Cofrestru busnes bwyd
Mae’n rhaid i chi gofrestru gyda’ch awdurdod lleol i allu rhedeg busnes bwyd.
Gwnewch gais nawr: Cofrestrwch gyda’ch awdurdod lleol.
Trosolwg
Os ydych chi’n gwerthu, coginio, storio, trin, paratoi neu ddosbarthu bwyd i’r cyhoedd, efallai y byddwch chi’n cael eich ystyried yn fusnes bwyd, a bydd angen i chi gofrestru gyda’ch awdurdod lleol.
Mae hyn yn cynnwys busnesau bwyd sy’n masnachu:
- o eiddo ffisegol sy’n gweini cwsmeriaid
- o gartref
- o uned symudol neu safle dros dro
- ar-lein (er enghraifft ar y cyfryngau cymdeithasol neu wefan) neu drwy werthu o bell (mae gwerthu o bell yn golygu unrhyw werthu sy’n digwydd heb gyswllt wyneb yn wyneb â’r defnyddiwr)
Pwy sydd angen cofrestru
Bydd angen i chi gofrestru gyda’ch awdurdod lleol os ydych chi’n:
-
gwerthu bwyd
-
coginio bwyd
-
storio neu drin bwyd
-
paratoi bwyd
-
dosbarthu bwyd
Bydd angen i bob math o fusnes sy’n gwerthu bwyd a diod gofrestru, ni waeth o ble maen nhw’n gweithredu. Mae’n cynnwys busnesau sy’n masnachu o gartref, uned symudol, neu eiddo dros dro fel stondin neu fan. Bydd angen cofrestru hefyd os ydych yn gwerthu bwyd neu ddiodydd ar-lein yn unig.
Dylai cwmnïau sy’n ymwneud â dosbarthu, broceru neu gyflenwi bwyd ac sy’n gweithredu o swyddfeydd hefyd gofrestru fel busnesau bwyd. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os na chaiff bwyd ei gadw ar y safle.
Os ydych yn gweithredu mewn mwy nag un lleoliad, mae angen i chi gofrestru pob safle gyda’r awdurdodau lleol y maent wedi’u lleoli ynddynt. Os ydych chi’n ansicr a oes angen i chi gofrestru, neu os oes angen rhagor o gyngor arnoch, cysylltwch â’ch awdurdod lleol yng Nghymru, Gogledd Iwerddon neu Loegr.
Cofrestru fel gwarchodwr plant
Os ydych chi’n darparu bwyd fel rhan o’ch busnes gwarchod plant yn Lloegr, bydd y manylion rydych chi’n eu darparu i Ofsted neu’ch asiantaeth gwarchod plant hefyd yn cael eu defnyddio i’ch cofrestru fel busnes bwyd gyda’ch awdurdod lleol. Ni fydd rhaid i chi gofrestru ar wahân.
Rhaid i chi gydymffurfio â rheoliadau diogelwch a hylendid bwyd os ydych yn darparu bwyd a diod i blant neu fabanod gan gynnwys:
-
prydau
-
byrbrydau
-
diodydd (ar wahân i ddŵr tap o’r prif gyflenwad)
-
bwyd wedi’i ailgynhesu a ddarperir gan riant/gofalwr
-
bwyd yr ydych yn ei dorri a’i baratoi
Mae gofynion cofrestru gwarchodwyr plant yn wahanol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon os ydych yn darparu bwyd gyda’ch busnes gwarchod plant. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i gael rhagor o wybodaeth.
Os ydych chi’n warchodwr plant yn yr Alban, mae angen i chi lenwi ffurflen gofrestru busnes bwyd i warchodwyr plant a’i hanfon at eich awdurdod lleol.
Cofrestru fel banc bwyd neu elusen
Mae’n bosib y bydd angen i chi gofrestru fel busnes bwyd os ydych chi, neu’ch gweithrediad, yn darparu bwyd i’r gymuned, hyd yn oed os yw’n rhad ac am ddim, a hynny 28 diwrnod cyn i chi ddechrau darparu bwyd.
Darllenwch y canllawiau diogelwch a hylendid bwyd ar gyfer banciau bwyd ac elusennau.
Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr
Mae’n ofynnol i chi gofrestru o leiaf 28 diwrnod cyn masnachu. Rydym yn argymell nad ydych yn cofrestru’n rhy gynnar, ond eich bod yn aros tan 28 diwrnod cyn i chi fod yn barod i ddechrau gweithredu.
Defnyddiwch y rhestr wirio ar gyfer paratoi i ddechrau eich busnes bwyd i wneud yn siŵr eich bod wedi ystyried popeth cyn i chi gofrestru, neu cysylltwch â’ch awdurdod lleol os oes angen rhagor o gyngor arnoch.
Yr Alban
Mae gwybodaeth a chyngor i’ch helpu i ddechrau eich busnes bwyd ar gael ar wefan Safonau Bwyd yr Alban. Fel arall, cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn yr Alban os oes angen cyngor pellach arnoch.
Updates to this page
-
A link to guidance for food banks and charities has been added.
-
First published.