aelodau pwyllgor a fydd yn rhedeg yr elusen (am gyfnod penodol fel arfer)
  • gwneud newidiadau i ddogfen lywodraethol eich elusen

Gall elusen sydd ag aelodaeth ehangach ymgymryd â’i gwaith yn gyfan gwbl neu’n rhannol trwy ymdrechion gwirfoddol a chyfraniadau ei haelodau. Mae cael pobl y mae’ch elusen yn eu helpu fel aelodau yn gallu eich helpu i ystyried eu barn.

Os ydych chi’n sefydlu elusen gydag aelodaeth ehangach, ni all gael ei sefydlu er budd eich aelodau yn unig oni bai:

  • y gall rhan ddigonol o’r cyhoedd gael at y buddion hynny drwy fod yn aelodau - er enghraifft, gall unrhyw un ymuno
  • mae’r strwythur aelodaeth yn ffordd addas o gyflawni dibenion eich elusen er budd y cyhoedd - er enghraifft, aelodaeth o glwb chwaraeon amatur

Nid oes gan rhai strwythurau elusen aelodau ehangach - mae’r ymddiriedolwyr yn penderfynu sut y mae eu helusen yn cael ei rhedeg ac yn gwneud pob penderfynu ynglŷn â:

  • sut y mae’n gwario ei harian
  • sut mae ymddiriedolwyr newydd yn cael eu penodi

Elusennau â strwythur corfforaethol: pa fath i’w ddewis

Gydag aelodaeth ehangach

Sefydlwch gymdeithas SCE os ydych am i’ch elusen fod yn gorff corfforaethol a chael aelodaeth ehangach, gan gynnwys aelodau sy’n pleidleisio heblaw’r ymddiriedolwyr elusen. Rhaid i chi:

  • gael cyfansoddiad fel eich dogfen lywodraethol - defnyddiwch gyfansoddiad SCE cyswllt enghreifftiol y Comisiwn Elusennau (neu dilynwch ef yn agos iawn)
  • cofrestrwch eich SCE gyda’r comisiwn er mwyn iddo ddod i fodolaeth yn gyfreithiol
  • cadwch gofrestr o’i aelodau a’i ymddiriedolwyr
  • anfonwch ei gyfrifon a ffurflen flynyddol i’r comisiwn bob blwyddyn, waeth beth yw ei incwm

Fel arall, gallech sefydlu cwmni elusennol: corff corfforaethol sy’n gallu cael ei sefydlu gyda neu heb aelodaeth ehangach. Dewiswch erthyglau cymdeithasu fel eich dogfen lywodraethol.

Ni all cwmnïau byth fod yr un fath â chwmnïau masnachol. Yn wahanol i gwmnïau masnachol:

  • ni all cwmni elusennol ddosbarthu ei weddillion i’w aelodau neu ei randdeiliaid - fel arfer bydd cwmni elusennol yn gyfyngedig drwy warant, nid cyfranddaliadau
  • gall ddefnyddio ei asedau i gyflawni ei ddibenion elusennol yn unig
  • mae’n rhaid iddo weithredu mewn ffordd sydd er lles gorau’r elusen.

Mae’n rhaid i chi gofrestru eich cwmni elusennol gyda’r comisiwn (os yw’n gymwys) a Thŷ’r Cwmnïau. Bydd rhaid i chi roi gwybodaeth fanwl hefyd am ei faterion ariannol a’i weithgareddau bob blwyddyn.

Heb aelodaeth ehangach

Sefydlwch SCE sylfaen os ydych am i’ch elusen fod yn gorff corfforaethol, yr unig aelodau yw’r ymddiriedolwyr a dydych chi ddim am gael aelodaeth ehangach. Rhaid i chi:

  • gael cyfansoddiad fel eich dogfen lywodraethol - defnyddiwch gyfansoddiad SCE sylfaen enghreifftiol y comisiwn (neu dilynwch ef yn agos iawn)
  • cofrestrwch eich SCE gyda’r comisiwn er mwyn iddo ddod i fodolaeth yn gyfreithiol
  • cadwch gofrestr o’i ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn aelodau)
  • anfonwch ei gyfrifon a ffurflen flynyddol i’r comisiwn bob blwyddyn, waeth beth yw ei incwm

Os ydych chi’n elusen sy’n bod a hoffai newid i strwythur SCE, dewiswch y cyfansoddiad enghreifftiol SCE sy’n cyfateb orau i’ch elusen wreiddiol. Defnyddiwch y model cyswllt os yw’ch elusen anghorfforedig wreiddiol:

  • â chyfansoddiad fel eich dogfen lywodraethol
  • ag aelodaeth ehangach sy’n pleidleisio ar benderfyniadau pwysig, fel ethol ymddiriedolwyr neu aelodau pwyllgor

Defnyddiwch y model sylfaen os yw’ch elusen wreiddiol:

  • wedi’i llywodraethu gan weithred ymddiriedolaeth, ewyllys, cynllun neu drawsgludiad
  • yn cael ei rhedeg gan ei hymddiriedolwyr yn unig
  • nid oes aelodaeth bleidleisio ganddi

Cwblhewch y templed cyfansoddiad SCE priodol fel eich dogfen lywodraethol SCE newydd. Pan fydd yr ymddiriedolwyr yn cytuno â’r cyfansoddiad, cofrestrwch eich SCE newydd gyda’r comisiwn.

Pa bynnag cyfansoddiad enghreifftiol SCE rydych yn ei ddewis, os ydych yn penderfynu yn y dyfodol bod y cyfansoddiad arall yn gweddu’n well i’ch elusen, gallwch ddiwygio eich cyfansoddiad i wneud y newidiadau.

Elusennau heb strwythur corfforaethol: pa fath i’w ddewis

Gydag aelodaeth ehangach

Sefydlwch gymdeithas anghorfforedig os ydych am i’ch elusen gal aelodaeth ehangach ond nid oes angen strwythur corfforaethol arni (er enghraifft, bydd yn eithaf bach o ran asedau). Dewiswch gyfansoddiad fel eich dogfen lywodraethol.

Heb aelodaeth ehangach

Sefydlwch ymddiriedolaeth os nad oes angen strwythur corfforaethol ar eich elusen neu aelodaeth ehangach. Er enghraifft, os yw’n:

  • annhebygol o gyflogi nifer sylweddol o staff neu ymgymryd ag unrhyw fath o fusnes
  • rhoi grantiau ond nid yw’n gwneud unrhyw fath arall o waith

Dewiswch weithred ymddiriedolaeth fel eich dogfen lywodraethol.. Mae’n rhaid nodi swm o arian, tir neu rwy asedau eraill y bydd eich elusen yn eu defnyddio i gychwyn (nid oes ots faint). Fel arall ni fyddwch yn gallu ei chofrestru gyda’r comisiwn .

Sut i ysgrifennu eich dogfen lywodraethol

Ysgrifennwch eich dogfen lywodraethol pan fyddwch wedi penderfynu ar strwythur. Mae’n rhaid iddo amlinellu dibenion eich elusen a sut y caiff ei rhedeg. Darllenwch Sut i ysgrifennu eich dogfen lywodraethol (CC22b) i gael rhagor o wybodaeth.

Sut i ysgrifennu eich dogfen lywodraethol

Ysgrifennwch eich dogfen lywodraethol pan fyddwch wedi penderfynu ar strwythur. Mae’n rhaid iddo amlinellu dibenion eich elusen a sut y caiff ei rhedeg. Darllenwch Sut i ysgrifennu dogfen lywodraethol eich elusen (CC22b) i gael rhagor o wybodaeth.

Sut i newid strwythur eich elusen

Fel arfer gall elusen newid ei strwythur os yw ei hymddiriedolwyr yn penderfynu y byddai strwythur newydd yn gweddu’n well i’r ffordd y mae’n bwriadu gweithredu.

Gall hyn fod yn gymhleth yn dibynnu ar beth rydych chi am wneud. Darllenwch sut i newid strwythur eich elusen elusen am ragor o wybodaeth.

Cyhoeddwyd ar 30 May 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 November 2014 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.