Canllawiau

Gwasanaethau a chyfarwyddiadau eraill Cofrestrfa Tir EF yn ymwneud â chynlluniau (cyfarwyddyd ymarfer 40, atodiad 6)

Diweddarwyd 25 June 2015

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Chwiliadau o’r map mynegai

Nid yw holl dir Cymru a Lloegr yn gofrestredig ar hyn o bryd. Pan fydd tir yn cael ei gofrestru, rhoddir cyfeirnod unigryw iddo – y rhif teitl.

Mae Cofrestrfa Tir EF yn cadw map cyfrifiadurol yn seiliedig ar fap yr Arolwg Ordnans, a’r enw arno yw’r map mynegai. Mae’r map cyfrifiadurol hwn yn darparu mynegai o’r tir ym mhob teitl cofrestredig a chais am gofrestriad cyntaf sy’n aros i’w brosesu: rheol 10(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003.

Nid ydym yn cadw gwybodaeth deitl am eiddo nad yw’n gofrestredig.

Gall unrhyw un wneud cais gan ddefnyddio ffurflen SIM am chwiliad swyddogol o’r map mynegai: rheol 145 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Bydd tystysgrif y canlyniad yn dangos a yw’r tir sy’n cael ei chwilio yn gofrestredig ai peidio, y rhifau teitl sy’n cael eu heffeithio a’r math o gofrestriad sydd wedi ei ddatgelu.

Dylech fod yn ymwybodol bod y gwasanaeth chwiliad swyddogol o’r map mynegai’n gwbl ar wahân i’r gwasanaeth copi swyddogol trwy’r hwn y gallwch gael copïau o gynlluniau teitl a chofrestru’n ymwneud â thir sy’n hysbys ei fod yn gofrestredig.

2. Cynlluniau eglurhaol

Fel rheol, caiff canlyniadau SIM eu darparu ar ffurf destunol heb gynllun. Mae ein gwasanaeth ‘Illustrative Plans’ yn darparu cynllun mewn cod lliw sy’n dangos sut y mae teitlau a ddatgelir mewn canlyniad SIM yn gysylltiedig â’i gilydd.

Mae Cynlluniau Eglurhaol yn eich helpu i ddychmygu lleoliad perthynol teitlau a ddatgelir trwy SIM, a gall mwy nag un canlyniad SIM gael eu cyfuno ar un Cynllun Eglurhaol. Gall Cynllun Eglurhaol eich helpu i ddychmygu unrhyw dir digofrestredig o fewn eich ardal chwilio wreiddiol.

Caiff Cynlluniau Eglurhaol eu paratoi gan ddefnyddio manylion Arolwg Ordnans ar y raddfa fwyaf addas ac maent ar gael ar bum maint papur: A4, A3, A2, A1 ac A0.

3. Electronic Extent Data (Polygonau)

Gall Cofrestrfa Tir EF eich helpu i reoli eich asedau a dyledion a chynorthwyo gyda’ch penderfyniadau cynlluniau neu bolisi trwy ddarparu Electronic Extend Data ar ffurf Polygonau i gwsmeriaid.

Gallwch ofyn am ddata polygon ar gyfer:

  • ardal ddaearyddol wedi ei diffinio’n electronig wedi ei diffinio’n electronig gennych chi
  • ardal ddaearyddol wedi ei diffinio ar lafar; rhifau teitl penodol
  • eiddo a berchnogir gan berchennog penodol

Yna rydym yn anfon y polygonau y gofynnwyd amdanynt ar ffurf ffeil safonol agored.

Wrth edrych ar y Polygonau o fewn eich meddalwedd System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS), fe welwch rif teitl pob Polygon wedi ei osod i’w adnabod yn hawdd.

Mae polygonau yn eich galluogi i gael dealltwriaeth ofodol o’r asedau cofrestredig o fewn eich portffolio ac adnabod patrymau perchnogaeth o fewn ardaloedd daearyddol o ddiddordeb.

4. Cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF

Gallwch weld cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF ar GOV.UK.

Mae cyfarwyddyd ymarfer 10: map mynegai: copïau swyddogol yn egluro sut y gallwch weld a yw eiddo’n gofrestredig ai peidio, ac os yw, ei rif teitl.

Mae cyfarwyddyd ymarfer 11: archwiliad a cheisiadau am gopïau swyddogol yn egluro sut i gael copi o gynllun teitl.

Mae cyfarwyddyd ymarfer 41: ystadau sy’n datblygu – gwasanaethau cofrestru yn cynnwys y chwe atodiad canlynol:

Mae cyfarwyddyd ymarfer 49: dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru yn cynnwys nodiadau ar wrthod cynlluniau.

Mae cyfarwyddyd ymarfer 60: cyfunddaliad – gweler Cynllun y DCC yn rhoi manylion am ofynion a manylebau ar gyfer cynlluniau datganiad cymuned cyfunddaliad.

5. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.