Ffurflen

Cyfarwyddyd: sut i lenwi ffurflen AS1

Diweddarwyd 22 April 2024

Applies to England and Wales

1. Cyn ichi lenwi ffurflen AS1

Nid oes gofyniad ar ein rhan ni ichi ddefnyddio cyfreithiwr neu gynghorydd cyfreithiol arall i lenwi cais ond os oes morgais yn gysylltiedig ag unrhyw un o deitlau eiddo’r ymadawedig, gall y rhoddwr benthyg fynnu eich bod yn gwneud hyn. Dylech wybod er bod modd inni roi cymorth wrth lenwi ffurflenni, nid ydym yn rhoi cyngor cyfreithiol.

Pan fydd perchennog tir neu eiddo’n marw, bydd y Swyddfa Brofiant yn cadarnhau penodiad pobl sydd â’r hawl i ddelio a’r ystad. Cânt eu galw’n ysgutorion os gadawodd yr ymadawedig ewyllys dilys, neu’n weinyddwyr os nad oes ewyllys dilys. Bydd tystiolaeth o benodi’r ysgutorion yn y profiant, ac o benodi gweinyddwyr yn y llythyrau gweinyddu.

Yn ein ffurflen AS1 a’r nodiadau hyn, rydym yn defnyddio’r term torfol cynrychiolydd personol i ddisgrifio naill ai ysgutor neu weinyddwr, a’r term trosglwyddai i ddisgrifio’r buddiolwr. Gelwir trosglwyddiad gan gynrychiolydd personol i fuddiolwr yn gydsyniad.

Darllenwch ragor am ewyllysiau a phrofiant.

1.1 Pryd i ddefnyddio ffurflen AS1

Dylech ddefnyddio ffurflen AS1 i gydsynio, hy trosglwyddo, y cyfan o un neu ragor o deitlau cofrestredig i’r buddiolwr neu fuddiolwyr.

Os ydych yn defnyddio’r ffurflen hon, bydd y berchnogaeth yn newid ar gyfer yr holl dir ac eiddo yn y teitl.

Os nad yw ffurflen AS1 yn addas o dan eich amgylchiadau penodol chi, efallai y bydd angen ichi ddefnyddio un o’r ffurflenni canlynol:

  • ffurflen AS2: cydsynio i arwystl (morgais) (hy lle’r oedd yr ymadawedig yn rhoddwr benthyg)

  • ffurflen AS3: cydsynio i ran o un neu ragor o deitlau cofrestredig

  • ffurflen TR1: gwerthu’r cyfan o un neu ragor o deitlau cofrestredig

  • ffurflen TP1: gwerthu rhan o un neu ragor o deitlau cofrestredig

2. Sut i lenwi ffurflen AS1

Bydd llenwi llawer o’r paneli yn haws os oes gennych gopi swyddogol o’r gofrestr.

2.1 Panel 1: rhif teitl

Nodwch rif(au) teitl y tir rydych am ei gydsynio (mae’r rhif hwn ar frig tudalen gyntaf copi swyddogol o’r gofrestr). Gallwch ddefnyddio’r un ffurflen ar gyfer mwy nag un rhif teitl, ar yr amod eu bod o dan yr un berchnogaeth. Os nad yw’r tir yn gofrestredig ac rydych yn cofrestru’r eiddo am y tro cyntaf, gadewch y panel hwn yn wag.

2.2 Panel 2: eiddo

Rhowch ddisgrifiad byr o’r tir rydych yn bwriadu ei gydsynio. Os yw’r tir yn gofrestredig fe welwch hyn ar ddechrau’r Gofrestr Eiddo fel y’i dangosir ar y copi swyddogol o’r gofrestr ac fel rheol bydd yn gyfeiriad post (os oes un).

2.3 Panel 3: dyddiad

Nodwch y dyddiad y cyflawnwyd yr aseiniad yn y panel hwn (gweler Panel 12 isod). Peidiwch â gwneud hyn nes bydd yr aseiniad wedi’i gyflawni.

2.4 Panel 4: enw’r perchennog ymadawedig

Ysgrifennwch enwau llawn (gan gynnwys pob enw canol) yr unigolyn neu’r unigolion fu farw yma. Peidiwch â chynnwys teitlau fel “Mr” neu “Mrs”, ond os oedd ganddynt deitl arall, dylech ei gynnwys.

