Skip to main content

Hylendid bwyd ar gyfer busnesau

Sgipio cynnwys

Atal croeshalogi

Mae croeshalogi’n digwydd pan fo bacteria yn lledaenu rhwng bwyd, arwynebau neu offer. Gall achosi gwenwyn bwyd.

Dylech hefyd atal croeshalogi o fwyd sy’n cynnwys alergenau.

Dylid cadw cig, pysgod neu ddofednod amrwd ar wahân i’r canlynol:

  • ffrwythau a llysiau
  • bwydydd parod i’w bwyta fel saladau a chaws

Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Golchwch eich dwylo bob amser rhwng tasgau gan ddefnyddio sebon a dŵr cynnes. Yn enwedig cyn ac ar ôl trin bwyd amrwd.

Ar gyfer cig, pysgod neu ddofednod amrwd, rhaid sicrhau bod opsiynau ar wahân ar gyfer:

  • byrddau torri ac offer cegin
  • peiriannau ac offer (fel peiriannau pecynnu dan wactod, peiriannau sleisio a briwio) neu, fel arall, rhaid eu diheintio’n drylwyr rhwng pob defnydd
  • mannau paratoi bwyd neu, fel arall, ewch ati i ddiheintio’r fan yn drylwyr rhwng pob defnydd
  • dillad a staff neu, fel arall, dylech eu hannog i newid a golchi eu dwylo rhwng paratoi gwahanol fwydydd
  • deunyddiau glanhau (fel sbyngau, cadachau a mopiau) mewn mannau lle mae’r bwydydd hyn yn cael eu trin