Digwyddiadau bwyd neu fwyd anifeiliaid: galw a thynnu cynhyrchion yn ôl
Trosolwg
Ystyr digwyddiad bwyd neu fwyd anifeiliaid yw pan fyddwch chi’n gwybod, neu’n amau, fod un neu fwy o’r problemau canlynol yn berthnasol i fwyd neu fwyd anifeiliaid y mae eich busnes wedi’i gynhyrchu neu ei ddosbarthu:
- mae’n niweidiol i iechyd
- nid yw’n ddiogel ei fwyta
- nid yw’n bodloni gofynion cyfreithiol
- mae label y cynnyrch neu’r rhestr gynhwysion yn anghywir neu’n gamarweiniol
- mae’n cynnwys alergenau neu gynhwysion eraill a allai fod yn beryglus nad ydynt wedi’u nodi ar label y cynnyrch
Rhaid i chi gymryd camau gweithredu a rhoi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau bwyd neu fwyd anifeiliaid.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Rhoi gwybod am ddigwyddiad yn yr Alban
Mae ffordd wahanol o roi gwybod am ddigwyddiad bwyd neu fwyd anifeiliaid yn yr Alban.
Os ydych chi eisiau rhoi gwybod am fusnes rhywun arall
Cysylltwch â thîm diogelwch bwyd eich awdurdod lleol os ydych chi o’r farn bod digwyddiad bwyd neu fwyd anifeiliaid wedi codi mewn busnes nad ydych chi’n berchen arno.
Newyddion a rhybuddion am ddigwyddiadau bwyd
Dysgwch fwy am y digwyddiadau bwyd neu fwyd anifeiliaid diweddaraf a’r achosion diweddaraf o alw cynhyrchion yn ôl. Gallwch danysgrifio i gael rhybuddion.