Rhedeg busnes bwyd
Cyflenwyr ac olrheiniadwyedd
Defnyddiwch gyflenwr ag enw da i wneud yn siŵr bod y cynhyrchion rydych chi’n eu prynu wedi’u storio, eu prosesu, eu trin a’u cludo’n ddiogel.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Pan fydd bwyd yn cael ei ddanfon, gwiriwch y canlynol:
- mae bwyd sydd wedi’i oeri a’i rewi yn ddigon oer
- dydy’r deunydd pecynnu ddim wedi’i ddifrodi
- mae bwyd yn cyd-fynd â’r hyn rydych chi wedi’i archebu
Os ydych chi’n credu nad yw bwyd wedi cael ei drin yn ddiogel neu ei fod o ansawdd gwael, peidiwch â’i ddefnyddio. Cysylltwch â’ch cyflenwr ar unwaith.
Rhaid i chi gadw cofnodion olrheiniadwyedd i helpu i olrhain bwyd drwy’r gadwyn gyflenwi. Mae’r rhain yn helpu i dynnu neu alw bwyd anniogel yn ôl yn gyflym. Rhaid i’ch cofnodion gynnwys:
- enw a chyfeiriad pob cyflenwr
- enw a chyfeiriad pob busnes rydych chi’n ei gyflenwi
- math a maint y cynhyrchion
- dyddiadau pob trafodiad a danfoniad
Cadwch yr holl gofnodion yn gyfredol a sicrhewch eu bod ar gael i’w harolgyu bob amser.