Skip to main content

Digwyddiadau bwyd neu fwyd anifeiliaid: galw a thynnu cynhyrchion yn ôl

Sgipio cynnwys

Beth i’w wneud

Casglwch wybodaeth am y digwyddiad ac ewch ati i olrhain eich cyflenwyr a’ch cwsmeriaid busnes, fel eich bod chi’n gwybod pa fwyd neu fwyd anifeiliaid yr effeithir arnynt a beth yw’r risgiau i ddefnyddwyr.

Yna, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

Os na fyddwch chi’n mynd i’r afael â digwyddiad, gallai eich busnes gael ei atal rhag cynhyrchu bwyd neu fwyd anifeiliaid. Gallech gael dirwy neu, mewn achosion difrifol, gael eich erlyn.

Bydd eich awdurdod lleol yn rhoi gwybod i dîm digwyddiadau’r ASB. Gallwch hefyd roi gwybod i’r ASB eich hun os yw’r bwyd neu’r bwyd anifeiliaid eisoes wedi cyrraedd defnyddwyr neu anifeiliaid.

Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Tynnu cynhyrchion yn ôl

Rhaid i chi dynnu fwyd neu fwyd anifeiliaid sydd wedi’i labelu’n anghywir, nad yw’n cydymffurfio, neu sy’n anniogel yn ôl o’r gadwyn gyflenwi. Gwnewch hyn ar unwaith, cyn iddo gyrraedd defnyddwyr neu anifeiliaid.

Rhaid i chi ddweud wrth unrhyw fusnesau eraill rydych chi wedi gwerthu’r bwyd neu’r bwyd anifeiliaid iddynt am y digwyddiad. Nodwch y canlynol:

  • pa gynnyrch a swp yr effeithir arno
  • pam mae’r cynnyrch wedi’i dynnu’n ôl
  • beth dylen nhw ei wneud nesaf, er enghraifft dychwelyd y cynnyrch neu gael gwared arno’n ddiogel

Galw cynhyrchion yn ôl

Os yw’r bwyd neu’r bwyd anifeiliaid eisoes wedi cyrraedd defnyddwyr neu berchnogion anifeiliaid, mae angen i chi alw’r cynnyrch yn ôl.

Rhaid i chi gysylltu â defnyddwyr. Rhannwch wybodaeth gywir am y canlynol:

  • manylion y cynnyrch, fel yr enw, y maint, y dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ neu ‘defnyddio erbyn’ a chod y swp
  • delwedd o’r cynnyrch
  • y rheswm dros alw’r cynnyrch yn ôl
  • beth dylen nhw ei wneud os ydyn nhw wedi prynu’r cynnyrch, gan gynnwys a yw’n ddiogel ei fwyta, a ddylen nhw ei ddychwelyd ac a allan nhw gael ad-daliad
  • sut i gael gwared ar y cynnyrch yn ddiogel – siaradwch â’ch awdurdod lleol am hyn
  • ble i gael rhagor o wybodaeth

Rhaid i chi gyfathrebu â defnyddwyr yn effeithiol. Gallech ddefnyddio posteri yn eich siop, eich gwefan, cyfryngau cymdeithasol neu gyfathrebiadau marchnata. Gallech hefyd gysylltu â sefydliadau defnyddwyr, cleifion neu alergeddau penodol.

Os ydych chi wedi gwerthu’r cynnyrch i fusnes arall, dywedwch wrtho am roi gwybod i’w gwsmeriaid fod y cynnyrch wedi’i alw yn ôl.

Defnyddiwch y dogfennau templed hyn i’ch helpu i alw cynnyrch yn ôl.

Beth i’w wneud â bwyd a bwyd anifeiliaid anniogel

Os bydd gennych fwyd neu fwyd anifeiliaid sy’n anniogel, sydd wedi’i labelu’n anghywir, neu nad yw’n cydymffurfio, dylech wneud y canlynol:

Efallai y byddwch chi’n gallu gwneud y bwyd neu’r bwyd anifeiliaid yn ddiogel, er enghraifft trwy ail-labelu bwyd fel ei fod yn nodi ei fod yn cynnwys alergen. Rhaid i chi gael caniatâd gan dîm diogelwch bwyd eich awdurdod lleol neu awdurdod iechyd porthladd cyn i chi wneud hyn.