Rhedeg busnes bwyd
Arolygiadau bwyd
Gallwch gael eich arolygu gan eich cyngor lleol ar unrhyw adeg yn ystod y broses gynhyrchu a dosbarthu bwyd. Rhaid i bob arolygydd ddilyn y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd. Fel arfer, ni fyddwch yn cael gwybod y bydd arolygiad yn digwydd.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae’r risg y mae eich busnes yn ei pheri i iechyd y cyhoedd yn pennu pa mor aml y cewch eich arolygu. Efallai na fyddwch yn cael eich arolygu mor aml os ydych chi’n aelod o gynllun sicrwydd cydnabyddedig. Gallwch chi chwilio am gynllun sicrwydd cofrestredig ar-lein.
Os ydych chi’n fanwerthwr bwyd neu’n arlwywr, byddwch chi’n cael eich arolygu’n rheolaidd i wneud yn siŵr eich bod chi’n cydymffurfio â chyfreithiau diogelwch bwyd. Darllenwch y canllawiau i arlwywyr a’r canllawiau i fanwerthwyr bwyd.
Dewch o hyd i swyddogion gorfodi yn eich cyngor lleol.
Beth fydd yn cael ei wirio
Bydd yr arolygydd yn gwirio:
- safonau hylendid y busnes wrth drin bwyd – sut mae bwyd yn cael ei baratoi, ei goginio, ei ailgynhesu, ei oeri a’i storio
- cyflwr ffisegol eich busnes – gan gynnwys glendid, cynllun, goleuo, awyru, mesurau rheoli plâu a chyfleusterau eraill
- y prosesau, yr hyfforddiant a’r systemau rydych chi’n eu defnyddio i sicrhau bod hylendid da yn cael ei gynnal
Mae modd cymryd samplau bwyd yn ogystal â thynnu lluniau.
Ar ôl yr arolygiad
Byddwch chi’n cael gwybod yn ysgrifenedig beth yw eich sgôr hylendid bwyd a pham y cawsoch chi’r sgôr hon. Bydd hyn naill ai ar adeg yr arolygiad neu o fewn 14 diwrnod.
Os cewch chi sgôr isel, bydd y llythyr yn cadarnhau unrhyw welliannau y mae angen i chi eu gwneud ac erbyn pryd.
Yn achos problemau diogelwch bwyd difrifol, efallai y byddwch yn cael ‘hysbysiad’. Bydd rhywun yn ailymweld â’ch busnes i wneud yn siŵr eich bod chi wedi dilyn y gwelliannau yn yr hysbysiad. Mae hysbysiadau enghreifftiol yn cynnwys:
- Hysbysiad Gwella Hylendid
- Hysbysiadau Gwahardd Brys at ddibenion Hylendid – mae’r rhain yn eich gwahardd rhag defnyddio offer penodol neu ddilyn prosesau penodol
Apelio
Os ydych chi o’r farn bod eich sgôr yn anghywir, gallwch chi gyhoeddi ymateb, cyflwyno apêl neu ofyn am ‘arolygiad ail-sgorio’.