Rhedeg busnes bwyd: canllawiau ac adnoddau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Dyma ein canllawiau ac adnoddau allweddol i’ch helpu gyda’ch busnes bwyd.
Mae’r dudalen hon yn dwyn ynghyd rai o’n canllawiau ac adnoddau allweddol i’ch helpu i sefydlu, rhedeg a thyfu eich busnes bwyd.
Mae’n cynnwys gwybodaeth am ddiogelwch bwyd, hylendid, alergenau, sgoriau hylendid bwyd, a mwy.
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English)
Dechrau a chofrestru busnes bwyd
Dyma ganllawiau a chymorth i’ch helpu i ddechrau, cofrestru a rhedeg busnes bwyd.
Mae’r rhain yn cynnwys canllawiau ar werthu bwyd o’r cartref, ar-lein, ac o safleoedd symudol neu safleoedd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid.
Rheoli diogelwch bwyd ac alergenau
Dyma ganllawiau manwl ar ddiogelwch bwyd, gan gynnwys gwybodaeth am reoli alergenau ac achosion o alw bwyd yn ôl.
Sgoriau Hylendid Bwyd
Mae ein gwasanaeth sgoriau hylendid bwyd yn helpu defnyddwyr i ddewis ble i fwyta allan neu ble i brynu bwyd drwy ddarparu gwybodaeth glir am safonau hylendid busnesau.
Mae’r wybodaeth yma’n esbonio sut y gall busnesau bwyd ymgysylltu â’r gwasanaeth a’i ddefnyddio.
Canllawiau eraill ar gyfer mathau penodol o fusnesau
Dyma ganllawiau ar gyfer materion sy’n berthnasol i fusnesau bwyd penodol – er enghraifft, y rhai sy’n:
- gwerthu bwyd heb gyswllt wyneb yn wyneb â’r defnyddiwr
- gwerthu bwyd i’w ddosbarthu
- darparu bwyd mewn digwyddiadau cymunedol fel busnes
- gwerthu cynhyrchion sy’n cynnwys glyserol