Canllawiau

Ystadau sy’n datblygu: gwasanaethau cofrestru (CY41)

Gwasanaethau Cofrestrfa Tir EF sydd ar gael i'r rheiny'n ymwneud â chofrestru ystadau sy'n datblygu (cyfarwyddyd ymarfer 41).

Applies to England and Wales

Dogfennau

Manylion

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn darparu trosolwg o wasanaethau perthnasol Cofrestrfa Tir EF i’r rheiny sy’n ymwneud â chofrestru ystadau sy’n datblygu. Rydym wedi anelu’r cyfarwyddyd at ddatblygwyr, prynwyr, eu cynghorwyr cyfreithiol ac arolygwyr tir a dylech ddehongli cyfeiriadau atoch ‘chi’ felly. Mae’r cyfarwyddyd hwn hefyd yn dangos sut y gall datrys problemau gyda therfynau yn gynnar wella effeithiolrwydd cost a gostwng oediadau.

Mae Cofrestrfa Tir EF yn darparu’r gwasanaethau canlynol:

O’u defnyddio gyda’i gilydd, mae’r gwasanaethau hyn yn sicrhau y bydd unrhyw anawsterau cofrestru yn cael eu datrys ar y cyfle cyntaf posibl.

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.

Gweminarau

Gallwch ymuno â’n gweminarau di-dâl i gael cyngor ar ystod o bynciau cofrestru tir a sut i baratoi ceisiadau o safon.

Hysbysiadau ebost

Tanysgrifiwch i hysbysiadau ebost i gael y newidiadau diweddaraf i’n cyfarwyddiadau ymarfer.

Cyhoeddwyd ar 13 October 2003
Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 June 2015 + show all updates
  1. Link to the advice we offer added.

  2. Welsh translation added.

  3. First published.