Systemau rheoli diogelwch bwyd ar gyfer busnesau
Trosolwg
Os ydych chi’n rhedeg busnes bwyd, mae angen i chi fod â system rheoli diogelwch bwyd ar waith i wneud yn siŵr bod eich bwyd yn ddiogel i’w fwyta.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae system rheoli diogelwch bwyd yn set ysgrifenedig o brosesau, gwiriadau, rheolau a chofnodion. Fel arfer mae’n cynnwys pethau fel:
- rheolau ar gyfer glanhau a hylendid
- gweithdrefnau coginio a storio diogel
- mesurau rheoli alergenau
- hyfforddiant staff
- gwiriadau tymheredd
Rhaid i’ch system rheoli diogelwch bwyd fodloni egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP).
Mae rheolau gwahanol ar gyfer HACCP mewn ffatrïoedd cig.
Egwyddorion HACCP
Er mwyn bodloni egwyddorion HACCP, bydd angen i chi:
- nodi unrhyw beryglon bwyd y mae angen eu hosgoi, eu gwaredu, neu eu lleihau
- nodi’r pwyntiau rheoli critigol (CCPs) – sef y pwyntiau pan fydd angen i chi atal, gwaredu neu leihau perygl yn eich proses waith
- gosod terfynau ar gyfer y CCPs
- monitro’r CCPs
- rhoi gwiriadau ar waith i sicrhau bod eich system yn gweithio
- cymryd camau unioni os oes problem gyda CCP
- cadw cofnodion o’ch systemau diogelwch bwyd, eich gwiriadau, a’r camau unioni rydych chi wedi’u cymryd
Os bydd eich busnes yn dod yn rhan o ddigwyddiad diogelwch bwyd, bydd angen i chi ddangos eich cofnodion fel tystiolaeth o sut rydych chi’n cadw bwyd yn ddiogel.
Peryglon bwyd
Mae ‘perygl bwyd’ yn golygu unrhyw beth a allai wneud bwyd yn anniogel i’w fwyta.
Dyma’r 3 phrif fath:
- microbiolegol – yn ymwneud â bacteria niweidiol
- cemegol – yn cynnwys cemegion glanhau, alergenau, a halogiad arall
- ffisegol – yn ymwneud â gwrthrychau sy’n mynd i mewn i fwyd