Os nad yw’r wybodaeth a roddir yn y bwlch hwn yn cyd-fynd â’r manylion perchnogaeth sy’n ymddangos yn y Gofrestr Eiddo ar gyfer y teitl(au) cofrestredig, rhaid ichi roi tystiolaeth i egluro hynny, ee os oedd enw’r ymadawedig wedi newid, gallech gynnwys gweithred newid enw neu dystysgrif priodi.

2.5 Panel 5: cynrychiolydd personol y perchennog ymadawedig

Nodwch enwau llawn yr unigolyn(ion) a benodir gan y grant profiant/llythyrau gweinyddu.

Os yw’r trosglwyddai yn gwmni, bydd angen ichi gwblhau’r cwestiynau ychwanegol yn y panel.

2.6 Panel 6: trosglwyddai

Ysgrifennwch enw llawn y trosglwyddai(eion) (buddiolwr). Yn aml, yr un unigolyn â’r cynrychiolydd personol yw hwn. Nid yw’n ofynnol inni sicrhau bod y cynrychiolydd personol yn gweithredu’n unol ag unrhyw ewyllys. Yn gyfreithiol, rhaid inni gymryd yn ganiataol ei fod yn cyflawni ei rwymedigaethau cyfreithiol.

Os yw’r trosglwyddai yn gwmni, bydd angen ichi gwblhau’r cwestiynau ychwanegol yn y panel.

2.7 Panel 7: cyfeiriad ar gyfer gohebu’r trosglwyddai

Mae angen i bob trosglwyddai roi cyfeiriad ar gyfer gohebu inni, a rhaid iddo fod yn gyfeiriad post yn y DU neu dramor. Cofiwch gynnwys unrhyw god post neu god tramor cyfatebol. Gallwch roi hyd at ddau gyfeiriad arall ar gyfer pob trosglwyddai hefyd, a all fod yn gyfeiriad post, ebost, rhif blwch neu gyfeiriad cyfnewid dogfennau’r DU.

Mae’n bwysig cadw eich cyfeiriad yn gyfoes oherwydd gall fod angen inni anfon rhybuddion pwysig atoch a allai effeithio ar eich hawliau.

2.8 Panel 8: cydsyniad

Mae’r datganiad hwn yn briodol ym mhob achos; peidiwch ag ychwanegu ato, na’i newid mewn unrhyw ffordd arall.

2.9 Panel 9: gwarantau teitl

Wrth ddarparu’r gwarantau hyn, mae’r trosglwyddwr(wyr), hy y cynrychiolydd(wyr) personol, yn rhoi addewidion rhwymol penodol am y teitl i’r tir. Ceir dau fath, er y gellir addasu’r naill neu’r llall. Mae’r gwarantau hyn yn gosod rhwymedigaethau, a fydd yn parhau i rwymo’r perchennog hyd yn oed ar ôl cyflawni’r cydsyniad. Mae’r maes hwn yn gymhleth ac os oes gennych unrhyw amheuon, rydym yn argymell eich bod yn ceisio cyngor gan gyfreithiwr neu gynghorydd cyfreithiol arall. Ni all Cofrestrfa Tir EF roi cyngor cyfreithiol ichi.

Gwarant Teitl Llawn: mae’r trosglwyddwr(wyr) yn gwarantu, hyd eithaf ei wybodaeth, nad oes arwystlon ariannol/llyffetheiriau (ee morgeisi) na buddion trydydd parti eraill (ee hawliau tramwy/prydlesi) yn effeithio ar y tir heblaw’r rhai a ddatgelwyd eisoes i’r trosglwyddai(eion).

Gwarant Teitl Cyfyngedig: mae gwarant teitl cyfyngedig yn set fwy cyfyngedig o addewidion gan y trosglwyddwr(wyr). Mae’n gwarantu nad yw’r trosglwyddwr(wyr) wedi creu unrhyw arwystl, na galluogi unrhyw arwystl, llyffethair na budd trydydd parti sy’n bodoli o hyd ar ddyddiad y cydsyniad i gael ei greu.

