Hylendid bwyd ar gyfer busnesau
Coginio bwyd yn ddiogel
Mae coginio trylwyr yn lladd bacteria niweidiol. Gall bwyd sydd heb ei goginio ddigon achosi gwenwyn bwyd.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Dilynwch y cyfarwyddiadau coginio mewn rysáit neu ar ddeunydd pecynnu a gwiriwch am arwyddion gweledol, fel sicrhau bod y bwyd yn stemio’n boeth.
Y cyngor safonol yw coginio bwyd nes ei fod wedi cyrraedd tymheredd craidd o 70°C am 2 funud.
Dyma’r cyfuniadau amser a thymheredd diogel eraill:
- 60°C am 45 munud
- 65°C am 10 munud
- 75°C am 30 eiliad
- 80°C am 6 eiliad
Gallwch wirio eich bod wedi coginio bwyd yn drylwyr drwy fewnosod thermomedr â phrob glân i’w ganol.
Gall rhai llysiau wedi’u rhewi, fel india-corn, pys a moron, gynnwys bacteria. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n eu coginio’n drylwyr trwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y pecyn.
Mae’r pecynnau ‘Bwyd mwy diogel, busnes gwell (SFBB)’ yn cynnwys canllawiau ar fwyd sydd angen gofal ychwanegol.
Cig
Rhaid coginio rhai mathau o gig yn drylwyr drwyddynt draw bob amser. Cyn ei weini, gwiriwch fod y bwyd yn stemio’n boeth drwyddo draw. Torrwch drwy ran fwyaf trwchus y cig i wirio bod y suddion yn rhedeg yn glir ac nad oes cig pinc. Gwnewch hyn ar gyfer:
- dofednod, fel cyw iâr neu dwrci
- hwyaid ac adar hela eraill
- porc
- darnau o gig wedi’u rholio
- cynhyrchion wedi’u gwneud o gig wedi’i friwio, fel byrgyrs, cebabs a selsig
- offal, fel yr arennau a’r afu / iau
Dim ond arwyneb darnau cyfan o gig eidion a chig oen, fel steciau, cytledi a darnau o gig i’w rhostio, y mae angen i chi eu coginio (selio). Rhaid coginio darnau o gig wedi’u rholio’r holl ffordd drwyddynt.
Cadw bwyd yn boeth
Rhaid cadw bwyd poeth ar dymheredd o 63°C neu uwch os na fyddwch chi’n ei weini ar unwaith.
Gallwch ei gadw ar dymheredd is na 63°C am hyd at ddwy awr. Ar ôl hynny, oerwch y bwyd cyn gynted â phosib i 8°C neu is, neu ei daflu.
Ailgynhesu
Mae ailgynhesu yn golygu coginio bwyd eto, nid dim ond ei gynhesu. Cofiwch ailgynhesu bwyd nes ei fod yn stemio’n boeth drwyddo draw. Dim ond unwaith y gallwch chi ailgynhesu bwyd.