Skip to main content
Canllawiau

Canllawiau diogelwch a hylendid bwyd ar gyfer banciau bwyd ac elusennau

Cyhoeddwyd 15 Tachwedd 2022

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

1. Cofrestru fel busnes bwyd (banciau bwyd ac elusennau)

Canllawiau ynghylch a oes angen i chi gofrestru fel busnes bwyd

Gallai fod angen i chi gofrestru fel busnes bwydos ydych chi, neu eich gweithrediad, yn darparu bwyd i’r gymuned yn rheolaidd ac mewn modd cyfundrefnol, hyd yn oed os yw am ddim, a hynny 28 diwrnod cyn i chi ddechrau darparu bwyd.

Mae gennym gyngor penodol ar sut i gofrestru fel busnes bwyd

Cyn darparu bwyd yn rheolaidd i’r gymuned, cysylltwch â thîm diogelwch bwyd eich awdurdod lleol i drafod y gofynion cofrestru.

Fel gweithredwr busnes bwyd, mae angen i chi ddilyn y gofynion diogelwch a hylendid bwyd perthnasol, a amlinellir yn y canllawiau hyn. Mae cofrestru fel busnes bwyd yn golygu y bydd eich gweithrediad yn destun arolygiadau gan swyddogion awdurdodedig, ac y bydd yn cael sgôr hylendid bwyd, os yw’n gymwys ar ei chyfer. 

Os taw dim ond yn achlysurol y byddwch chi’n darparu bwyd i’r gymuned, efallai na fydd angen i chi gofrestru fel busnes bwyd. Fodd bynnag, dylai’r bwyd a ddarperir gennych chi fod yn ddiogel i’w fwyta o hyd, ac rydym yn argymell eich bod yn dilyn yr arferion gorau o ran diogelwch a hylendid bwyd a restrir yn y canllawiau hyn.

A chithau’n weithredwr busnes bwyd, gall eich tîm diogelwch bwyd lleol roi cymorth a chyngor pellach i chi mewn perthynas â’r materion yn y canllawiau hyn.

Mae gennym hefyd ganllawiau diogelwch a hylendid bwyd ar gyfer darparu bwyd mewn digwyddiad cymunedol neu elusennol.

2. Sefydlu banc bwyd, elusen cymorth bwyd neu ddarparwr cymorth bwyd

Canllawiau ar gyfer sefydlu darparwr bwyd elusennol.

Os yw eich gweithrediad wedi’i dosbarthu’n fusnes bwyd, mae angen iddo ddilyn yr un egwyddorion sy’n gymwys i fusnesau bwyd eraill.

Mae hyn yn cynnwys dilyn rheolau mewn perthynas â’ch:

Os ydych yn gweithredu mewn adeilad neu leoliad a rennir, mae angen i chi roi’r un mesurau a rhagofalon ar waith â phe bai’n eiddo meddiannaeth unigol.

3. Rheoli hylendid bwyd (banciau bwyd ac elusennau)

Gofynion hylendid bwyd ar gyfer eich darparwr bwyd elusennol.

Bydd hylendid bwyd da yn sicrhau bod y bwyd rydych chi’n ei weini yn ddiogel i’w fwyta. Sicrhewch fod eich gweithrediad yn gyfarwydd â’r pedwar prif faes ac yn eu dilyn:

Bydd dilyn canllawiau ar hylendid personol, fel golchi dwylo, hefyd yn helpu i sicrhau safonau diogelwch bwyd uchel.

4. Rheoli diogelwch bwyd ar gyfer darparwyr bwyd elusennol

Gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd ar gyfer darparwyr bwyd elusennol wedi’i bennu’n fusnes bwyd

Rhaid i bob busnes bwyd fod â gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd ar waith, a dylent fod yn seiliedig ar egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP).

Mae ein pecynnau bwyd mwy diogel, busnes gwell (SFBB) yn seiliedig ar egwyddorion HACCP ac yn helpu gweithrediadau llai i gydymffurfio â’r gyfraith.

Lawrlwythwch ein rhestr wirio diogelwch bwyd i wneud yn siŵr eich bod yn barod am eich arolygiad diogelwch bwyd.

