Hylendid bwyd ar gyfer busnesau
Oeri a rhewi
Oeri bwyd
Rhaid cadw bwyd oer ar dymheredd o 8°C neu is. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Yn yr Alban, argymhelliad ydyw.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gosodwch eich oergell i 5°C neu is i wneud yn siŵr bod bwyd yn aros yn ddigon oer, hyd yn oed os bydd y tymheredd yn newid.
Gallwch gadw bwyd oer allan o’r oergell am hyd at 4 awr, yna rhaid i chi ei daflu. Os yw bwyd wedi bod allan am lai na 4 awr, gallwch chi ei roi yn ôl yn yr oergell.
Mae bwydydd y mae angen eu cadw’n oer i atal bacteria niweidiol rhag tyfu yn cynnwys:
- bwyd sydd â dyddiad ‘defnyddio erbyn’
- prydau wedi’u coginio
- bwyd parod i’w fwyta fel saladau wedi’u paratoi a phwdinau
Rhewi bwyd
Wrth rewi bwyd, mae angen i chi wneud y canlynol:
- rhoi bwyd sydd wedi’i rewi yn y rhewgell yn syth
- rhewi bwyd ffres cyn ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’ a nodi’r dyddiad y gwnaethoch chi ei rewi
- rhannu bwyd yn ddognau llai cyn ei rewi
- oeri prydau wedi’u coginio cyn eu rhoi yn y rhewgell
- labelu popeth rydych chi’n ei rewi
Gwiriwch y rheolau ar gyfer rhewi bwyd môr y bwriedir ei fwyta’n amrwd neu wedi’i goginio’n ysgafn.
Dadmer bwyd
Rhaid dadmer bwyd yn llwyr cyn ei goginio oni bai bod cyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwr yn dweud i’w goginio yn syth o’r rhewgell.
Rhowch fwyd wedi’i rewi yn yr oergell i’w ddadmer yn ddiogel.
Os na allwch chi ddadmer bwyd yn yr oergell, gwnewch y naill neu’r llall o’r canlynol:
- rhowch y bwyd mewn cynhwysydd o dan ddŵr oer (dylai’r cynhwysydd fod wedi’i selio os ydych chi’n dadmer cig neu ddofednod amrwd)
- defnyddiwch yr opsiwn ‘dadmer’ ar ficrodon
Gall bacteria dyfu os caiff bwyd sy’n dadmer ei gadw rhwng 8°C a 63°C.