Skip to main content

Eich cyfrifoldebau

Mae ‘busnes bwyd’ yn golygu unrhyw fusnes sy’n:

  • gwerthu bwyd
  • coginio bwyd
  • storio neu’n trin bwyd
  • paratoi bwyd
  • dosbarthu bwyd

Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Eich cyfrifoldebau fel busnes bwyd

Os yw eich busnes yn ymdrin â bwyd, rhaid i chi:

Cofrestru gyda’ch awdurdod lleol

Rhaid i chi gofrestru gyda’ch awdurdod lleol lle bynnag rydych chi’n masnachu, gan gynnwys eich cartref, fan neu stondin.

Efallai y bydd angen i chi gofrestru os ydych chi’n elusen neu grŵp cymunedol sy’n dosbarthu bwyd.

Arolygiadau a sgoriau diogelwch bwyd

Bydd eich busnes bwyd yn cael ei arolygu yn rheolaidd i wneud yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â chyfreithiau diogelwch bwyd.

Byddwch yn cael sgôr hylendid bwyd yn seiliedig ar yr arolygiad.

Yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, mae’n orfodol rhoi’r sticer sy’n dangos eich sgôr mewn man hollol amlwg i gwsmeriaid. Mae hyn yn wirfoddol yn Lloegr.