Rhedeg busnes bwyd
Hyfforddiant, salwch a hylendid staff
Hyfforddiant staff
Rhaid i chi allu dangos bod gan eich staff y sgiliau cywir a’u bod wedi ymgymryd â’r hyfforddiant diweddaraf ar gyfer eu rôl.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cadwch gofnod o unrhyw hyfforddiant y mae staff wedi’i gwblhau fel y gallwch ddangos hyn yn ystod arolygiad.
Mae modd dysgu sgiliau drwy’r canlynol:
- cyrsiau a ddarperir neu a argymhellir gan eich awdurdod lleol
- hyfforddi wrth weithio
- hunan-astudio
- profiad blaenorol perthnasol
Does dim rhaid i unigolion sy’n trin bwyd feddu ar dystysgrif hylendid bwyd.
Os ydych chi eisiau un, gofynnwch i’ch awdurdod lleol am wybodaeth.
Rhaid hyfforddi staff i reoli alergeddau.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnig hyfforddiant am ddim ar ddadansoddi gwraidd y broblem i helpu staff i ddeall beth sy’n achosi digwyddiadau diogelwch bwyd a dysgu sut i’w hatal.
Hylendid personol
Rhaid i chi sicrhau bod staff yn gwisgo dillad diogelu addas a glân. Wrth baratoi neu drin bwyd, dylai staff wneud y canlynol:
- cadw eu gwallt yn ôl a gwisgo gorchudd pen addas, fel het neu rwyd gwallt
- peidio â gwisgo oriawr na gemwaith (ac eithrio modrwy briodas blaen)
- peidio â chyffwrdd â’u hwyneb na’u gwallt
- peidio ag ysmygu, poeri, tisian, bwyta na chnoi gwm
Rhowch gynllun ar waith i sicrhau hylendid personol gan ddefnyddio’r canllawiau ‘Bwyd mwy diogel, busnes gwell’ (SFBB), neu’r safonau ‘Arlwyo diogel’ os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon.
Golchi dwylo
Mae golchi’ch dwylo’n iawn yn helpu i atal bacteria niweidiol rhag lledaenu. Rhaid i unrhyw un sy’n gweithio gyda bwyd olchi ei ddwylo:
- cyn paratoi bwyd
- ar ôl cyffwrdd â bwyd amrwd
- ar ôl trin gwastraff bwyd neu wagio bin
- ar ôl glanhau
- ar ôl chwythu ei drwyn neu gyffwrdd â’i wyneb neu ei wallt
- ar ôl cyffwrdd â ffonau, switshys golau, dolenni drws a thiliau
- ar ôl bod i’r toiled
Salwch staff
Rhaid i staff ddweud wrth eu rheolwr os nad ydyn nhw’n teimlo’n iawn.
Rhaid iddyn nhw beidio â thrin bwyd na mynd i mewn i’r ardal trin bwyd os oes ganddyn nhw unrhyw un o’r canlynol:
- dolur rhydd
- chwydu
- clwyfau neu friwiau heintiedig
- poen yn y stumog, teimlo’n gyfoglyd, twymyn neu’r clefyd melyn
- croen, trwyn neu wddf heintiedig
- unrhyw glefyd arall sy’n debygol o gael ei drosglwyddo drwy fwyd
Rhaid i staff hefyd ddweud wrth eu rheolwr os yw unrhyw un yn eu cartref yn dioddef o ddolur rhydd neu’n chwydu. Rhaid iddyn nhw osgoi trin bwyd os oes unrhyw siawns eu bod nhw’n cario salwch.
Dysgwch am eich cyfrifoldeb cyfreithiol i gadw staff yn ddiogel rhag heintiau.
Pan fydd eich staff yn sâl
Os byddwch chi’n darganfod bod pobl wedi gweithio pan oedden nhw’n sâl, glanhewch yn effeithiol i atal y salwch rhag lledaenu. Rhowch sylw manwl i’r ardaloedd y mae’r aelod o staff wedi dod i gysylltiad â nhw.
Bydd gan y rhan fwyaf o staff hawl i dâl salwch statudol. Os byddwch chi’n cosbi staff am fod yn sâl, efallai y byddan nhw’n gweithio pan fyddan nhw’n sâl a gallai hyn arwain at broblemau diogelwch bwyd.
Dychwelyd i’r gwaith
Ar ôl cyfnod o salwch, gallech ddefnyddio holiadur ffitrwydd i weithio i wirio a yw’n ddiogel i staff ddychwelyd i’r gwaith.
Rhaid i staff sydd â dolur rhydd neu sy’n chwydu beidio â dychwelyd i’r gwaith tan iddyn nhw fod yn rhydd rhag unrhyw symptomau am 48 awr.
Darllenwch ganllawiau Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU ar reoli heintiau gastroberfeddol.