Os nad ydych wedi eich pennu fel busnes bwyd, mae dyletswydd arnoch o hyd i ddarparu bwyd diogel. Bydd defnyddio’r canllawiau ar y dudalen hon yn helpu.

4.1 Diogelwch rhoddion bwyd

Pan fydd bwyd wedi’i ddosbarthu, sicrhewch fod bwydydd sydd angen eu hoeri neu eu rhewi yn ddigon oer ac nad yw’r deunydd pecynnu wedi’i ddifrodi. Os nad ydych o’r farn bod y bwyd wedi cael ei drin yn ddiogel neu os yw o ansawdd gwael, peidiwch â’i ddefnyddio.

Mae bwyd mewn tun fel arfer yn ddiogel i’w fwyta. Os yw’r tun â tholciau, ar yr amod nad yw’r tolc yn ddwfn ac nad oes unrhyw arwyddion amlwg eraill bod y tun wedi’i ddifrodi, dylai’r bwyd fod yn ddiogel i’w fwyta. Fodd bynnag, os yw’r tolc yn ddwfn, gall y tun fod â thwll yn y sêl. Gallai hyn arwain at dun nad yw bellach yn ddibynadwy. Yn yr achos hwn, ni ddylid dosbarthu na bwyta’r bwyd y tu mewn. Os yw’r tolc wedi peri i’r tun rydu, ni ddylech fwyta’r bwyd y tu mewn.

Weithiau mae bwyd sy’n cael ei storio mewn jariau gwydr yn cynnwys botwm diogelwch ar ben y caead metel. Gellir gwasgu hwn er mwyn gweld pa mor ddiogel yw sêl y cynnyrch. Mae bwyd sy’n cael ei storio mewn jariau gwydr naill ai ag aer wedi’i dynnu o’r cynnyrch neu mae’n cynnwys atmosffer wedi’i addasu i gynnal diogelwch y bwyd. Os nad oes modd gwasgu’r botwm, mae hyn yn dangos bod y jar wedi’i agor. Sicrhewch bob amser fod y sêl ar jariau gwydr yn gyfan ac nad yw wedi’i hagor.

Peidiwch â dosbarthu bwyd o gan sydd wedi chwyddo neu o jar fwyd y mae rhywun wedi ymyrryd â hi (er enghraifft, lle bo modd gwasgu’r botwm diogelwch ar y caead). Gallai hyn ddangos bod bacteria’n bresennol ac yn tyfu, gan wneud y bwyd yn anniogel i’w fwyta. 

4.2 Darparu gwybodaeth am alergenau

Mae’n bwysig rheoli alergenau’n effeithiol er mwyn sicrhau bod bwyd yn ddiogel i gwsmeriaid ag alergeddau bwyd, anoddefiadau bwyd neu glefyd seliag. Os ydych wedi cofrestru fel busnes bwyd, rhaid i chi ddilyn y rheolau ar alergenau a nodir ar gyfer busnesau bwyd, gan gynnwys:

  • darparu gwybodaeth gywir am alergenau ar gyfer gwahanol fathau o fwyd, gan gynnwys bwydydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw i’w gwerthu’n uniongyrchol a bwydydd heb eu pecynnu ymlaen llaw (bwydydd rhydd)
  • trin a rheoli alergenau bwyd yn effeithiol mewn cegin neu wrth baratoi bwyd, fel atal croeshalogi

Mae cael sgwrs â defnyddwr am ofynion alergenau yn hynod bwysig er mwyn sicrhau bod yr holl wybodaeth angenrheidiol yn cael ei rhoi i alluogi busnesau bwyd i baratoi bwyd a bodloni gofynion alergenau, ac i alluogi defnyddwyr i wneud dewis diogel a gwybodus ynghylch pa fwyd i’w fwyta.

Gall rheolwyr ddefnyddio a rhannu adrannau o’n rhestr wirio alergenau â staff er mwyn sicrhau arferion gorau ym maes alergeddau bwyd.
Gall staff ymgymryd â’n hyfforddiant alergedd bwyd am ddim. 

Lawrlwythwch ein poster ar alergeddau i’w arddangos ar eich gwefan. Mae hefyd ar gael yn:

4.3 Dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ ac ‘ar ei orau cyn’

Mae dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ yn ymwneud ag ansawdd, nid diogelwch bwyd

Gallwch gyflenwi bwyd ar ôl y dyddiad ‘ar ei orau cyn’, ond efallai na fydd y bwyd yn bodloni’r ansawdd a ddisgwylir gan y defnyddiwr.

Mae gan Raglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau (WRAP) ar gyfer cyflenwi bwyd sydd wedi mynd heibio’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’. 

Mae dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ yn diogelu defnyddwyr

Mae angen dyddiad ‘defnyddio erbyn’ neu ddyddiad ‘ar ei orau cyn’ ar y rhan fwyaf o fwyd ‘wedi’i becynnu ymlaen llaw’. Fel arfer, y cynhyrchydd neu’r gweithgynhyrchwr fydd yn gwneud hyn. Bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw yw unrhyw fwyd sydd wedi’i roi mewn deunydd pecynnu cyn ei werthu neu ei roi i ffwrdd.

Nid oes angen labelu dyddiad ar rai bwydydd sydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw, fel ffrwythau a llysiau cyfan ffres heb eu paratoi. Darllenwch y rhestr lawn o eithriadau.

Os ydych yn cael bwydydd ‘heb eu pecynnu ymlaen llaw’ (bwydydd rhydd) neu fwyd sydd wedi’i ‘becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol’, fel brechdanau o siop frechdanau, efallai y cânt eu dosbarthu fel bwyd ‘wedi’i becynnu ymlaen llaw’ ar ôl ei roi i chi. Mae hyn oherwydd nad ydynt bellach yn y lle y cawsant eu gwneud. Mae’n bosib y bydd angen i chi ychwanegu labelu dyddiad cyn ei ddosbarthu yn yr achos hwn. Mae gennym ganllawiau ar labelu rhoddion bwyd heb eu pecynnu ymlaen llaw (bwydydd rhydd).

Mae angen dyddiad ‘defnyddio erbyn’ ar gyfer bwyd sy’n mynd yn ddrwg yn gyflym a fydd yn beryglus i iechyd os caiff ei fwyta ar ôl y dyddiad penodol. Mae’n drosedd cyflenwi bwyd ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. 

Os yw’r dyddiad eisoes wedi dod i ben, taflwch y bwyd.

Dyma ragor o wybodaeth am fwydydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw i’w gwerthu’n uniongyrchol a bwydydd heb eu pecynnu ymlaen llaw (bwydydd rhydd).

Dyma ragor o wybodaeth am ddyddiadau ‘defnyddio erbyn’ ac ‘ar ei orau cyn’.

4.4 Labelu rhoddion bwyd heb eu pecynnu ymlaen llaw

Nid oes angen dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ na dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ ar fwydydd heb eu pecynnu ymlaen llaw (bwydydd rhydd), fel brechdanau a wneir ac a werthir yn uniongyrchol i gwsmeriaid mewn siop frechdanau.

Fodd bynnag, os yw bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw yn cael ei roi i fanc bwyd neu elusen ac yna’n cael ei roi mewn deunydd pecynnu, gall ddod yn “fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw” oherwydd nad yw bellach yn cael ei werthu (neu ei roi i ffwrdd) yn y man y cafodd ei wneud a’i roi mewn deunydd pecynnu.
 
Yn yr achos hwn, mae’n ofynnol arddangos dyddiad ‘defnyddio erbyn’ neu ddyddiad  ar ei orau cyn’, a gwybodaeth orfodol arall. 

Defnyddiwch ganllawiau WRAP ar labelu dyddiadau i helpu i gydymffurfio â’r rheoliadau hyn.

Rydym yn ymwybodol y gallai fod yn heriol bodloni gofynion labelu ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw sy’n cael ei roi. Byddwn yn rhannu cyngor manylach yn fuan.
  
Nid oes angen dyddiad ‘defnyddio erbyn’ na dyddiad ‘ar ei orau cyn’ ar gyfer rhai bwydydd, fel ffrwythau a llysiau cyfan ffres heb eu paratoi. Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) a’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn darparu rhestr o eithriadau.

Siaradwch â thîm diogelwch bwyd eich awdurdod lleol os oes angen cyngor arnoch ac os nad ydych yn glir o ran pa ofynion labelu sy’n gymwys i’r bwyd rydych yn ei dderbyn a’i gyflenwi.

4.5 Bwydydd y mae angen rhoi sylw arbennig iddynt

Ni ddylai bwydydd sy’n peri risg diogelwch bwyd a/neu nad ydynt yn bodloni gofynion labelu cyfreithiol gael eu dosbarthu i’r defnyddwyr. 

Mae angen rhoi sylw arbennig i rai bwydydd, fel wyau.

Er mwyn cadw wyau yn y cyflwr gorau posibl, mae canllawiau a bennir gan gynllun diogelwch wyau y Llew Prydeinigyn argymell gwneud y canlynol:

  • storio wyau ar dymheredd gwastad ac o dan 20℃ yn eu blychau neu becynnau allanol
  • eu storio mewn lle sych oddi wrth fwydydd sy’n arogli’n gryf a halogion posibl
  • peidio â’u storio na’u harddangos yn agos at ffynonellau gwres fel fentiau oergell a gwresogyddion gwyntyll nac mewn golau haul uniongyrchol
  • eu cadw oddi wrth fwydydd wedi’u coginio ymlaen llaw neu fwydydd amrwd
  • eu trin mewn ffordd sy’n lleihau difrod
  • Unwaith y bydd wyau wedi cyrraedd y defnyddiwr, dylid eu cadw mewn oergell er mwyn cynnal ansawdd

Dyma rai bwydydd eraill y mae angen rhoi gofal ychwanegol iddynt: 

  • reis
  • codlysiau
  • pysgod cregyn
  • pysgod

Os ydych chi’n gweini unrhyw un o’r bwydydd hyn, edrychwch ar adran ‘bwydydd sydd angen gofal ychwanegol’ yn y Pecyn Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell. Gall bwydydd parod i’w fwyta gael eu halogi â listeria. Ewch i’n tudalen ar Listeria i helpu i leihau’r risg.

5. Olrhain bwyd

Os ydych chi’n cael eich dosbarthu yn fusnes bwyd, mae angen i chi roi systemau ar waith i sicrhau bod modd olrhain y bwyd sy’n cael ei roi a’i ddosbarthu.

Os bydd cynnyrch yn cael ei alw’n ôl gan werthwr am resymau diogelwch, bydd angen i chi wybod a wnaethoch chi ailddosbarthu’r cynnyrch hwnnw.

Rhaid i chi gadw cofnod cyfredol o’ch cyflenwyr. Dylai’r cofnodion gynnwys:

  • enw a chyfeiriad
  • math a maint y bwyd
  • dyddiad gwerthu a dosbarthu

Darllenwch ragor am olrhain bwyd a galw bwyd yn ôl.

Tanysgrifiwch i gael rhybuddion alergedd a hysbysiadau galw yn ôl

6. Storio a rhewi bwyd yn ddiogel (banciau bwyd ac elusennau)

Canllawiau ar storio bwyd i’w gadw’n ddiogel i’w fwyta.

6.1 Storio bwyd

Ataliwch groeshalogi trwy storio bwydydd unigol mewn cynwysyddion glân, wedi’u selio. Mae hyn yn atal gwrthrychau, bacteria a chemegau rhag mynd i mewn i’r bwyd. 

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y deunydd pecynnu ar sut i storio bwyd, er enghraifft mewn oergell neu rewgell. 

Sicrhewch fod eich oergelloedd a’ch rhewgelloedd wedi’u gosod ar y tymereddau a argymhellir gan y gweithgynhyrchwyr. Dylech osod oergelloedd ac offer arddangos oer ar 8°C neu is fel gofyniad cyfreithiol.

6.2 Rhewi bwyd i estyn ei oes silff

Gallwch estyn oes silff bwyd oer neu fwyd a gedwir ar dymheredd yr aer trwy eu rhewi, os yw’r bwyd yn addas i’w rewi.

