Digwyddiadau bwyd neu fwyd anifeiliaid: galw a thynnu cynhyrchion yn ôl
Rhoi gwybod am y digwyddiad i’r ASB
Fel arfer, bydd eich awdurdod lleol yn cysylltu â’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar eich rhan.
Dylech gysylltu â’r ASB cyn gynted â phosibl os yw’r:
- bwyd neu’r bwyd anifeiliaid wedi’i ddosbarthu y tu allan i’r DU
- digwyddiad yn ddifrifol a bod y cynnyrch wedi cyrraedd cwsmeriaid
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gwybodaeth y dylech ei rhoi i’r ASB
Cofiwch gynnwys yr wybodaeth ganlynol wrth roi gwybod i’r ASB:
- enw eich busnes
- cyfeiriad post llawn a chod post y busnes
- pryd y gwnaethoch chi sylwi ar y digwyddiad
- disgrifiad byr o unrhyw ymchwil hyd yn hyn – manylion y cynnyrch, y meintiau yr effeithir arnynt, unrhyw beryglon a nodwyd a’r effaith ar ddefnyddwyr neu anifeiliaid
- crynodeb o’r camau rydych chi wedi’u cymryd a’r camau rydych chi’n bwriadu eu cymryd
- manylion unrhyw gyngor penodol sydd ei angen arnoch gan yr ASB
- manylion cyswllt lle mae modd cysylltu â chi ar unrhyw adeg, gan gynnwys y tu allan i oriau busnes arferol
Os yw’r cynnyrch wedi’i fewnforio neu ei allforio y tu allan i’r DU, rhaid i chi hefyd gynnwys gwybodaeth ddosbarthu neu olrheiniadwyedd.
Rhaid hefyd gynnwys yr wybodaeth ganlynol os yw ar gael:
- gwybodaeth ddosbarthu ac olrheiniadwyedd
- ffotograffau perthnasol
- copïau o unrhyw dystysgrifau prawf
- canlyniad unrhyw waith dadansoddi gwraidd y broblem, a sut y byddwch chi’n atal digwyddiadau yn y dyfodol
Manylion cyswllt
Anfonwch eich adroddiad drwy e-bost at y tîm perthnasol ar gyfer eich gwlad.
Asiantaeth Safonau Bwyd – Cymru
FSA.IncidentsWales@food.gov.uk
Asiantaeth Safonau Bwyd – Lloegr
Ffôn: 020 7276 8448
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5.30pm
Gall awdurdodau lleol a busnesau bwyd adael neges bob amser
FSA.Incidents@food.gov.uk
Asiantaeth Safonau Bwyd – Gogledd Iwerddon
FSA.IncidentsNI@food.gov.uk