Sgoriau hylendid bwyd
Apelio, egluro neu wella eich sgôr hylendid bwyd
Cyflwyno apêl
Os ydych chi o’r farn nad yw’ch sgôr yn adlewyrchu safonau hylendid bwyd eich busnes ar yr adeg y cafodd ei arolygu, gallwch gyflwyno apêl i’ch cyngor lleol.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cyn i chi apelio, cysylltwch â’ch tîm diogelwch bwyd lleol i ddeall pam maen nhw wedi rhoi’r sgôr honno i chi.
Sut i apelio
I apelio yn erbyn eich sgôr, defnyddiwch ffurflen apelio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.
Edrychwch ar y llythyr sy’n rhoi gwybod i chi beth yw’ch sgôr, er mwyn dysgu:
- i ba gyfeiriad y mae angen i chi anfon eich ffurflen apêl
- a allwch apelio mewn ffordd arall, fel drwy e-bost
Os byddwch yn apelio cyn pen 21 diwrnod ar ôl cael eich sgôr, ni fydd eich cyngor lleol yn cyhoeddi’r sgôr ar-lein. Bydd eich sgôr yn ymddangos fel ‘i’w chyhoeddi’n fuan’, nes i’r cyngor adolygu’ch apêl.
Bydd eich cyngor lleol yn dweud wrthych chi beth yw’r canlyniad cyn pen 21 diwrnod ar ôl cael eich apêl.
Cyhoeddi ymateb ysgrifenedig (‘hawl i ymateb’)
Gallwch ymateb i’ch sgôr hylendid bwyd er mwyn esbonio:
- sut mae eich busnes wedi gwella ei safonau hylendid bwyd
- unrhyw beth a effeithiodd ar ganlyniad eich arolygiad
Bydd y manylion cyswllt sydd eu hangen arnoch ar y llythyr sy’n rhoi gwybod i chi beth yw eich sgôr. Os na allwch ddod o hyd iddynt, cysylltwch â’ch tîm diogelwch bwyd lleol.
Bydd eich ymateb yn cael ei ddangos ar-lein gyda’ch sgôr.
Gallwch gyflwyno ymateb ar unrhyw adeg.
Gofyn am arolygiad ‘ailsgorio’ newydd
Os gwnewch welliannau i safonau hylendid bwyd eich busnes, gallwch ofyn am arolygiad sgôr hylendid bwyd newydd. Weithiau gelwir hyn yn ‘ailsgorio’, ‘arolygiad ailsgorio’, neu ‘ailymweliad’.
Bydd angen i chi gynnwys manylion a thystiolaeth o’r hyn rydych chi wedi’i wella.
Mae’r rhan fwyaf o gynghorau’n codi ffi am y gwasanaeth hwn. Byddan nhw’n dweud wrthych chi faint yw’r ffi cyn i chi wneud cais.
Ar ôl yr arolygiad, byddwch yn cael sgôr hylendid bwyd newydd. Gallai eich sgôr fynd i fyny, i lawr neu aros yr un fath.