Canllawiau

Cael help gydag Enillion Cyfalaf ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Dod o hyd i wybodaeth ynghylch sut i lenwi adran ‘Enillion Cyfalaf’ eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Mae Treth Enillion Cyfalaf yn dreth ar yr elw a wnewch pan fyddwch yn gwerthu rhywbeth sydd wedi cynyddu mewn gwerth.

Cyn i chi lenwi’ch Ffurflen Dreth, gallwch wirio yr hyn yr ydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf arno a gwirio a oes angen i chi dalu.

Os gwnaethoch werthu cryptoasedion (gan gynnwys crypto-arian neu bitcoin), neu eu rhoi i ffwrdd, gallwch wirio a oes angen i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf arnynt (yn agor tudalen Saesneg).

Os oes angen i chi dalu treth ar ôl gwerthu ased, gallwch ddysgu sut i roi gwybod am eich Treth Enillion Cyfalaf a’i thalu.

Taflenni cymorth i’ch helpu i lenwi’ch Ffurflen Dreth

Mae taflenni cymorth yn rhoi gwybodaeth a all eich helpu i lenwi’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad, gan gynnwys sut i wneud y canlynol:

  • gwirio a ydych yn gymwys i gael rhyddhad

  • cyfrifo ffigurau y bydd angen i chi eu cynnwys yn eich Ffurflen Dreth

Rhyddhad Treth Enillion Cyfalaf

Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:

Treth Enillion Cyfalaf ar gyfranddaliadau, buddsoddiadau a dyledion

Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:

Treth Enillion Cyfalaf ar dir, eiddo a meddiannau personol

Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:

Treth Enillion Cyfalaf ar gyfer ymddiriedolaethau

Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:

Taflenni cymorth eraill ynghylch Enillion Cyfalaf

Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:

Fideos YouTube CThEF

Gwarediadau eiddo

Gwyliwch fideo ynghylch sut i roi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf ar warediadau eiddo, a’i thalu.

Sut ydw i’n rhoi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf ar warediadau eiddo, a’i thalu? (yn agor tudalen Saesneg).

Byddwch yn dysgu am y canlynol:

  • ar gyfer pwy y mae Enillion Cyfalaf ar warediadau eiddo yn berthnasol

  • yr hyn i’w wneud os nad ydych yn breswylydd yn y DU

  • sut i roi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf ar warediadau eiddo, a’i thalu

Gwariant caniataol

Gwyliwch fideo ynghylch y gwariant caniataol y gallwch ei hawlio.

Y gwariant caniataol y gallaf ei hawlio yn erbyn Treth Enillion Cyfalaf (yn agor tudalen Saesneg).

Byddwch yn dysgu am y canlynol:

  • gwariant caniataol

  • costau na chaniateir

  • rheolau arbennig ar gyfer defnyddio’r gwerth marchnadol fel y gost

Cryptoasedion

Gwyliwch fideo ynghylch sut y mae trafodion crypto yn cael eu trethu ar gyfer unigolion.

Cryptoasedion a thalu treth (yn agor tudalen Saesneg).

Byddwch yn dysgu am y canlynol:

  • categorïau o gryptoasedion

  • mathau o warediadau

  • cael crypto

  • rhoi gwybod am enillion neu incwm o gryptoasedion

Ffurflen Dreth ar bapur

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth ar bapur, mae’n bosibl y bydd angen i chi ddefnyddio tudalennau atodol SA108 er mwyn cofnodi colledion ac enillion cyfalaf ar eich Ffurflen Dreth SA100.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 Mehefin 2025 show all updates
  1. The section on registering for webinars has been removed.

  2. Added Welsh translation

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon