Dechrau busnes bwyd
Dechrau busnes bwyd
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Paratoi ar gyfer dechrau eich busnes bwyd
Cynllunio cyn i chi ddechrau eich busnes bwyd
Cyn dechrau busnes bwyd, rhaid i chi gymryd amser i gynllunio a pharatoi. Bydd gwneud hynny’n rhoi’r cyfle gorau i chi redeg eich busnes bwyd yn ddiogel.
Mae mwy o ganllawiau ar gael yn ein rhestr wirio ‘pethau i’w hystyried cyn dechrau busnes bwyd’ ar y dudalen hon.
Pwy sydd angen cofrestru
Os ydych chi’n gwerthu, coginio, storio, trin, paratoi neu’n dosbarthu bwyd, efallai y byddwch chi’n cael eich ystyried yn fusnes bwyd, a bydd angen i chi gofrestru gyda’ch awdurdod lleol.
Mae hyn yn cynnwys busnesau bwyd sy’n masnachu:
-
o eiddo ffisegol sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid
-
o’u cartref
-
o uned symudol neu safle dros dro
-
ar-lein (er enghraifft trwy’r cyfryngau cymdeithasol neu wefan)
-
trwy werthu o bell (ystyr gwerthu o bell yw unrhyw werthu sy’n digwydd heb gyswllt wyneb yn wyneb â’r defnyddiwr)
Bydd angen i bob math o fusnes sy’n gwerthu bwyd a diod gofrestru, ni waeth o ble rydych yn gweithredu.
Dylai cwmnïau sy’n ymwneud â dosbarthu, broceru neu gyflenwi bwyd ac sy’n gweithredu o swyddfeydd hefyd gofrestru fel busnesau bwyd. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os na chaiff bwyd ei gadw ar y safleoedd.
Os ydych yn gweithredu mewn mwy nag un lleoliad, mae angen i chi gofrestru pob safle gyda’r awdurdodau lleol y maent wedi’u lleoli ynddynt. Os nad ydych chi’n siŵr a oes angen i chi gofrestru, neu os oes angen cyngor pellach arnoch, cysylltwch â’ch awdurdod lleol yng Nghymru, Gogledd Iwerddon neu Loegr.
Canllawiau ar sut i gofrestru eich busnes bwyd gyda’ch awdurdod lleol
Pan fyddwch yn dechrau busnes bwyd newydd, neu’n cymryd yr awenau mewn busnes sy’n bodoli eisoes, mae’n rhaid i chi gofrestru gyda’ch awdurdod lleol. Dylech wneud hyn o leiaf 28 diwrnod cyn i chi ddechrau masnachu.
Mae cofrestru eich busnes bwyd yn rhad ac am ddim, ac ni ellir ei wrthod. Os ydych eisoes yn masnachu ond heb gofrestru eto, bydd angen i chi gofrestru cyn gynted â phosib, gan fod hwn yn ofyniad cyfreithiol.
Os ydych yn cyflenwi bwyd yn rheolaidd i’r cyhoedd am ddim ac am dâl, mae angen i chi gofrestru fel busnes bwyd.
Cofrestrwch eich busnes bwyd ar y porth cofrestru busnesau bwyd.
Os yw’ch busnes bwyd yn defnyddio mwy nag un enw masnachu i werthu bwyd, er enghraifft, os ydych chi’n gwerthu bwyd ar-lein trwy lwyfan ddosbarthu, gallwch gynnwys yr holl enwau masnachu ar un cofrestriad. Sylwer – enw masnachu yw’r enw y byddai’ch cwsmeriaid yn ei ddefnyddio ar gyfer eich busnes.
Os byddwch chi’n ychwanegu mwy o enwau masnachu yn ddiweddarach, bydd angen i chi roi gwybod i’r awdurdod lleol yn uniongyrchol.
Does dim angen i chi gwblhau cofrestriad newydd ar gyfer pob enw masnachu ychwanegol.
Pryd i gofrestru
Mae’n ofynnol i chi gofrestru o leiaf 28 diwrnod cyn masnachu. Rydym yn argymell nad ydych chi’n cofrestru’n rhy gynnar, ond eich bod chi’n aros tan 28 diwrnod cyn i chi fod yn barod i ddechrau gweithredu. Defnyddiwch ein rhestr wirio i wneud yn siŵr eich bod chi wedi ystyried popeth cyn i chi gofrestru.
Os byddwch chi’n rhoi’r gorau i fasnachu ar unrhyw adeg, bydd angen i chi roi gwybod i’ch awdurdod lleol.
Gwerthu bwyd o safleoedd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid
Os ydych chi’n masnachu o safle ffisegol sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid, gwnewch yn siŵr eich bod chi hefyd yn darllen ein canllawiau ar sefydlu safle eich busnes bwyd. Efallai y byddwch chi hefyd am ddarllen ein canllawiau ar werthu bwyd i’w ddosbarthu.
Gwerthu bwyd o’ch cartref
Os ydych chi’n masnachu o’ch cartref, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein canllawiau ar ddechrau busnes bwyd yn ddiogel a dechrau busnes bwyd o’ch cartref.
Gwerthu bwyd o safle symudol neu safle dros dro
Os ydych chi’n masnachu o uned symudol neu safle dros dro, gwnewch yn siŵr eich bod chi hefyd yn darllen ein canllawiau ar ddechrau busnes bwyd yn ddiogel a sefydlu safle eich busnes bwyd.
Gwerthu bwyd ar-lein
Os ydych chi’n gwerthu bwyd ar-lein (er enghraifft drwy’r cyfryngau cymdeithasol neu wefan) neu’n gwerthu bwyd o bell (mae gwerthu o bell yn golygu unrhyw werthu sy’n digwydd heb gysylltiad wyneb yn wyneb â’r defnyddiwr), darllenwch ein canllawiau ar ddechrau busnes bwyd yn ddiogel, sefydlu safle eich busnes bwyd, a gwerthu bwyd i’w ddosbarthu.
Cofrestru fel gwarchodwr plant
Os ydych chi’n darparu bwyd fel rhan o’ch busnes gwarchod plant yn Lloegr, bydd y manylion rydych chi’n eu darparu i Ofsted neu’ch asiantaeth gwarchod plant hefyd yn cael eu defnyddio i’ch cofrestru fel busnes bwyd gyda’ch awdurdod lleol. Ni fydd rhaid i chi gofrestru ar wahân.
Rhaid i chi gydymffurfio â rheoliadau diogelwch a hylendid bwyd os ydych yn darparu bwyd a diod i blant neu fabanod gan gynnwys:
-
prydau
-
byrbrydau
-
diodydd (ar wahân i ddŵr tap o’r prif gyflenwad)
-
bwyd wedi’i ailgynhesu a ddarperir gan riant/gofalwr
-
bwyd yr ydych yn ei dorri a’i baratoi
Mae gofynion cofrestru gwarchodwyr plant yn wahanol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon os ydych chi’n darparu bwyd gyda’ch busnes gwarchod plant. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol am fwy o wybodaeth.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am reoli diogelwch bwyd ar gyfer gwarchodwyr neu ofalwyr plant cofrestredig yn ein pecyn ‘Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell’.
Rhestr wirio: pethau i’w hystyried cyn dechrau busnes bwyd
Cynllunio
Mae bod â chynllun busnes yn bwysig er mwyn rhedeg busnes bwyd llwyddiannus. Mae canllawiau pellach ar sut i ysgrifennu cynllun busnes, gan gynnwys enghreifftiau o gynlluniau busnes, ar gael ar-lein.
Cofrestru
Unwaith y byddwch chi’n barod i ddechrau eich busnes bwyd, bydd rhaid i chi gofrestru gyda’ch awdurdod lleol o leiaf 28 diwrnod cyn i chi ddechrau masnachu.
Caniatâd
Os ydych chi’n rhedeg eich busnes o’ch cartref, mae angen bodloni rhai gofynion penodol. I gael mwy o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar ddechrau busnes bwyd o’ch cartref.
Cofrestru fel person hunangyflogedig
Os ydych chi’n dechrau busnes bwyd, mae angen i chi roi gwybod i CThEF eich bod chi’n hunangyflogedig. I gael mwy o gyngor ar yr agweddau ariannol wrth ddod yn berchennog busnes bwyd, ewch i’n hadran cymorth a chefnogaeth ychwanegol.
Sefydlu gweithdrefnau diogelwch bwyd
Rhaid i fusnesau bwyd fod â gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd ar waith. Darllenwch ein canllawiau ar ddechrau eich busnes bwyd yn ddiogel.
Ystyried hyfforddiant diogelwch bwyd
Mae’n bwysig dangos y safonau uchaf o ran paratoi, trin, storio a gweini bwyd. I gael mwy o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar ddechrau eich busnes bwyd yn ddiogel.
Arfer hylendid bwyd da
Mae hylendid bwyd da yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y bwyd rydych chi’n ei weini’n ddiogel i’w fwyta. I gael mwy o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar ddechrau eich busnes bwyd yn ddiogel.
Paratoi eich safle i redeg busnes bwyd
Rhaid cadw safle eich busnes bwyd, eich cartref o bosib, yn lân a’i gynnal mewn cyflwr da. I gael mwy o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar sefydlu safle eich busnes bwyd.
Gwerthu bwyd ar-lein a’i ddosbarthu’n ddiogel
Mae’n rhaid i chi sicrhau bod bwyd yn cael ei ddosbarthu i ddefnyddwyr mewn ffordd sy’n sicrhau na fydd yn anniogel nac yn anaddas i’w fwyta. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am ddosbarthu’n ddiogel yn yr adran ar werthu bwyd i’w ddosbarthu.
Darparu gwybodaeth am alergenau a dilyn rheolau labelu
Mae’n ofynnol i fusnesau bwyd o bob maint ddarparu gwybodaeth am alergenau a dilyn rheolau labelu fel y’u nodir mewn cyfraith bwyd. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am reoli alergenau yn ein canllawiau ar alergenau ar gyfer busnesau bwyd.
Dechrau eich busnes bwyd yn ddiogel
Mae sawl gofyniad y mae angen i chi eu hystyried wrth ddechrau busnes bwyd.
Asesu risg
Wrth sefydlu busnes bwyd, dylech chi gynnal asesiad risg. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi canllawiau ar sut i gynnal asesiad risg a beth i’w gynnwys.
Rhaid i fusnesau bwyd ddefnyddio gweithdrefnau Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP) neu System Rheoli Diogelwch Bwyd sy’n seiliedig ar HACCP fel y canllawiau Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell.
Mae’r pecynnau’n cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
-
hylendid personol
-
rheoli plâu
-
atal croeshalogi
-
glanhau
Hylendid bwyd
Mae hylendid bwyd da yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y bwyd rydych chi’n ei weini’n ddiogel i’w fwyta. Pan fyddwch chi’n sefydlu busnes bwyd, mae angen i chi gyflwyno ffyrdd o weithio a fydd yn eich helpu i sicrhau bod safonau hylendid yn briodol o’r cychwyn cyntaf.
Dyma’r pedwar hanfod ar gyfer hylendid bwyd da:
Hyfforddiant hylendid bwyd
Lle bynnag y mae bwyd yn cael ei weini, mae’n bwysig dangos y safonau uchaf o ran paratoi, trin, storio a gweini bwyd. Bydd angen i chi ddangos eich bod wedi ymgymryd â hyfforddiant digonol mewn hylendid bwyd.
Nid yw’n orfodol i chi gael tystysgrif hylendid bwyd, ond os ydych am ddechrau busnes bwyd, rydym yn argymell eich bod yn mynd ati i ennill cymhwyster ar hylendid bwyd i wella eich dealltwriaeth.
Mae Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd yn darparu canllawiau ar y gwahanol lefelau o dystysgrifau hylendid bwyd sydd ar gael. Mae darparwyr hyfforddiant achrededig eraill ar gael. Bydd eich awdurdod lleol yn gallu rhoi cyngor ar ba gwrs sydd fwyaf addas ar gyfer eich anghenion.
Rheoli alergenau
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau bwyd ddarparu gwybodaeth am alergenau a dilyn rheolau labelu.
Mae’r gyfraith yn dweud bod rhaid i chi wneud y canlynol:
-
darparu gwybodaeth am alergenau i’ch cwsmeriaid
-
trin a rheoli alergenau bwyd yn effeithiol wrth baratoi bwyd
Mae angen i chi roi gwybod i’ch cwsmeriaid os yw unrhyw fwyd rydych chi’n ei ddarparu yn cynnwys unrhyw un o’r 14 alergen y mae’n ofynnol iddynt gael eu datgan fel alergenau yn ôl cyfraith bwyd.
Mae hyn hefyd yn berthnasol i unrhyw ychwanegion, neu unrhyw eitemau eraill sy’n bresennol yn y cynnyrch terfynol, fel garnisiau neu addurniadau cacen.
Mae nifer o ffyrdd y gellir darparu gwybodaeth am alergenau i’ch cwsmeriaid.
Bydd ein [canllawiau ar alergenau ar gyfer busnesau bwyd] (https://www.gov.uk/government/publications/allergen-guidance-for-food-businesses.cy) yn eich helpu i benderfynu pa un yw’r dull gorau ar gyfer eich busnes.
Gallwch gymryd camau i ddarparu prydau sy’n ddiogel o ran alergenau drwy wneud y canlynol:
-
glanhau offer cyn pob defnydd
-
golchi dwylo’n drylwyr yn rheolaidd
-
storio cynhwysion a bwydydd wedi’u paratoi ar wahân
-
labelu prydau tecawê yn glir
Mae’n bwysig i fusnesau bwyd gymryd camau i atal croeshalogi wrth baratoi bwyd.
Mae hyn yn diogelu cwsmeriaid sydd ag alergedd bwyd. Mae gennym ni ganllawiau pellach ar sut i ddarparu gwybodaeth am alergenau wrth ddosbarthu bwyd.
Rydym yn darparu hyfforddiant alergedd bwyd ar-lein am ddim y gellir ei ddefnyddio i ddysgu mwy am reoli alergenau mewn cegin, yn ogystal â sut i ddarparu ar gyfer cwsmeriaid ag alergeddau bwyd.
Olrheiniadwyedd
Mae rheolau olrheiniadwyedd yn helpu i gadw golwg ar fwyd yn y gadwyn gyflenwi. Maent yn sicrhau bod unrhyw fwyd anniogel yn cael ei dynnu neu ei alw’n ôl o’r farchnad yn effeithlon ac yn gywir os oes unrhyw broblemau diogelwch bwyd.
Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o’r canlynol:
-
yr holl gyflenwyr sy’n darparu bwyd neu unrhyw gynhwysion bwyd i chi
-
unrhyw fusnesau rydych yn eu cyflenwi â bwyd neu gynhwysion bwyd
Mae angen cadw eich holl gofnodion yn gyfoes a sicrhau eu bod ar gael ar gyfer arolygiadau bob amser.
Gellir dod o hyd i fanylion penodol am yr hyn y dylech ei gynnwys yn eich cofnodion olrhain yn ein canllawiau ar reoli diogelwch bwyd.
Osgoi troseddau bwyd
Wrth ddod o hyd i gynhwysion, prynwch fwyd gan gyflenwyr ag enw da yn unig. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o ble mae’r bwyd wedi dod.
Byddwch yn wyliadwrus pan fydd busnesau nad ydych wedi delio â nhw o’r blaen yn cysylltu â chi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod o ble mae’r bwyd yn dod cyn prynu unrhyw beth.
Gwiriwch a yw’r pris yn unol â phris cyfredol y farchnad. Mae prisiau cynhyrchion yn amrywio, ond byddwch yn wyliadwrus os yw cyflenwyr yn cynnig cynhyrchion am bris is na’r arfer.
Dysgwch fwy am roi gwybod am droseddau bwyd a’u hatal.
Gallwch roi gwybod am droseddau bwyd drwgdybiedig i’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd.
Iechyd a diogelwch
Os oes gennych chi bump neu ragor o weithwyr, mae’n rhaid i chi fod â pholisi iechyd a diogelwch ysgrifenedig sy’n disgrifio’r trefniadau sydd ar waith.
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi datblygu canllawiau syml ar iechyd a diogelwch i helpu busnesau bach a chanolig i ddeall iechyd a diogelwch.
Rhestr wirio ar gyfer dechrau eich busnes bwyd yn ddiogel
Cynnal asesiad risg
Dylech chi gynnal asesiad risg a bod â gweithdrefn ddiogelwch ar waith ar gyfer eich busnes bwyd.
Darparu hyfforddiant hylendid bwyd i staff
Bydd angen i chi ddangos eich bod wedi cael eich hyfforddi’n ddigonol mewn hylendid bwyd.
Sicrhau eich bod yn cydymffurfio â chyfraith alergeddau
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau bwyd ddarparu gwybodaeth am alergenau a dilyn rheolau labelu.
Sicrhau bod gennych gofnodion olrhain digonol
Gellir dod o hyd i fanylion penodol am yr hyn y dylech ei gynnwys yn eich cofnodion olrhain yn ein canllawiau ar reoli diogelwch bwyd.
Osgoi troseddau bwyd
Darllenwch ein canllawiau ar roi gwybod am droseddau bwyd a’u hatal. Gallwch roi gwybod am droseddau bwyd drwgdybiedig i’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd.
Sicrhau bod gennych y gweithdrefnau iechyd a diogelwch cywir ar waith
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi datblygu canllawiau syml ar iechyd a diogelwch.
Sefydlu safle eich busnes bwyd
Dewis y safle cywir
Rhaid i’r safle a ddewiswch ar gyfer eich busnes, boed yn safle masnachol neu yn eich cartref:
-
gydymffurfio â’r rheoliadau angenrheidiol
-
eich galluogi i baratoi bwyd yn ddiogel
Rhaid i chi gadw eich safle’n lân, ei gynnal a’i gadw a sicrhau ei fod mewn cyflwr da. Rhaid i’ch safle ganiatáu i chi ddilyn arferion hylendid bwyd da, gan gynnwys diogelu yn erbyn halogiad a rheoli plâu.
Gair i gall
Pan fyddwch chi’n dewis safle newydd, neu’n gwneud newidiadau i’r safle, mae’n syniad da gofyn i’ch awdurdod lleol am gyngor.
Mae’r rheolau canlynol yn berthnasol i’ch holl safleoedd, nid dim ond y mannau sy’n cael eu defnyddio i baratoi bwyd.
Cyfleusterau golchi dwylo a thoiledau
Mae’n rhaid i chi fod â digon o sinciau er mwyn i bawb sy’n gweithio yn y busnes allu golchi eu dwylo gyda dŵr poeth ac oer a deunyddiau ar gyfer glanhau dwylo a’u sychu’n hylan.
Cyfleusterau newid
Rhaid i chi ddarparu cyfleusterau digonol i bawb sy’n gweithio i’r busnes newid eu dillad, lle bo angen.
Gofynion eraill
Rhaid i’ch safle fod â systemau awyru, goleuo a draenio digonol.
Mannau paratoi bwyd
Mae’r rheolau canlynol yn berthnasol i ystafelloedd lle mae bwyd yn cael ei baratoi.
Lloriau a waliau
Rhaid i loriau a waliau fod:
-
mewn cyflwr da
-
yn hawdd eu glanhau
-
wedi’u diheintio
-
yn llyfn, yn gadarn ac yn olchadwy
Nenfydau
Dylai nenfydau fod:
-
mewn cyflwr da
-
yn hawdd eu glanhau er mwyn atal baw rhag cronni
-
yn rhydd rhag anwedd a llwydni
-
heb baent na phlastr sy’n dod i ffwrdd
Ffenestri a drysau
Rhaid i ffenestri ac unrhyw agoriadau eraill (fel drysau) fod wedi’u hadeiladu mewn modd sy’n atal baw rhag cronni. Os ydynt yn agor i fynd allan, rhaid iddynt fod â sgriniau atal pryfed y gellir eu tynnu’n hawdd i’w glanhau.
Rhaid i ddrysau fod yn hawdd eu:
-
glanhau
-
diheintio
Arwynebau
Rhaid i arwynebau (gan gynnwys arwynebau offer) mewn mannau lle mae bwyd yn cael ei drin, yn enwedig y rhai hynny sy’n dod i gysylltiad â bwyd, fod:
-
mewn cyflwr da
-
yn hawdd eu glanhau
-
wedi’u diheintio
Cyfleusterau ar gyfer glanhau offer
Rhaid i’ch safle fod â chyfleusterau digonol ar gyfer glanhau, diheintio a storio offer. Rhaid i’r cyfleusterau fod â chyflenwad digonol o ddŵr poeth ac oer.
Cyfleusterau ar gyfer golchi bwyd
Rhaid darparu sinciau ar wahân, lle bo angen, ar gyfer golchi bwyd a glanhau offer mewn mannau paratoi bwyd.
Rhaid i bob sinc fod â chyflenwad digonol o ddŵr poeth ac oer ar gyfer golchi bwyd a rhaid i’r dŵr fod yn addas i’w yfed. Rhaid cadw’r cyfleusterau hyn yn lân a’u diheintio.
Offer
Rhaid i’r holl eitemau, ffitiadau ac offer sy’n dod i gysylltiad â bwyd fod:
-
mewn trefn a chyflwr da
-
wedi’u glanhau’n effeithiol a’u diheintio’n ddigon aml i osgoi unrhyw risg o halogi
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am gynnal a chadw yn ein canllawiau Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell ar gyfer Arlwywyr.
Gwastraff bwyd
Rhaid i bob busnes bwyd waredu gwastraff yn ddiogel ac yn briodol.
Er mwyn sicrhau nad yw eich cegin, nac unrhyw eiddo cyfagos, yn gorlifo â gwastraff a charthion, dylech roi’r holl wastraff bwyd yn y bin yn hytrach na’r sinc a defnyddio hidlenni masnachol ar gyfer sinciau er mwyn atal braster, olew, saim a darnau bach o wastraff bwyd rhag mynd i mewn i’r system garthffosiaeth.
Dylech chi sychu platiau a phadelli â phapur cegin cyn eu golchi, a gosod offer rheoli saim, fel trap saim neu uned gwaredu saim. Rhaid cynnal a chadw’r offer hyn i gael gwared ar unrhyw fraster, olew a saim sy’n weddill sy’n mynd i mewn i’r draen.
Gellir dod o hyd i fwy o gyngor yng nghanllawiau’r Gymdeithas Offer Gwasanaeth Bwyd ar reoli braster, olew a saim.
Nid yn unig y gall rhwystrau achosi llifogydd yn eich eiddo, ond gallech hefyd fod mewn perygl o gael eich erlyn os bydd eich busnes yn gwaredu braster, olew a saim yn ddiofal. Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol i wirio’r ffordd gywir o waredu gwastraff yn gyfrifol.
Rhaid i chi hefyd gael gwared ar wastraff bwyd a sbwriel arall o ystafelloedd sy’n cynnwys bwyd cyn gynted â phosib er mwyn osgoi sefyllfa lle gallai gronni a denu plâu.
Dyma’r tri phrif grŵp o blâu sydd i’w gweld mewn busnesau bwyd:
-
cnofilod (‘rodents’) – llygod mawr a llygod
-
pryfed – chwilod du, chwilod, morgrug a gwybed
-
adar – colomennod ac ati
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am reoli plâu yn ein pecyn Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell ar gyfer Arlwywyr.
Hyfforddiant diogelwch bwyd (Rhan 3): Rheoli plâu
Yr hyn sydd angen i chi ei wybod a’i wneud i gadw plâu allan o’ch busnes.
Diogelwch tân
Rhaid i chi gynnal asesiad risg tân yn eich safle a chymryd rhagofalon diogelwch tân i’ch diogelu chi, eich staff a’ch cwsmeriaid.
Bydd y mesurau diogelu y bydd angen i chi eu rhoi ar waith yn dibynnu ar ganlyniad asesiad risg tân o’r safle.
Os ydych yn bwriadu addasu eich safle, mae’n syniad da cael cyngor diogelwch tân cyn i chi ddechrau arni. Gallwch gael cyngor gan eich awdurdod tân lleol.
Sgôr Hylendid Bwyd
Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn rhoi sgôr allan o 5 i fusnesau fel y gall defnyddwyr wneud dewisiadau gwybodus ynghylch ble i brynu a bwyta bwyd.
Bydd yr awdurdod lleol yn arolygu eich busnes bwyd ac yn cyhoeddi’r sgôr.
Mae’r sgôr uchaf o 5 o fewn cyrraedd pob busnes. Os na fyddwch chi’n cyrraedd y sgôr hon, bydd y swyddog diogelwch bwyd yn nodi’r gwelliannau y mae angen i chi eu rhoi ar waith ac yn rhoi cyngor ymarferol ar sut i gael sgôr uwch.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalen Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd: canllawiau i fusnesau.
Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn amrywio yn dibynnu a ydych yng Nghymru, Gogledd Iwerddon neu Loegr.
Rhestr wirio ar gyfer dewis y safle cywir
Cyfleusterau golchi dwylo a thoiledau
Mae’n rhaid i chi fod â digon o sinciau er mwyn i bawb sy’n gweithio yn y busnes allu golchi eu dwylo.
Cyfleusterau newid
Rhaid i chi ddarparu cyfleusterau digonol i bawb sy’n gweithio i’r busnes newid eu dillad, lle bo angen.
Gofynion eraill
Rhaid i’ch safle fod â systemau awyru, goleuo a draenio digonol.
Lloriau a waliau mewn mannau paratoi bwyd
Rhaid i loriau a waliau fod mewn cyflwr da, yn hawdd eu glanhau, wedi’u diheintio, yn llyfn, yn gadarn ac yn olchadwy.
Nenfydau mewn mannau paratoi bwyd
Dylai nenfydau fod yn hawdd eu glanhau, mewn cyflwr da, yn rhydd rhag llwydni, anwedd (‘condensation’) a phaent neu blaster sy’n dod i ffwrdd.
Ffenestri a drysau
Ni ddylid gadael i faw gronni ar ffenestri a drysau. Os ydynt yn agor i fynd allan, mae’n rhaid iddynt fod â sgriniau atal pryfed y gellir eu glanhau’n hawdd.
Arwynebau
Rhaid cadw arwynebau (gan gynnwys arwynebau offer) mewn mannau lle mae bwyd yn cael ei drin mewn cyflwr da a sicrhau eu bod yn hawdd eu glanhau a’u diheintio er mwyn osgoi halogiad.
Cyfleusterau ar gyfer glanhau offer
Rhaid i’ch safle fod â chyfleusterau digonol ar gyfer glanhau, diheintio a storio offer, gan gynnwys offer i osgoi halogiad.
Cyfleusterau ar gyfer golchi bwyd
Rhaid darparu sinciau ar wahân ar gyfer golchi bwyd a glanhau offer mewn mannau paratoi bwyd.
Offer
Rhaid cadw’r holl eitemau, ffitiadau ac offer y mae bwyd yn dod i gysylltiad â nhw mewn cyflwr da a’u glanhau’n effeithiol i osgoi unrhyw risg o halogiad.
Gwastraff bwyd
Rhaid i chi gael gwared ar wastraff bwyd a sbwriel arall, a bod â chyfleusterau digonol ar gyfer storio a gwaredu bwyd.
Atal plâu
Darganfyddwch fwy am reoli plâu yn ein canllawiau Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell.
Diogelwch tân
Rhaid i chi gynnal asesiad risg tân yn eich safle. Gallwch gael cyngor ar hyn gan eich awdurdod tân lleol.
Paratoi ar gyfer eich arolygiad hylendid bwyd
Bydd yr awdurdod lleol yn arolygu eich busnes bwyd ac yn cyhoeddi’r sgôr. Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael i’ch helpu i baratoi ar gyfer eich arolygiad cyntaf.
Dechrau busnes bwyd o’ch cartref
Er efallai na fyddwch yn diffinio eich hun fel busnes, os ydych yn darparu bwyd yn rheolaidd ac yn drefnus, rydych yn fusnes bwyd o dan gyfraith bwyd.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru fel busnes bwyd, bydd swyddogion yr awdurdod lleol yn gwneud trefniadau i ymweld â’ch cartref i gynnal arolygiad hylendid bwyd. Diben yr arolygiad hwn yw asesu a yw’ch mannau paratoi bwyd a’ch gweithdrefnau diogelwch bwyd yn addas ar gyfer rhedeg busnes bwyd.
Gair i gall
Cofiwch, os ydych chi’n cyflenwi bwyd yn rheolaidd i’r cyhoedd (am ddim neu fel arall), mae angen i chi gofrestru fel busnes bwyd.
Rheoli gwastraff bwyd
Rhaid i bob busnes bwyd, gan gynnwys busnesau sy’n gweithredu o gartref, waredu gwastraff yn ddiogel ac yn briodol.
Er mwyn sicrhau nad yw eich cegin yn gorlifo â gwastraff a charthion, dylech roi’r holl wastraff bwyd yn y bin yn hytrach na’r sinc a defnyddio hidlenni ar gyfer sinciau er mwyn atal braster, olew, saim a darnau bach o wastraff bwyd rhag mynd i mewn i’r system garthffosiaeth.
Yn hytrach nag arllwys unrhyw frasterau coginio ac olew yn y sinc, gellir casglu’r rhain mewn cynhwysydd fel jar jam neu bot iogwrt. Mae’r braster, olew a saim yn caledu wrth iddynt oeri. Unwaith y byddant yn galed, dylech eu rhoi yn y bin. Gellir amsugno unrhyw fwydydd hylifol, fel grefi, gan ddefnyddio papur cegin neu bapur newydd ac yna eu rhoi yn y bin hefyd.
Mae’n bwysig cael gwared ar fraster, olew a saim yn y modd hwn nid yn unig oherwydd eu bod yn gallu achosi llifogydd yn eich cartref, ond oherwydd y gallech chi fod mewn perygl o gael eich erlyn os bydd eich busnes yn gwaredu braster, olew a saim yn ddiofal. Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol i wirio’r ffordd gywir o waredu gwastraff yn gyfrifol.
Gofynion ymarferol ar gyfer sefydlu busnes bwyd gartref
Cofrestru fel person hunangyflogedig
Pan fyddwch chi’n dechrau busnes bwyd o’ch cartref, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF eich bod chi’n hunangyflogedig. Mae hyn i’w rhybuddio y byddwch chi’n talu treth trwy Hunanasesiad. Mae angen i chi gofrestru fel person hunangyflogedig wrth ddechrau busnes bwyd, hyd yn oed os ydych yn gweithio’n rhan-amser neu os oes gennych chi swydd arall.
Dylech chi gofrestru ar wefan GOV.UK i ddilysu eich cyfrif a chadarnhau manylion eich busnes bwyd. Gall methu â chofrestru arwain at ddirwy.
Mae gan CThEF ganllawiau pellach ar weithio i chi’ch hun a sut i wirio a ddylech chi sefydlu fel cwmni cyfyngedig yn lle hynny.
Rhedeg busnes o’ch cartref
Mae gan y llywodraeth ganllawiau ar gyfer rhedeg busnes o’ch cartref. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar y canlynol:
-
cael caniatâd gan eich darparwr morgais neu’ch landlord
-
cael caniatâd gan y cyngor lleol
-
yswiriant
-
lwfansau treth
-
cyfraddau busnes
-
iechyd a diogelwch
Rhestr wirio ar gyfer dechrau busnes bwyd o’ch cartref
Cofrestru gyda’ch awdurdod lleol
Dylech gofrestru gyda’ch awdurdod lleol o leiaf 28 diwrnod cyn i chi ddechrau eich busnes bwyd.
Gwirio bod gennych chi’r caniatâd priodol
Os ydych chi’n rhedeg eich busnes o’ch cartref, neu mewn safle domestig, mae angen i chi sicrhau bod gennych chi’r caniatâd priodol.
Cofrestru fel person hunangyflogedig
Wrth ddechrau busnes bwyd, mae angen i chi roi gwybod i CThEF eich bod yn hunangyflogedig.
Cysylltu â’ch awdurdod lleol am gyngor
Efallai y bydd canllawiau defnyddiol ar wefan eich awdurdod lleol ynglŷn â dechrau eich busnes bwyd.
Sefydlu gweithdrefnau diogelwch bwyd
Dylech chi fod â gweithdrefn ddiogelwch ar waith ar gyfer eich busnes bwyd.
Ystyried hyfforddiant diogelwch bwyd
Cysylltwch â’r tîm Diogelwch Bwyd neu Iechyd yr Amgylchedd yn eich awdurdod lleol i gael cyngor ar gyrsiau hyfforddi perthnasol ar ddiogelwch bwyd.
Arfer hylendid bwyd da
Mae hylendid bwyd da yn hanfodol i wneud yn siŵr bod y bwyd rydych chi’n ei weini yn ddiogel i’w fwyta.
Paratoi eich safle i redeg busnes bwyd
Rhaid cadw safle eich busnes bwyd, a allai fod eich cartref, yn lân a’i gynnal mewn cyflwr da.
Sicrhau eich bod yn rheoli gwastraff yn gywir
Rhaid i bob busnes bwyd, gan gynnwys busnesau sy’n gweithredu o gartref, waredu gwastraff yn ddiogel ac yn briodol.
Gair am werthu bwyd heb gyswllt wyneb yn wyneb a’i ddosbarthu’n ddiogel
Mae mwy o wybodaeth am werthu heb gyswllt wyneb yn wyneb a thrwy ddosbarthu i’w chael yn yr adran ar werthu bwyd i’w ddosbarthu.
Darparu gwybodaeth am alergenau a dilyn rheolau labelu
Mae’n ofynnol i fusnesau bwyd o bob maint ddarparu gwybodaeth am alergenau.
Paratoi ar gyfer eich arolygiad hylendid bwyd cyntaf
Fel busnes bwyd newydd sy’n gweini neu’n cyflenwi bwyd yn uniongyrchol i’r cyhoedd, bydd y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn berthnasol i chi.
Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn rhoi sgôr o 0 i 5 i fusnesau, fel y gall defnyddwyr wneud dewisiadau gwybodus ynghylch ble i brynu a bwyta bwyd.
Dyma ystyr y sgoriau hylendid:
-
5 – mae’r safonau hylendid yn dda iawn
-
4 – mae’r safonau hylendid yn dda
-
3 – mae’r safonau hylendid yn foddhaol ar y cyfan
-
2 – mae angen gwella’r safonau hylendid rhywfaint
-
1 – mae angen gwella’r safonau hylendid yn sylweddol
-
0️ – mae angen gwella ar frys
Bydd eich sgôr yn seiliedig ar yr hyn a welir ar ddiwrnod yr arolygiad. Bydd swyddogion awdurdodedig o dîm Diogelwch Bwyd eich awdurdod lleol yn cynnal yr arolygiad.
Bydd y swyddog awdurdodedig fel arfer yn Swyddog Diogelwch Bwyd neu’n Swyddog Iechyd yr Amgylchedd o’ch awdurdod lleol, nid yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Bydd y swyddog yn arolygu’ch safle i wirio a yw eich busnes yn cydymffurfio â chyfraith bwyd ac yn cynhyrchu bwyd sy’n ddiogel i’w fwyta.
Gweler Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd: canllawiau i fusnesau i gael mwy o wybodaeth am y cynllun.
Mae’r adran dechrau eich busnes bwyd yn ddiogel ar y dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am arferion hylendid bwyd da y gallwch eu defnyddio yn eich busnes.
Mae gennym hefyd ystod o becynnau gwybodaeth Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell i helpu i gefnogi busnesau yng Nghymru a Lloegr i reoli diogelwch bwyd.
Dylai busnesau yng Ngogledd Iwerddon gyfeirio at ein canllawiau Arlwyo Diogel.
Trefnu arolygiad hylendid bwyd
Pan fyddwch yn cofrestru fel busnes bwyd gyda’ch awdurdod lleol, bydd eich tîm diogelwch bwyd lleol yn cael gwybod yn awtomatig. Does dim angen i chi gysylltu â nhw gan y bydd arolygiad yn cael ei drefnu os oes angen.
Sylwer: bydd busnesau risg uwch yn cael eu blaenoriaethu dros fusnesau risg isel, ac, mewn rhai achosion, gall sawl mis fynd heibio cyn i’ch busnes gael ei arolygiad cyntaf.
Arolygiadau hylendid bwyd dirybudd
Fel arfer, bydd swyddogion awdurdodedig o’ch awdurdod lleol yn cyrraedd heb drefnu apwyntiad.
Mae ganddynt yr hawl i fynd i mewn i’ch safle a’i arolygu ar unrhyw adeg resymol. Mae’n rhaid iddynt ddangos cerdyn adnabod cyn dechrau cynnal yr arolygiad.
Ar gyfer busnesau bwyd sy’n gweithio o gyfeiriad cartref, bydd swyddog awdurdodedig yn gwneud trefniadau i ymweld â’ch cartref i gynnal arolygiad hylendid bwyd.
Beth sy’n digwydd yn ystod arolygiad hylendid bwyd
Fel rhan o’r arolygiad hylendid bwyd, bydd swyddogion awdurdodedig yn edrych ar:
-
eich safle
-
hylendid wrth drin bwyd
-
eich system rheoli diogelwch bwyd
Dyma fideo sy’n trafod sut i baratoi ar gyfer eich arolygiad hylendid bwyd.
Yn ogystal ag edrych ar eich cofnodion a gweithdrefnau, efallai y bydd swyddogion yn cymryd samplau bwyd neu’n tynnu lluniau ohonynt.
Nid yw’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn ymdrin â’r canlynol:
-
ansawdd eich bwyd
-
gwasanaeth cwsmeriaid
-
sut y caiff y bwyd ei gyflwyno a’ch sgiliau coginio
Nid yw arolygwyr yn ymweld er mwyn dod o hyd i ddiffygion nac i gau eich busnes. Pwrpas yr arolygiad yw rhoi cefnogaeth i’ch helpu i ddarparu bwyd diogel. Byddan nhw’n rhoi arweiniad ac adborth ac yn awgrymu camau unioni i’ch helpu i wneud pethau’n iawn os nad ydych chi’n cydymffurfio â chyfraith bwyd. Cofiwch, mae’r sgôr uchaf o 5 o fewn cyrraedd pob busnes.
Mae mwy o wybodaeth am arolygiadau ac eithriadau ar ein tudalennau ynghylch y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd i fusnesau.
Beth mae swyddogion yn ei wneud yn ystod arolygiad
I gael gwybod mwy am yr hyn y mae swyddogion yn ei wneud yn ystod arolygiad, gweler ein blogiau:
-
Beth i’w ddisgwyl yn ystod arolygiad: gair gan Swyddog Diogelwch Bwyd
-
Beth sy’n digwydd yn ystod arolygiad busnes bwyd? Gwnaethom ofyn i Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd
Efallai yr hoffech chi hefyd wylio’r fideo hwn gan Gyngor Dinas San Steffan.
Diogelwch bwyd – arolygiadau hylendid bwyd (Cyngor Dinas San Steffan)
Beth sy’n digwydd ar ôl arolygiad
Byddwch yn cael llythyr cadarnhad yn amlinellu unrhyw welliannau angenrheidiol y gallai fod angen i chi eu gwneud. Os bydd angen i chi wneud rhai newidiadau i’ch ffordd o weithredu, byddwch yn cael cyfnod rhesymol o amser i wneud yr addasiadau perthnasol. Mae hyn oni bai bod risg uniongyrchol i iechyd y cyhoedd.
Gweler ein tudalennau am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd i fusnesau i gael mwy o wybodaeth, gan gynnwys:
-
pryd, ble a phwy sy’n cyhoeddi eich sgôr hylendid bwyd
-
gwneud cais am arolygiad ail-sgorio
-
pa mor aml y caiff safleoedd eu harolygu
-
arddangos eich sgôr hylendid bwyd
Gwerthu bwyd i’w ddosbarthu
Mae’r wybodaeth hon ar gyfer busnesau sy’n gwerthu bwyd i’w ddosbarthu, naill ai heb gyswllt wyneb yn wyneb â’r defnyddiwr, neu o safle tecawê.
Gwerthu bwyd heb gysylltiad wyneb yn wyneb â’r defnyddiwr
Pan fyddwch yn gwerthu bwyd heb gysylltiad wyneb yn wyneb â’r defnyddiwr, mae’r bwyd rydych yn ei werthu yn ddarostyngedig i gyfraith y DU. Y brif ddeddf ar y math hwn o werthu yw Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Chostau Ychwanegol) 2013.
Mae’r gyfraith hon yn berthnasol i’r holl nwyddau a gaiff eu gwerthu heb gysylltiad wyneb yn wyneb â’r defnyddiwr, nid bwyd yn unig.
Mae dulliau gwerthu’n cynnwys:
-
ar-lein trwy eich gwefan eich hun neu wefan allanol fel Deliveroo
-
negeseuon testun
-
galwadau ffôn
-
teledu rhyngweithiol
-
archebu drwy’r post
-
trwy’r cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft Facebook Marketplace
Fel gydag unrhyw fusnes bwyd, mae angen i chi gofrestru eich busnes bwyd 28 diwrnod cyn agor. Gall adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod hefyd gynnig cyngor ar gydymffurfio â chyfreithiau diogelwch bwyd a hylendid bwyd.
Gwerthu bwyd ar-lein
Mae’r canllawiau isod yn darparu gwybodaeth i fusnesau sy’n gwerthu bwyd ar-lein, ac maent yn amlinellu’r gofynion cyfreithiol ac ystyriaethau diogelwch.
Rydym hefyd wedi cynhyrchu canllawiau i awdurdodau lleol wrth ddelio â busnesau sy’n gwerthu bwyd dros y rhyngrwyd:
Mae’r gyfraith yn nodi:
-
gwybodaeth y mae’n rhaid i’r gwerthwr ei rhoi i’r defnyddiwr cyn gwerthu
-
hawliau i ganslo’r contract
-
adfer arian sydd wedi’i dalu wrth ganslo
-
adfer nwyddau gan y defnyddiwr ar ôl canslo
-
dosbarthu bwyd a diod i gartref neu weithle defnyddiwr
Os ydych chi’n gwerthu dros y rhyngrwyd, bydd Rheoliadau Masnach Electronig y DU 2002 hefyd yn berthnasol i’ch busnes.
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am werthu ar-lein a gwerthu heb gyswllt wyneb yn wyneb â’r defnyddiwr ar wefan GOV.UK.
Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB
Nid yw deddfwriaeth sy’n uniongyrchol gymwys i’r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Gwnaeth deddfwriaeth yr UE a gafodd ei dargadw wrth i’r DU ymadael â’r UE droi’n gyfraith a gymathwyd (‘assimilated law’) ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Dylai cyfeiriadau at ‘gyfraith yr UE a ddargedwir’ neu ‘REUL’ bellach gael eu hystyried yn gyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.
Ar gyfer busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).
Gwybodaeth am alergenau ar gyfer dosbarthiadau bwyd
Mae angen i fusnesau bwyd ddweud wrth gwsmeriaid os yw’r bwyd y maent yn ei ddarparu yn cynnwys unrhyw un o’r alergenau penodedig fel cynhwysyn. Mae’r 14 alergen hyn wedi’u dewis oherwydd mai dyma’r rhai mwyaf cyffredin a pheryglus.
Gall defnyddwyr fod ag alergedd neu anoddefiad i gynhwysion eraill, ond dim ond ar gyfer yr 14 alergen hyn y mae’n rhaid i chi roi gwybodaeth yn ôl y gyfraith.
Dyma’r 14 alergen:
-
bysedd y blaidd (‘lupin’)
-
cnau coed (fel cnau almon, cnau cyll, cnau Ffrengig, cnau Brasil, cnau cashiw, cnau pecan, cnau pistasio a chnau macadamia)
-
cramenogion (fel corgimychiaid, crancod a chimychiaid)
-
ffa soia
-
grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten (fel haidd (‘barley’) a cheirch)
-
llefrith
-
molysgiaid (fel cregyn gleision ac wystrys)
-
mwstard
-
pysgnau
-
pysgod
-
seleri
-
sesame
-
sylffwr deuocsid a sylffitau (os ydynt mewn crynodiad o fwy na deg rhan fesul miliwn)
-
wyau
Os yw bwyd yn cael ei werthu ar-lein neu dros y ffôn trwy ddulliau gwerthu o bell, rhaid darparu gwybodaeth am alergenau yn ystod dau gam yn y broses archebu.
Rhaid i chi ddarparu gwybodaeth am alergenau:
-
cyn i’r cwsmer orffen prynu’r bwyd – gall hyn fod yn ysgrifenedig (ar wefan, mewn catalog neu ar fwydlen) neu ar lafar (dros y ffôn)
-
pan gaiff y bwyd ei ddosbarthu – gall hyn fod yn ysgrifenedig (sticeri alergenau ar fwyd neu gopi amgaeedig o fwydlen) neu ar lafar (gan yr unigolyn sy’n dosbarthu’r bwyd i chi)
Mae’n bwysig bod busnesau bwyd yn cymryd camau i atal croeshalogi wrth baratoi bwyd. Mae hyn yn diogelu cwsmeriaid sydd ag alergedd bwyd.
Mae yna nifer o gamau y gallwch eu cymryd i atal croeshalogi ag alergenau yn eich busnes bwyd. Mae’r rhain yn cynnwys:
-
glanhau offer cyn pob defnydd
-
golchi dwylo’n drylwyr yn rheolaidd
-
storio cynhwysion a bwydydd wedi’u paratoi ar wahân
-
cadw cynhwysion sy’n cynnwys alergenau ar wahân i gynhwysion eraill
-
dylai prydau tecawê gael eu labelu’n glir, fel bod cwsmeriaid yn gwybod pa brydau sy’n addas i’r rheiny sydd ag alergedd
Protocol dosbarthu bwyd
Os ydych chi’n dosbarthu archebion bwyd, mae’n rhaid i’r holl fwyd gael ei ddosbarthu i’r defnyddiwr mewn ffordd sy’n sicrhau na ddaw’n anniogel nac yn anaddas i’w fwyta.
Os ydych chi’n defnyddio cerbyd domestig (neu gerbyd busnes nad yw’n gysylltiedig â’r diwydiant bwyd) i gludo eich archebion bwyd, mae angen bodloni gofynion hylendid a manylebau cerbyd penodol.
Deunydd pecynnu sy’n addas i’w ddefnyddio â bwyd
Os ydych chi’n dosbarthu archebion bwyd, mae’n bwysig dewis deunydd pecynnu bwyd sy’n addas i’w ddefnyddio â bwyd.
Er enghraifft, efallai y bydd gofyn i ddeunyddiau pecynnu allu gwrthsefyll hylif neu fraster er mwyn atal bwyd rhag gollwng, neu i atal papur rhag cael ei wlychu drwyddo draw.
Heb y math hwn o ddeunydd pecynnu, gallai halogion cemegol neu germau drosglwyddo i’r bwyd. Bydd caeadau sy’n ffitio’n dda hefyd yn lleihau unrhyw risgiau hylendid neu fwyd yn gollwng.
Tymheredd
Rhaid cadw bwyd sydd angen ei oeri yn oer wrth ei gludo. Efallai y bydd angen pacio’r bwyd mewn blwch wedi’i inswleiddio gyda gel oeri neu mewn bag oer.
Mae’n rhaid anfon bwyd a anfonir drwy’r post at ddefnyddwyr mewn deunydd pecynnu sy’n ddigon cryf i aros mewn un darn. Ar ôl ei anfon, dylid dosbarthu’r bwyd cyn gynted â phosib, dros nos yn ddelfrydol.
Pan fo’r cwsmer yn archebu, mae’n rhaid dweud wrtho pryd y gall ddisgwyl y pecyn.
Rhestr wirio ar gyfer gwerthu bwyd i’w ddosbarthu
Cofrestru eich busnes bwyd
Mae angen i chi gofrestru eich busnes bwyd 28 diwrnod cyn agor.
Gwirio eich bod yn cydymffurfio â’r gyfraith
Y brif ddeddf ar werthu o bell yw Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Chostau Ychwanegol) 2013. Os ydych chi’n gwerthu dros y rhyngrwyd, bydd Rheoliadau Masnach Electronig y DU 2002 hefyd yn berthnasol i’ch busnes.
Darparu gwybodaeth am alergenau i gwsmeriaid
Rhowch wybod i’ch cwsmeriaid os yw’r bwyd rydych chi’n ei ddarparu yn cynnwys unrhyw un o’r alergenau penodedig fel cynhwysyn. Rhaid i chi ddarparu gwybodaeth am alergenau cyn i’r bwyd gael ei brynu a phan fydd y bwyd yn cael ei ddosbarthu.
Atal croeshalogi
Cymerwch gamau i atal croeshalogi ag alergenau.
Bodloni gofynion hylendid cerbydau
Gwiriwch fod y cerbyd rydych chi’n ei ddefnyddio i gludo bwyd yn bodloni gofynion hylendid a manylebau cerbyd.
Defnyddio deunydd pecynnu priodol
Dewiswch ddeunydd pecynnu priodol o’r safon iawn ar gyfer bwyd a gaiff ei ddosbarthu. Rhaid cadw bwyd sydd angen ei oeri yn oer wrth ei gludo, er enghraifft mewn bag oer.
Mae’n rhaid anfon bwyd a anfonir drwy’r post at ddefnyddwyr mewn deunydd pecynnu sy’n ddigon cryf i aros mewn un darn.
Rhannu’r diweddaraf â chwsmeriaid
Rhaid dweud wrth y defnyddiwr pryd y gall ddisgwyl ei archeb. Dylid dosbarthu’r bwyd cyn gynted â phosib, dros nos yn ddelfrydol.
Newid model gweithredu eich busnes
Os byddwch yn newid y model gweithredu ar gyfer eich busnes bwyd, fel gwerthu bwyd ar-lein, gwerthu bwyd o uned symudol, neu arallgyfeirio eich busnes, mae’n bwysig deall y risgiau diogelwch ychwanegol y gallai hyn eu cyflwyno.
Mae’r canllawiau hyn ar newid eich model busnes yn cynnwys y camau y mae’n rhaid i chi eu cymryd i fynd i’r afael â’r risgiau hyn, a sut i gyfleu’r rhain i’ch cwsmeriaid yn effeithiol.
Rhoi gwybod i’ch awdurdod lleol
Rhaid i chi sicrhau bod gan eich awdurdod lleol wybodaeth gyfredol am eich busnes bwyd.
Dylech chi roi gwybod i’ch awdurdod lleol am unrhyw newidiadau i’ch gweithgareddau bwyd cofrestradwy. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno gwasanaeth dosbarthu neu wasanaeth tecawê newydd.
Efallai na fydd angen i’r awdurdod lleol arolygu eich trefniadau busnes newydd, ond dylech roi gwybod i’r awdurdod am unrhyw newidiadau a allai gyflwyno risgiau ychwanegol i’ch prosesau cynhyrchu bwyd.
Dylech chi roi gwybod i’ch awdurdod lleol os byddwch yn:
-
penderfynu peidio â dechrau masnachu
-
cynllunio gwneud newidiadau sylweddol i’ch model busnes presennol
-
cynllunio cau eich busnes bwyd
-
ychwanegu enwau masnachu ychwanegol
Asesu risg
Dylai busnesau bwyd sydd wedi gwneud newidiadau adolygu a diweddaru eu gweithdrefnau Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP) neu eu System Rheoli Diogelwch Bwyd sy’n seiliedig ar HACCP.
Dysgwch fwy drwy ddarllen:
Dylech chi wirio nad yw’r newidiadau a wnaethoch wedi cyflwyno unrhyw beryglon ychwanegol nad ydych yn eu rheoli.
Mae’n rhaid i chi:
-
gofnodi unrhyw newidiadau a wnewch
-
cofnodi’r gwiriadau cychwynnol rydych chi’n eu cynnal
Dylai eich asesiad risg ystyried effaith y newidiadau hyn ar eich arferion hylendid a diogelwch bwyd arferol.
Dylech chi sicrhau bod pob aelod o staff yn ymwybodol o newidiadau i’ch Systemau Rheoli Diogelwch Bwyd, a gwneud yn siŵr eu bod yn cael hyfforddiant pan fydd prosesau’n newid.
Cymorth a chefnogaeth ychwanegol
Gall eich busnes gael cyngor ar y canlynol:
Efallai y bydd gennych chi gyfrifoldebau eraill, yn dibynnu ar yr hyn y mae eich busnes bwyd yn ei wneud.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio:
-
trwyddedau neu ddogfennau caniatâd er enghraifft i werthu bwyd neu i fasnachu ar y stryd
-
bod gan eich cyflogeion yr hawl i weithio yn y DU
Mae gan bob cyflogwr yn y DU gyfrifoldeb i atal gweithio anghyfreithlon. Rydych chi’n gwneud hyn trwy gynnal gwiriadau hawl i weithio syml cyn i chi gyflogi rhywun.
Mae hefyd reolau y mae’n rhaid i chi eu dilyn os ydych yn:
-
storio neu ddefnyddio gwybodaeth bersonol – mae hyn yn berthnasol i wybodaeth a gedwir am staff, cwsmeriaid a deiliaid cyfrifon
Cymru
Gwasanaeth rhad ac am ddim yw Busnes Cymru sy’n cynnig cymorth a chyngor diduedd, annibynnol i bobl sy’n dechrau, yn rhedeg ac yn tyfu busnes yng Nghymru.
Gogledd Iwerddon
Gwasanaeth rhad ac am ddim yw nibusinessinfo.co.uk a gynigir gan Invest Northern Ireland. Dyma’r sianel ar-lein swyddogol ar gyfer cyngor busnes a chefnogaeth wrth ddechrau busnes.
Lloegr
Mae GOV.UK yn darparu gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol ar gyfer dechrau busnes.
I gael canllawiau cyffredinol i fusnesau, gallwch hefyd gysylltu â’r Gwasanaeth Cymorth Busnes cenedlaethol. Yn ogystal, gallwch ddod o hyd i gymorth, cyngor a ffynonellau cyllid am ddim trwy eich hwb twf lleol.
Cofiwch:
Pan fyddwch chi’n dechrau busnes bwyd newydd neu’n cymryd busnes drosodd sy’n bodoli’n barod, rhaid i chi gofrestru gyda’ch awdurdod lleol.
Updates to this page
-
Broken links fixed throughout.
-
Added translation