Dod o hyd i’ch tîm diogelwch bwyd lleol
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i roi gwybod am broblem gyda safonau bwyd neu hylendid mewn busnes lleol. Gallwch hefyd roi gwybod am bryderon diogelwch mewn perthynas ag eitemau bwyd sydd wedi’u danfon i’r ardal leol.
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Rhagor o wybodaeth
Gallwch roi gwybod am y canlynol:
- achosion tybiedig o wenwyn bwyd
- deunydd estron yn eich bwyd
- safle budr
- hylendid dwylo gwael
- arferion gwael wrth drin bwyd
- bwyd sydd wedi prydu neu sy’n cynnwys llwydni
- bwyd sy’n cael ei werthu ar ôl ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’
- gwybodaeth am alergenau sy’n anghywir neu sydd ddim ar gael
Ni all timau diogelwch bwyd y cyngor helpu gyda phroblemau ansawdd bwyd na gwasanaeth cwsmeriaid. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth i gael cyngor am eich hawliau fel defnyddiwr.