Yn aml, nid yw’r cynrychiolydd personol yn gallu rhoi mwy na gwarant teitl cyfyngedig gan ei fod yn anoddach iddo wybod pa fuddion a grëwyd gan yr ymadawedig.

2.10 Panel 10: datganiad o ymddiried

Dylid llenwi’r panel hwn os oes mwy nag un trosglwyddai.

Mae cydberchnogaeth yn faes anodd o’r gyfraith. Gall arwain at anghydfodau pan fo cydberchennog yn marw neu pan fo’r berthynas rhwng cydberchnogion yn torri. Mae’n bosibl y bydd cofnodi bwriadau’r cydberchnogion ym mhanel 10 y trosglwyddiad neu ar ffurflen JO ar wahân yn cynorthwyo i osgoi anghydfodau o’r fath yn hwyrach. Fodd bynnag, dim ond man cychwyn yw hyn, oherwydd gall bwriadau’r cydberchnogion newid gydag amser.

Os oes mwy nag un trosglwyddai, fel cydberchnogion byddant yn dal yr eiddo ar ymddiried tir yn awtomatig i’w hunain a/neu rywun arall sydd â budd llesiannol yn y tir.

Gall cydberchnogion ddal eu budd llesiannol yn y tir fel cyd-denantiaid neu denantiaid cydradd.

Nid yw cyd-denantiaid llesiannol yn berchen ar gyfrannau penodedig yn yr eiddo. Os yw un ohonynt yn marw, mae eu budd yn trosglwyddo’n awtomatig i’r cyd-denant(iaid) llesiannol sy’n goroesi hyd yn oed os yw wedi gwneud ewyllys yn ei adael i rywun arall.

Mae tenantiaid cydradd llesiannol yn berchen ar gyfrannau yn yr eiddo, a all fod yn gyfartal neu’n anghyfartal a gallant adael eu cyfran i rywun arall yn eu hewyllys.

Oni bai ei fod yn glir, ar adeg caffael, bod y cydberchnogion yn bwriadu dal y budd llesiannol ar ymddiried i’w hunain yn unig fel cyd-denantiaid, mae gennym ddyletswydd i gofnodi cyfyngiad ar Ffurf A ar y gofrestr. Effaith y cyfyngiad hwn yw na fyddwn yn cofrestru gweithred na morgais o’r eiddo oni bai bod o leiaf dau berchennog cofrestredig, fel ymddiriedolwyr i dderbyn arian y gwerthiant neu forgais ar y cyd. Mae hyn yn golygu nad oes hawl gan oroeswr olaf y tenantiaid cydradd werthu’r eiddo heb brofi bod yr ymddiried wedi dod i ben neu benodi cyd-ymddiriedolwr newydd.

Os yw’r cyd-drosglwyddeion yn bwriadu dal yr eiddo ar ymddiried i’w hunain yn unig fel cyd-denantiaid, dylent roi ‘X’ yn y blwch cyntaf. Fel arall, os ydynt yn bwriadu dal y budd llesiannol fel tenantiaid cydradd mewn cyfrannau cyfartal, dylent roi ‘X’ yn yr ail flwch. Dylent roi ‘X’ yn y trydydd blwch os ydynt yn bwriadu ei ddal mewn cyfrannau anghyfartal, neu ar eu cyfer eu hunain ac eraill (boed mewn cyfrannau cyfartal neu anghyfartal), neu o dan delerau gweithred ymddiried neu ewyllys sy’n bodoli ar wahân, ac ymhob achos dylent ychwanegu’r manylion perthnasol hefyd.

Fel dewis arall i gwblhau’r panel hwn gallwch ddefnyddio’r ffurflen gwybodaeth ymddiried JO sydd ar gael i’w llwytho i lawr o’n gwefan. Mae ffurflen JO yn cynnwys yr un dewisiadau â phanel 10 ond mae wedi ei llunio fel ffurflen ar wahân i gynorthwyo i ddarparu’r wybodaeth berthnasol a sicrhau bod pob cyd-drosglwyddai’n arwyddo datganiad o ymddiried (gweler panel 12 isod). Os yw datganiad yr ymddiried ar yr hyn y bydd y trosglwyddeion yn dal yr eiddo eisoes wedi ei gynnwys mewn gweithred neu ewyllys ar wahân, gall trawsgludwr gynnwys manylion amdano yn ffurflen JO a’i harwyddo yn lle’r trosglwyddeion.

