Hylendid bwyd ar gyfer busnesau
Glanhau
Rhaid i chi allu profi eich bod chi’n glanhau’n effeithiol.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Rhowch amserlen a chofnod glanhau ar waith. Mae’r pecynnau ‘Bwyd mwy diogel, busnes gwell (SFBB)’ yn cynnwys canllawiau ar sut i wneud hyn.
Rhaid i’r amserlen lanhau gynnwys yr hyn sydd angen ei lanhau neu ei ddiheintio, pa mor aml, a pha gynhyrchion i’w defnyddio.
Peidio â glanhau’n drylwyr yw un o’r rhesymau mwyaf cyffredin pam mae busnesau bwyd yn cael eu herlyn.
Rhaid i chi lanhau’r canlynol yn rheolaidd:
- arwynebau gwaith a byrddau torri
- offer cegin, llestri ac offer coginio
- cadachau llestri, sbyngau a llieiniau sychu llestri
- pethau rydych chi’n cyffwrdd â nhw’n aml, fel dolenni drysau, biniau, switshys golau a dyfeisiau electronig
Rhaid i bob aelod o staff lanhau eu dwylo’n rheolaidd ac ymarfer hylendid personol da.
Glanhewch a diheintiwch offer a mannau paratoi bwyd bob amser ar ôl iddynt ddod i gysylltiad â bwyd amrwd.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio labeli cynhyrchion glanhau. Nid yw pob un yn lladd bacteria a feirysau. Er mwyn sicrhau bod diheintyddion yn bodloni’r safonau cywir, gwiriwch fod y labeli’n cynnwys naill ai’r codau BS EN 1276 neu BS EN 13697.
Storiwch gynhyrchion glanhau i ffwrdd o fwyd.
Cofiwch gael gwared ar wastraff bwyd cyn gynted â phosib.