Canllawiau

Beth sy'n gwneud elusen (CC4)

Mae’r canllaw hwn yn amlinellu'r hyn mae'r gyfraith yn Lloegr ac yng Nghymru yn ei ddweud yw elusen.

Applies to England and Wales

Dogfennau

Manylion

Yn Lloegr ac yng Nghymru, mae elusen yn sefydliad sydd:

  • wedi cael ei sefydlu at ddibenion elusennol yn unig, ac
  • yn ddarostyngedig i awdurdodaeth cyfraith elusennau yr Uchel Lys

Dibenion yw’r hyn mae eich elusen wedi cael ei sefydlu i’w cyflawni - maent yn cael eu hesbonio yn eich dogfen lywodraethol. Er mwyn bod yn elusennol, mae’n rhaid i ddibenion eich elusen:

  • syrthio o fewn y disgrifiadau o ddibenion
  • fod er budd y cyhoedd

Mae’r canllaw hwn yn esbonio’r hyn y mae angen i chi feddwl amdano wrth sefydlu elusen. Gellir ei ddefnyddio hefyd os ydych eisoes yn elusen ac am newid eich dibenion.

Darllenwch y dadansoddiad cyfreithiol o’r gyfraith sy’n ymwneud ag egwyddorion budd cyhoeddus.

Cyhoeddwyd ar 1 September 2013