Os nad yw panel 10 y trosglwyddiad neu ffurflen JO yn cael eu cwblhau a’u cyflwyno gyda’r cais i gofrestru trosglwyddiad i gyd-drosglwyddeion, byddwn yn cofnodi cyfyngiad Ffurf A yn ddiofyn.

Os oes gennych unrhyw amheuon am yr hyn sydd ei angen, dylech geisio cyngor proffesiynol cyn parhau.

2.11 Panel 11: darpariaethau ychwanegol

Weithiau ceir cyfamodau neu gytundebau rhwng y trosglwyddwr(wyr) a’r trosglwyddai(eion). Dyma lle dylech nodi’r manylion. Efallai y byddwch am geisio cyngor cyfreithiol gan fod cyfamodau neu gytundebau o’r fath yn rhwymol ar yr unigolyn(ion) sy’n eu rhoi, hyd yn oed ar ôl cwblhau’r trosglwyddiad.

Os ydych yn drawsgludwr, gallwch hefyd gynnwys y dystysgrif ganlynol yn lle amgáu’r grant profiant neu lythyrau gweinyddu, neu orchymyn llys yn penodi’r cynrychiolwyr personol:

“Fi yw trawsgludwr y ceisydd ac rwy’n ardystio fy mod yn dal y gwreiddiol neu gopi ardystiedig neu swyddfa o’r grant profiant, llythyrau gweinyddu neu orchymyn llys. Rwy’n cadarnhau y rhoddwyd y grant profiant, llythyrau gweinyddu neu orchymyn llys yn y Deyrnas Unedig.”

2.12 Panel 12: cyflawni

Rhaid i’r holl gynrychiolwyr personol gyflawni (llofnodi’n gyfreithiol) y cydsyniad, gan ddefnyddio’r geiriau canlynol:

Llofnodwyd {fel gweithred} gan ___ (enw llawn y cynrychiolydd personol) ____ (llofnod) ___ Ym mhresenoldeb : _____ (llofnod tyst) ____ (enw a chyfeiriad y tyst) _____

Sylwer: Gellir hepgor y geiriau ‘fel gweithred’.

Os cwblhawyd paneli 10 neu 11, rhaid i’r trosglwyddeion lofnodi hefyd.

Dylai’r tyst fod yn annibynnol, ac yn ddelfrydol, yn rhywun sy’n eich adnabod yn dda ac sy’n gallu cadarnhau ichi lofnodi’r cydsyniad, os oes angen. Gall un unigolyn dystio i fwy nag un llofnod, ond rhaid iddo lofnodi a chwblhau’r manylion islaw pob llofnod a dystiwyd.

Ceir gofynion gwahanol os caiff y cydsyniad ei lofnodi gan atwrnai neu gwmni, neu o dan gyfarwyddyd y trosglwyddwr. Cysylltwch â ni i gael y geiriad o dan yr amgylchiadau hynny.

3. Treth Dir y Dreth Stamp

Nid oes yn rhaid darparu tystiolaeth o Dreth Dir y Dreth Stamp (SDLT) fel rheol. Fodd bynnag, os yw’r unigolyn sy’n caffael yr eiddo’n rhoi cydnabyddiaeth o £40,000 neu ragor ar ei gyfer, ac eithrio lle y mae’n cymryd cyfrifoldeb am ddyled sicredig, bydd angen tystysgrif Dychweleb Trafodiad Tir ar ffurflen SDLT5 arnom.

Os nad ydych yn sicr a oes angen tystysgrif Dychweleb Trafodiad Tir ar eich trosglwyddiad, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF.

4. Ble i anfon eich cais

Ar ôl llenwi ffurflen AS1, llenwch ffurflen gais AP1 neu FR1 fel sy’n briodol.

Anfonwch eich ffurflenni wedi eu llenwi a chopi swyddogol o’r profiant/llythyrau gweinyddu i gyfeiriad Cofrestrfa Tir EF ar gyfer ceisiadau. Nid oes angen anfon llythyr eglurhaol.