Rhaid rhewi bwyd cyn hanner nos ar y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ a’i ail-labelu’n gywir, gan ddilyn ein canllawiau ar rewi bwyd oer neu fwyd a gedwir ar dymheredd yr aer mewn sypiau.

Gallai canllawiau labelu WRAP ar gyfer ailddosbarthu bwydfod o gymorth hefyd.

Dylech ddadmer bwyd wedi’i rewi yn drylwyr yn yr oergell. Mae’r amser y mae hyn yn ei gymryd yn dibynnu ar y bwyd ei hun. Unwaith y bydd bwyd wedi’i ddadmer, dylech ei ddefnyddio o fewn 24 awr.

Mae canllawiau pellach ar oeri bwyd yn gywir a chludo bwyd wed’’i rewi’n ddiogel, os oes angen.

7. Cludo bwyd yn ddiogel (banciau bwyd ac elusennau)

Canllawiau ar gyfer cludo bwyd i’r defnyddiwr.

Rhaid i fwyd sy’n cael ei ddosbarthu i ddefnyddwyr fod yn ddiogel ac yn addas i’w fwyta. Rhaid i chi sicrhau’r canlynol:

  • caiff bwyd ei gludo mewn deunydd pecynnu neu gynwysyddion sy’n atal halogiad caiff bwydydd wedi’u hoeri a’u rhewi eu dosbarthu i ddefnyddwyr mewn ffordd sy’n sicrhau nad ydynt yn dod yn anniogel neu’n anaddas i’w bwyta (er enghraifft, trwy ddefnyddio bagiau a blychau oeri, neu faniau oergell) caiff bwydydd amrwd a bwydydd parod i’w bwyta eu cadw ar wahân

Dilynwch ein canllawiau diogelwch bwyd ar gyfer dosbarthu bwyd i gael rhagor o wybodaeth.

8. Cael gwared ar fwyd (banciau bwyd ac elusennau)

Gwybodaeth am sut i gael gwared ar fwyd yn gywir.

Rhaid i chi gael gwared ar wastraff bwyd a bwyd nad yw bellach wedi’i fwriadu i’w fwyta gan bobl, nac yn ddiogel i’w fwyta ganddynt, mewn modd priodol.

Os yw gwastraff bwyd neu ddeunyddiau a bwyd na fwriedir ei fwyta bellach (former foodstuffs) yn deillio o anifeiliaid neu’n cynnwys cynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid, rhaid i chi gael gwared arnynt mewn ffordd nad yw’n peri risg i iechyd pobl nac anifeiliaid.

Mae gan y llywodraeth ganllawiau ar sut i gael gwared ar wastraff bwyd yn gywir.

9. Hyfforddiant ar gyfer darparwyr bwyd elusennol

Rhaid i weithredwyr busnesau bwyd (perchennog neu reolwr) fod wedi cael hyfforddiant diogelwch a hylendid bwyd addas. Nid oes rhaid i unigolion sy’n trin bwyd gael tystysgrif hylendid bwyd er mwyn paratoi neu werthu bwyd. Fodd bynnag, rhaid iddynt gael eu goruchwylio’n briodol a chael hyfforddiant hylendid bwyd priodol, yn unol â’r maes y maent yn gweithio ynddo, y gellir ei ddysgu trwy:

  • Hyfforddi wrth weithio
  • Hunan-astudio
  • Profiad blaenorol

Rydym yn cynnig hyfforddiant ar-lein rhad ac am ddim i unigolion a busnesau er mwyn sicrhau arferion gorauym maes diogelwch bwyd, gan gynnwys:

Gofynnwch i’ch awdurdod lleol am gyrsiau hylendid bwyd.

Efallai y bydd modd i chi gael cyllid neu grantiau ar gyfer hyfforddiant diogelwch trwy grantiau’r llywodraeth, eich awdurdod lleol, neu drwy godi arian.

10. Deunyddiau i’w lawrlwytho a dolenni defnyddiol ar gyfer banciau ac elusennau bwyd

Darganfod a lawrlwytho dogfennau defnyddiol ar gyfer sicrhau diogelwch bwyd.

Lawrlwythwch: