Skip to main content

Systemau rheoli diogelwch bwyd ar gyfer busnesau

Sgipio cynnwys

Gwneud cynllun HACCP

Defnyddiwch y gwasanaeth MyHACCP er mwyn:

  • creu cynllun Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP)
  • diweddaru cynllun HACCP presennol

Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cyn i chi ddechrau

Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth MyHACCP, bydd angen i chi fewngofnodi. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch chi’n gallu eu creu.

I greu cyfrif, bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfeiriad e-bost
  • manylion y busnes, gan gynnwys enw, lleoliad, math a maint

I ddefnyddio’r gwasanaeth, bydd angen y canlynol arnoch:

  • manylion y bwyd rydych chi’n ei wneud neu’n ei drin
  • rhestr gynhwysion, rhestr deunyddiau crai, a rhestr brosesau
  • cofnodion tymheredd ac amserlenni glanhau (os oes gennych chi rai)
  • gwybodaeth am eich cyflenwyr a hyfforddiant staff

Gallwch gadw eich cynnydd a dychwelyd yn ddiweddarach.

Dechrau nawr

Ffyrdd eraill o wneud cynllun HACCP

Gallwch hefyd greu cynllun HACCP gan ddefnyddio:

Cysylltwch â’ch tîm diogelwch bwyd lleol os nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud.