Rhedeg busnes bwyd
Alergeddau
Rhaid i chi reoli alergeddau bwyd wrth baratoi a gwerthu bwyd. Mae hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth gywir, atal croeshalogi a hyfforddi staff yn briodol.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Dyma’r alergenau y mae’n rhaid i chi eu rheoli:
- bysedd y blaidd (‘lupin’)
- cnau
- cramenogion (‘crustaceans’) – gan gynnwys corgimychiaid, crancod a chimychiaid
- ffa soia
- grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten – gan gynnwys gwenith, rhyg, haidd a cheirch
- hadau sesame
- llaeth
- molysgiaid – gan gynnwys môr lewys (‘squid’), cregyn gleision, cocos, cregyn moch (‘whelks’) a malwod
- mwstard
- pysgnau
- pysgod
- seleri
- sylffwr deuocsid neu sylffitau ar lefelau dros 10mg y cilogram neu’r litr
- wyau
Gwybodaeth am alergenau
Rhaid i chi allu darparu gwybodaeth gywir am alergenau. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol.
Dylech gadw gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau a rhoi gweithdrefnau ar waith er mwyn:
- diweddaru gwybodaeth am alergenau pryd bynnag y bydd ryseitiau neu gynhwysion yn newid
- sicrhau bod yr holl staff yn gwybod am newidiadau i ryseitiau
- gwneud yn siŵr bod staff y gegin yn gwybod pan fydd rhywun wedi archebu pryd heb alergen
- gweini bwyd i’r cwsmer cywir bob amser
Dylech fod â phroses ar waith ar gyfer rhoi gwybodaeth gywir am alergenau i gwsmeriaid, gan gynnwys sut y dylai staff:
- ymateb i gwestiynau am alergenau
- gwirio bod gwybodaeth am alergenau yn gywir cyn ateb
- gwirio os ydyn nhw’n ansicr
Gwnewch yn siŵr bod y staff yn gwybod beth i’w wneud pe bai cwsmer yn cael adwaith alergaidd.
Atal croeshalogi
Rhaid i chi atal croeshalogi alergenau.
Yn ogystal â gweithdrefnau hylendid bwyd cyffredinol i atal croeshalogi, dylech hefyd fod â gweithdrefnau ar waith i allu:
- gwirio danfoniadau i sicrhau bod popeth yn cyfateb i’r hyn a gafodd ei archebu
- storio a labelu’r holl gynhwysion i atal croeshalogi
- delio â gollyngiadau o un cynhwysyn i gynhwysyn arall
Gallwch ddefnyddio’r rhestr wirio alergenau ar gyfer busnesau bwyd.
Hyfforddiant staff
Dylech sicrhau bod yr holl staff yn cael hyfforddiant priodol i reoli alergenau yn eu rôl.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn darparu hyfforddiant ar-lein am ddim ar alergeddau bwyd.
Canllawiau ychwanegol
Darllenwch ganllawiau ychwanegol yr ASB i fusnesau bwyd ar alergenau.
Mae canllawiau hefyd ar gael ar: